Mae arbenigwyr iechyd wedi rhoi sicrwydd i’r cyhoedd, ar ôl i achos honedig o’r diciâu gael ei ganfod mewn ysgol uwchradd yng Nghasnewydd ddechrau’r haf.

Arweiniodd y digwyddiad, gafodd ei adrodd ar Orffennaf 4 yn Ysgol John Frost, at ymchwiliad ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cafodd pob disgybl ac athro ddaeth i gysylltiad â’r unigolyn dan sylw gynnig prawf diciâu.

Wrth roi diweddariad yr wythnos hon, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol fod yr holl brofion hyd yn hyn wedi bod yn negyddol.

Mae’r asiantaeth hefyd wedi wfftio’r posibilrwydd o ymlediad o’r diciâu yn yr ysgol.

Rhagofal

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd wedi bod yn ymchwilio i achos unigol o’r diciâu mewn unigolyn sy’n gysylltiedig ag Ysgol John Frost yng Nghasnewydd,” meddai Beverly Griggs, ymgynghorydd gwarchod iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Fel rhagofal, cafodd pob disgybl ac athro ddaeth i gysylltiad â’r unigolyn gynnig sgrinio ar gyfer y diciâu.

“Rydym wedi cwblhau’r rownd gyntaf o sgrinio, ac rydym yn falch o ddweud bod yr holl brofion ar gyfer y diciâu’n negyddol.

“Mae nifer fach o bobol oedd wedi methu â derbyn y cynnig gwreiddiol ar gyfer sgrinio yn cael eu gwahodd i ail sesiwn sgrinio.

“Mae hon yn broses arferol yn dilyn gweithdrefnau rheoli haint sefydledig.

“Does dim awgrym fod yr achos wedi cael y diciâu o’r ysgol, ond yn hytrach maen nhw wedi bod ar y safle heb yn wybod iddyn nhw fod ganddyn nhw’r haint, a does dim ymlediad wedi’i ddatgan.”

Symptomau

Mae symptomau’r diciâu byw yn cynnwys:

  • peswch parhaus sy’n para dros dair wythnos ac sydd fel arfer yn arwain at boer all fod yn waedlyd
  • colli pwysau
  • chwysu yn y nos
  • tymheredd uchel
  • blinder a gorflinder
  • colli chwant bwyd
  • gwddf wedi chwyddo

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r ysgol sydd wedi cael unrhyw un o’r symptomau hyn, neu sy’n poeni am eu hiechyd, siarad â’u meddyg teulu.

Mae rhagor o wybodaeth am y diciâu ar gael gan wefan NHS 111 Cymru.