Mae miloedd o swyddi yn y fantol ar ôl i gwmni Wilkos fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae ganddyn nhw 29 o siopau yng Nghymru, ac mae lle i gredu bod y cyhoeddiad yn effeithio ar 400 o siopau ledled y Deyrnas Unedig.

Daeth cadarnhad fis diwethaf fod y perchnogion am geisio gwerthu’r cwmni sy’n cyflogi rhyw 12,000 o bobol drwy’r Deyrnas Unedig.

Er eu bod nhw’n dweud bod nifer o gynigion wedi dod i law, dydy’r un ohonyn nhw’n cynnig digon o sicrwydd o dan yr amgylchiadau presennol, meddai’r cwmni.

Mae’r datganiad o fwriad gan Wilkos yn rhoi deng niwrnod iddyn nhw geisio cytundeb i’w diogelu yn y dyfodol, ond dydy hi ddim yn gwbl glir ar hyn o bryd sut ddyfodol mae’r cwmni’n ei wynebu.

Fis Ionawr y llynedd, cyhoeddodd y cwmni eu bod nhw’n bwriadu cau tua dwsin o siopau, a daeth cyhoeddiad pellach fis Chwefror eleni fod dros 400 o swyddi yn eu siopau a’u swyddfeydd am gael eu colli.

Diffyg cwsmeriaid yn mynd i’w siopau a throi at wasanaethau ar-lein sy’n gyfrifol am eu sefyllfa bresennol, meddai’r cwmni, ac mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw ac ynni hefyd wedi cyfrannu at eu tranc.

Mae Wilkos yn ymuno â niferoedd cynyddol o gwmnïau’r Stryd Fawr sy’n ei chael hi’n anodd gweithredu dan yr amgylchiadau presennol.