Mae ymgyrch ar droed i gael yr hawl i siarad ieithoedd brodorol Sbaen yn y byd gwleidyddol.
Yolanda Díaz, dirprwy arlywydd Sbaen ac arweinydd plaid Sumar, sydd wedi cyflwyno’r cynnig sy’n galw am newid rheolau’r Gyngres i alluogi areithiau i gael eu traddodi mewn Basgeg, Catalaneg neu Galiseg.
Byddai’n “gytundeb pwysig iawn”, meddai wrth y sianel TVE yn Sbaen.
“Pam na allwn ni siarad yn un o’r ieithoedd cyd-swyddogol?” meddai, gan ychwanegu y byddai’n “benderfyniad sy’n gweddu’n berffaith o fewn fframwaith y cyfansoddiad”.
Roedd y gallu i siarad Catalaneg yn Senedd Ewrop yn un o amodau’r cytundeb rhwng llywodraethau Sbaen a Chatalwnia yn ystod trafodaethau am annibyniaeth.
Daeth cytundeb fis Gorffennaf y llynedd i warchod Catalaneg fel iaith fyw yn Senedd Ewrop a Senedd Sbaen, ond dydy gwarchod y naill na’r llall ddim wedi digwydd hyd yma, er i Sbaen alw o’r newydd am hawliau yn ystod yr hydref.
Gallai datrys y sefyllfa hon fod yn hanfodol i Pedro Sánchez, sy’n gobeithio cael cefnogaeth pleidiau o blaid annibyniaeth er mwyn gallu ffurfio llywodraeth yn Sbaen, ac mae’n debygol y byddai hawliau ieithyddol yn un o amodau plaid Esquerra.
Er bod ymgais i wneud Catalaneg yn iaith gyd-swyddogol, dydy hynny ddim yn ddigon i rai ymgyrchwyr sy’n dadlau y dylai fod yn iaith swyddogol.