“Ni fel pobol ifanc sydd yn deall problemau pobol ifanc, mae rhai pobol ifanc yn wynebu dyddiau yma”.

Dyna farn un o’r cynghorwyr ifanc fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan eleni.

Mae Beca Roberts yn cynrychioli Tregarth a Mynydd Llandygai, ac yn dweud mai pobol ifanc sy’n deall y problemau maen nhw eu hunain yn eu hwynebu yn yr hinsawdd sydd ohoni heddiw.

Cafodd ton o gynghorwyr ifanc eu hethol yn enw Plaid Cymru fis Mai y llynedd.

Ar ôl ymdrech benodol i ddenu ymgeiswyr newydd o gefndiroedd amrywiol, cafodd nifer o gynghorwyr iau Plaid Cymru, a mwy o gynghorwyr benywaidd, eu hethol y llynedd, ac yn eu plith roedd Dewi Jones, Beca Roberts, Menna Jones ac Elin Hywel.

Mewn sesiwn ar Faes yr Eisteddfod bydd y pedwar ohonyn nhw’n trafod eu profiad o sefyll mewn etholiad, yn ogystal â chael trafodaeth ehangach am rôl pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth.

Ar y dydd Iau, byddan nhw’n ymuno â Beca Brown, cynghorydd sir dros Lanrug ers 2021, mewn sgwrs am rôl pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth.

Mae Beca Roberts yn gynghorydd sir ward Tregarth a Mynydd Llandygai, a gafodd ei hethol eleni’n is-gadeirydd ar Gyngor Gwynedd.

O’r pedair sedd sy’n cael eu cynrychioli gan y cynghorwyr, cafodd tair ohonyn nhw eu cipio oddi ar bleidiau eraill yn 2022, ac y eu plith mae sedd Dewi Wyn Jones, sy’n Ddirprwy Faer ar dref Caernarfon ac yn cynrychioli ward Peblig.

Cafodd ei ethol gyda 65.8% o’r bleidlais, oedd yn gynnydd o +16.0 i Blaid Cymru.

Ers cael ei hethol yn gynghorydd dros ward Bontnewydd, mae Menna Jones wedi’i chael ei hun ar Gabinet Cyngor Gwynedd fel Aelod dros Gefnogaeth Gorfforaethol.

Gwelodd hithau gynnydd swmpus o 47.0% ym mhleidlais Plaid Cymru yn ei sedd.

Cipiodd Elin Hywel ei sedd hithau hefyd gyda chynnydd o 11.2% yn y bleidlais, mewn ward sydd ryw bedair milltir o Faes yr Eisteddfod ym Moduan yn Ne Pwllheli.

‘Gwynedd mewn dwylo saff’

Yn ôl Beca Roberts, mae’r bobol ifanc sy’n gynghorwyr dros eu cymunedau yn weithgar ac yn gwneud gwahaniaeth.

“Mae’n rili difyr gweld y bobol ifanc sy’n dod i mewn fel cynghorwyr,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw i gyd yn rili gweithgar yn eu cymunedau, maen nhw i gyd yn rili brwdfrydig, maen nhw i gyd yn cymryd hyn yn rili o ddifri.

“Rwy’n meddwl [mai] y teimlad weithiau yw nad yw pobol ifanc yn cymryd pethau o ddifri, bo nhw ddim efo digon o brofiad i wneud rhywbeth fel hyn.

“Beth rwy’n gweld yw’r gwrthwyneb.

“Mae rhai o’r bobol ifanc yma yn dod i mewn.

“Mae Gwynedd mewn dwylo rili saff efo nhw.

“Mae’n grêt i weld ac mae’n bleser cydweithio efo pobol ifanc.”

‘Safbwynt gwahanol’

Yn ôl Beca Roberts, mae’n bwysig bod pobol ifanc Gwynedd yn cael eu cynrychioli gan gynghorwyr ifanc i gyflwyno’u safbwyntiau a rhoi llais iddyn nhw.

“Mae’n bwysig cael cynghorwyr ifanc, oherwydd mae cynghorwyr ifanc yn dod a safbwynt gwahanol i mewn,” meddai.

“Dydw i ddim yn hollol sicr am yr ystadegau am faint o bobol ifanc sydd yn byw yng Ngwynedd, ond mae yna ganran o bobol ifanc yn byw yng Ngwynedd a dylai fod y ganran yna’n cael ei adlewyrchu yn y Cyngor hefyd.

“Ni fel pobol ifanc sydd yn deall problemau pobol ifanc, mae rhai pobol ifanc yn wynebu dyddiau yma.

“Rydym yn gallu dod â’r safbwynt yna i’r gwaith rydym yn gwneud, ac rydym yn gallu rhoi llais i bobol ifanc yn y cyngor.

“Dyna pam rwy’n meddwl ei fod yn bwysig bod trawstoriad o bobol yn y cyngor fel cynghorwyr sydd yn gallu rhoi llai i bobol maen nhw’n cynrychioli.”

Rôl pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth

Yn ôl Beca Roberts, pobol ifanc fydd yn gweld effaith penderfyniadau gwleidyddol am yr hiraf, felly mae’n bwysig cael pobol ifanc yn eu cynrychioli sydd yn eu ddeall.

“Mae gan bobol ifanc yr un, un rôl a phawb arall mewn gwleidyddiaeth,” meddai.

“Mae llais pobol ifanc yn rili pwysig.

“Ar ddiwedd y dydd, ni fydd yn cael ein heffeithio am hiraf gan unrhyw bolisïau neu unrhyw waith sy’n cael pŵer yn y cyngor.

“Mae’n bwysig bo nhw’n chware rôl neu fydd yna lawer o bobol hŷn yn gwneud penderfyniadau drostyn nhw.

“Does dim modd i rywun sydd yn ei wythdegau ddeall problemau mae rhywun yn eu harddegau yn wynebu.

“Rwy’n 30, rwy’n dechrau mynd out of touch efo beth mae rhywun yn eu harddegau yn poeni amdano.

“Mae fy mhroblemau i’n hollol wahanol i rywun sy’n 18.

“Dyna pam mae mor bwysig i gael y trawstoriad yna o bobol ifanc sy’n gallu rhoi barn ar bethau ac sy’n gallu bod yn llais i bobol ifanc oedran nhw.”

Annog pobol ifanc i sefyll

Yn ôl Beca Roberts, y rheswm pam fod cynifer o gynghorwyr ifanc wedi’u hethol y llynedd oedd oherwydd bod cynghorwyr a Phlaid Cymru wedi mynd i gryn ymdrech i’w hannog.

“Gwnaeth cynghorwyr fel Catrin Wager fynd i greu digwyddiadau, yn enwedig i ferched ifanc, yn eu hannog nhw i ddod yn gynghorwyr sir,” meddai.

“Yn sicr, dyna le gwnes i ddechrau meddwl am y peth.

“Gwelais i fod Plaid Cymru yn rhedeg digwyddiad i ferched ac i bobol ifanc, a gwnes i fynd i weld.

“Roedd yna ymdrech gan gynghorwyr Plaid Cymru oedd yn y Cyngor yn barod i chwilio am bobol ifanc.”

Yn ogystal, mae Beca Roberts yn teimlo bod yr awydd am newid wedi annog pobol ifanc i sefyll fel cynghorwyr.

“Rwy’n meddwl bod yna llawer o bobol ifanc yn teimlo’n rhwystredig efo gwleidyddiaeth,” meddai.

“Dyna’n sicr beth rwy’n gweld.

“Mae pobol yn teimlo, beth maen nhw’n ei wneud?

“Beth mae’r gwleidyddion yma’n gwneud?

“Mae yna bunch o bethau yn mynd ymlaen.

“Dyna sut wnes i feddwl am y peth.”

Ym marn Beca Roberts, mae materion sydd yn bwysig i bobol ifanc wrth wraidd beth sy’n bwysig i Blaid Cymru.

“Rwyf hefyd yn meddwl bod Plaid Cymru yn apelio at bobol ifanc,” meddai.

“Maen nhw’n edrych ar faterion amgylcheddol, maen nhw’n groesawgar iawn i ffoaduriaid, maen nhw’n pwysleisio pethau sydd yn bwysig i bobol ifanc.”

  • Bydd ‘Yr Ifanc a Ŵyr’ yn cael ei chynnal ddydd Iau, Awst 10 am 1yp, ar Stondin 524-526 ar Faes yr Eisteddfod.