Bydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc eleni.
Mae’r mudiad ieuenctid wedi lansio dwy wobr newydd sy’n dathlu siaradwyr newydd ac unigolion sy’n cefnogi dysgwyr Cymraeg.
Fe fydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn gwobrwyo aelod o’r Clybiau Ffermwyr Ifanc sydd wedi bod yn dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y mudiad.
Gall aelodau enwebu eu hunain, neu gall cyd-aelodau neu arweinydd clwb enwebu aelodau sy’n gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.
Fe fydd yr enillydd cyntaf yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru ar Dachwedd 18.
Eleni hefyd, bydd ‘Gwobr Calondid’ yn cael ei chyflwyno i arweinydd clwb sydd wedi hybu’r Gymraeg o fewn eu clwb, naill ai drwy ddatblygu eu sgiliau Cymraeg eu hunain neu sgiliau’r aelodau.
Bydd enwebiadau’n cael eu croesawu gan aelodau presennol, a phanel o feirniaid yn dewis yr enillydd.
‘Hwb i ddatblygu sgiliau Cymraeg’
Mae’r Clybiau Ffermwyr Ifanc wedi derbyn arian gan Wasanaethau Ieuenctid Gwynedd er mwyn ariannu’r gwobrau eleni.
“Mae’r mudiad yn cyd-weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar ein Cynnig Cymraeg a gyda Chanolfan Dysgu Cymraeg yn y gobaith i sefydlu gwersi Cymraeg ar gyfer aelodau felly gobeithiwn bydd y prosiectau newydd yn hwb ymlaen i gefnogi ein haelodau sydd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg,” meddai Nia Haf Lewis, Swyddog Datblygu Cymraeg Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Mae modd cael ffurflen enwebu drwy e-bostio swyddogcymraeg@yfc-wales.org.uk