Mae Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths, dau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn dweud bod angen i awdurdodau lleol fod yn fwy llym wrth ddelio â’r sefyllfa cloddio yn Ffos-y-Fran.
Er bod gorchymyn i roi’r gorau i’r cloddio fod i ddod i rym ar Fehefin 27, mae’r cloddio wedi parhau ar y safle, ac mae hyn wedi achosi pryderon ymhlith trigolion sy’n anhapus am yr effaith mae’r cloddio’n ei chael ar eu bywydau o ddydd i ddydd.
Mae’r Good Law Project wedi cefnogi galwad y Coal Action Network i roi’r gorau i’r cloddio, ac mae dros 9,000 o bobol wedi llofnodi eu deiseb hyd yma.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Gyngor Merthyr Tudful yn ogystal â gweinidogion Llywodraeth Cymru, i’w hannog i weithredu er mwyn sicrhau bod y cloddio’n dod i ben.
‘Cwestiynau difrifol i’w hateb’
Mae Delyth Jewell yn un sydd wedi dangos ei chefnogaeth i waith y Good Law Project, ac mae hi’n dweud bod gan y cwmni tu ôl i’r cloddio “gwestiynau i’w hateb”.
“Mae gan y cwmni y tu ôl i’r ymgyrch hon gwestiynau difrifol i’w hateb, ac mae problemau mawr wedi’u hamlygu gyda’n proses gynllunio gan y ffaith bod gweithrediadau’n dal i fynd rhagddynt – 10 mis ar ôl y dyddiad y dylent fod wedi dod i ben,” meddai.
“Mae hyn wedi bod yn niweidiol i’r amgylchedd ac mae wedi bod yn niweidiol i drigolion lleol.
“Mae angen gweithredu llym gan yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ddod â’r ymgyrch hon i ben.”
Bu i Peredur Owen Griffiths ymweld â’r safle, ac mae’n dweud bod angen sicrhau bod y safle’n cael ei adfer “fel yr addawyd yn wreiddiol gan y cwmni glo brig”.
“Fel y gwelwch o ymweld â’r safle, mae pethau ymhell o fod yn dawel ac maent ymhell o fod yn lân,” meddai.
“Mae’r trallod i drigolion lleol ac ôl troed carbon enfawr y safle hwn yn parhau.
“Ni allwn adael i hanes ailadrodd ei hun.
“Dyna pam rydym yn falch o weld bod y Good Law Project wedi mynd i’r afael â’r mater hwn ac wedi mynd lle nad yw’r awdurdodau cyhoeddus wedi gallu – neu’n anfodlon – mynd.”