“Mae gwiwerod coch yn bwysig oherwydd eu bod nhw’n gynhenid,” yn ôl dynes sy’n gwneud gwaith ymgysylltu annibynnol.
Mae’r wiwer lwyd yn fygythiad i’w bodolaeth, ac mae ymdrechion ar y gweill i ddatrys hyn yng Nghymru, ac yn enwedig yn Ynys Môn.
Bydd Anita Daimond yn cynnal taith o’r enw ‘Antur Natur’, lle bydd pobol yn dysgu am fywyd gwyllt ar daith gerdded, ac yna’n dychwelyd i Oriel Môn i wneud gwaith celf ar y thema natur.
Yn rhan o fioamrywiaeth gwledydd Prydain, mae’r wiwer goch yn mynd yn fwy prin oherwydd bygythiad y wiwer lwyd.
“Mae gwiwerod coch yn bwysig oherwydd bod nhw’n gynhenid, hynny ydy maen nhw’n dod o Brydain yn wreiddiol,” meddai Anita Daimond wrth golwg360.
“Maen nhw’n rhan o fioamrywiaeth naturiol Prydeinig sydd gennym ni.
“Maen nhw’n bwysig hefyd oherwydd bo nhw wedi mynd yn brin oherwydd y ffaith bo ni wedi dod â gwiwerod llwyd o Ogledd America i mewn i Brydain tua 150 mlynedd yn ôl, ac ychydig bach wedyn mewn gwahanol lefydd.”
Brech y wiwer
Mae’r wiwer lwyd yn cario ac yn lledaenu brech y wiwer, ond yn imiwn iddo, tra bod y wiwer goch yn marw o’r frech.
“I ddechrau beth oedd y gwiwerod llwyd yn gwneud oedd cystadlu ar gyfer bwyd efo’r gwiwerod coch,” meddai Anita Daimond.
“Mae’r gwiwerod llwyd yn fwy, felly maen nhw’n gallu bod yn fwy cystadleuol.
“Beth sydd wedi achosi’r dirywiad mawr yn y gwiwerod coch yw brech y wiwer, sef squirrel pox.
“Mae hwnna’n feirws sydd yn byw yn y wiwer lwyd, a dydy o ddim yn effeithio ar y wiwer lwyd rili.
“Mae hwnna’n gallu byw yn iawn, ond mae’n achosi problemau mawr i’r wiwer goch.
“Maen nhw’n cael blisters mawr ar eu hwynebau, sy’n gallu mynd dros eu corff nhw i gyd.
“Yn y diwedd, maen nhw’n marw.
“Mae’r wiwer lwyd yn cario’r firws yna, wedyn mae’n effeithio ar y wiwer goch.
“Dyna beth maen nhw’n meddwl sydd wedi effeithio ar niferoedd y gwiwerod coch ym Mhrydain fwyaf.”
Bele’r coed
Yn Ynys Môn, mae gwiwerod llwyd yn cael eu rheoleiddio gyda dim ond gwiwerod coch yno.
Mae bele’r coed yn bwyta gwiwerod, ond mae gwiwerod coch yn adnabod eu hoglau ac yn gwybod i gadw draw.
Oherwydd hyn, un tacteg sy’n cael ei defnyddio fel arbrawf yn ardal Bangor yw dod â bele’r coed i mewn i warchod y wiwer goch.
“Rwy’n meddwl beth sy’n ddiddorol yw’r holl waith sy’n mynd ymlaen yng Nghymru er mwyn gwarchod y gwiwerod coch,” meddai.
“Yn Ynys Môn, ers ychydig rŵan, mae’r gwiwerod coch wedi cael eu rheoli.
“Erbyn rŵan, does dim gwiwerod llwyd ar Ynys Môn ond mae yna wiwerod coch.
“Mae hwnna wedi rhoi siawns dda i’r wiwer goch barhau i fyw.
“Mae yna wastad bryder oherwydd mae gwiwerod llwyd yn gallu croesi’r pontydd neu’r Fenai i Sir Fôn, felly mae dal bygythiad.
“Yr her maen nhw’n delio efo rŵan ydy sut i reoli’r gwiwerod llwyd ger ardal Bangor a’r pontydd fel bo nhw’n lleihau’r risg yno.
“Beth maen nhw wedi gwneud o’r blaen yw ceisio saethu a dal y gwiwerod llwyd.
“Mae hynny’n mynd yn anoddach ac anoddach.
“Mae’n ddrud.
“Mae angen pobol i wneud hynna.
“Beth maen nhw wedi dysgu o Iwerddon, bod bele’r coed, sef anifail arall sydd wedi mynd yn brin yng Nghymru, yn yr ardaloedd yn Iwerddon lle oedd yna bele’r coed mi roedd niferoedd gwiwerod coch yn gwneud yn well.
“Maen nhw’n meddwl bod hynny braidd yn od, oherwydd mae’r bele’r coed yn bwyta’r gwiwerod gan gynnwys y gwiwerod coch.
“Beth maen nhw wedi darganfod yw bod y wiwer goch yn adnabod oglau’r bele’r coed a mae’n gwybod i gadw draw.
“Dydy’r wiwer lwyd ddim yn ymddwyn fel yna.
“Pan maen nhw’n dod â’r bele’r coed i mewn, mae hwnna’n cadw niferoedd y gwiwerod llwyd i lawr oherwydd mae’n bwyta’r gwiwerod llwyd.
“Mae yna arbrofion yn mynd ymlaen rŵan yn ardal Bangor, i gyd yn swyddogol a dan drwydded a bob dim, i weld os mae hynny’n helpu i reoli’r gwiwerod llwyd yn yr ardal yna ger Bangor.
“Mae hynny’n reit ddiddorol.
“Gwnawn ni weld sut mae’n mynd yn y blynyddoedd nesaf.”
‘Antur Natur’
Gyda gwiwerod coch yn ganolog i weithgaredd ‘Antur Natur’, bydd cyfle i ddysgu amdanyn nhw, yn ogystal â gwneud a gweld celf ar natur yn Oriel Môn.
“Yn Sir Fôn lle rydym yn gwneud y gweithgaredd efo Oriel Môn mae’r goedwig yn un reit dda ar gyfer wiwerod coch,” meddai Anita Daimond.
“Rwy’n gobeithio bydd yn bosib helpu’r plant a theuluoedd i ddysgu mwy am wiwerod coch, y cynefin maen nhw angen, beth maen nhw’n bwyta sut rydym yn eu gwarchod yn y goedwig yna.
“Gobeithio bod nhw’n cael siawns i weld rhai.
“Wedyn, rydym am fynd ’nôl i Oriel Môn a gwneud dipyn bach o waith celf.
“Os ydych yn mynd i Oriel Môn, gwelwch fod esiamplau eraill o artistiaid sydd wedi gwneud lluniau o fywyd gwyllt.
“Mae’n gyfle i blethu natur efo’r syniad o wneud gwaith celf wedi’i seilio ar natur.”