Mae Cymwysterau Cymru wedi egluro eu penderfyniadau am ganllawiau newydd fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff dyfarnu “hyrwyddo a hwyluso” cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Daw hyn fel “rhan bwysig” o geisio bwrw targedau iaith Gymraeg sydd yn eu lle erbyn 2050, medd y sefydliad.

Mae’r sefydliad yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn cynyddu argaeledd cymwysterau Cymraeg.

“Rydym yn falch iawn bod Cymwysterau Cymru yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ac argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg,” meddai Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae hyn yn cyd-fynd ag un o’n hamcanion yn y Coleg, sef i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i ddysgwyr mewn addysg ôl-16.

“Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Cymwysterau Cymru er mwyn cynyddu cyfleoedd cyfrwng-Cymraeg pellach i fyfyrwyr ledled Cymru.”

‘Ymrwymiad i’r Gymraeg’

Mae gofyn bod cyrff dyfarnu – y cyrff sy’n cynnig cymwysterau – yn gweithio i hyrwyddo argaeledd cymwysterau Cymraeg ac yn hwyluso mynediad atyn nhw.

“Rydw i’n meddwl y dylai bod gwybodaeth am gymwysterau cyfrwng Cymraeg fod ar gael yn hwylus i ddysgwyr,” meddai Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

“Rydym ni’n croesawu penderfyniadau Cymwysterau Cymru fydd yn gwella eglurder a thryloywder beth sydd ar gael.”

Mae gan Cymwysterau Cymru strategaeth, Dewis i Bawb, sy’n nodi eu hymrwymiad i’r Gymraeg a’u bwriad i gynyddu argaeledd cymwysterau yn yr iaith.

Mae pedwar prif faes ffocws o fewn y strategaeth, ac mae’r un cyntaf yn canolbwyntio ar gynyddu argaeledd cymwysterau Cymraeg mewn addysg lawn amser, prentisiaethau ac addysg ôl-16.

Maen nhw hefyd eisiau cryfhau’r cymorth i gyrff dyfarnu, fel eu bod nhw’n gallu cynnig mwy o gymwysterau trwy’r Gymraeg.

Bydd y strategaeth yn adolygu eu grant Cymorth Iaith er mwyn sicrhau bod mwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i greu cymwysterau newydd neu arloesol.

Yn gyffredinol, y bwriad yw gwella’r wybodaeth ynglŷn â’r cymwysterau hyn ar gyfer dysgwyr, ysgolion a cholegau.

‘Annog dysgwyr’

“Ers i ni lansio ein strategaeth Dewis i Bawb yn 2020 – sydd â’r nod o gynyddu’r cymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael – rydym wedi bod yn glir bod angen i wybodaeth am y cymwysterau hyn gael ei rannu’n eang a bod ar gael yn hawdd,” meddai David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru.

“Gall hyrwyddo rhagweithiol rymuso ysgolion a cholegau ac annog dysgwyr i gofrestru ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg.”

“Rydym hefyd yn gweithredu Cynllun iaith Gymraeg sy’n nodi sut rydym yn cyflawni ein swyddogaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.”

Bydd y penderfyniadau ar sut i hyrwyddo a hwyluso’r cymwysterau’n cael eu trafod yn llawn ar Stondin Cymwysterau Cymru (rhif 111) ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 11yb a 12yh ddydd Gwener (Awst 11).