Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wario dros £80m ar staff asiantaeth ac athrawon cyflenwi yn 2022-23, yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Anfonodd y blaid gais rhyddid gwybodaeth i bob un o’r 22 cyngor sir yng Nghymru, a daeth ymateb gan 16 ohonyn nhw.
Ymysg yr uchaf roedd Caerffili, lle’r oedd gwariant o dros £12m, a Sir Forgannwg, lle cafodd dros £11m ei wario.
Gwynedd oedd y sir â’r ffigwr isaf, sydd ychydig o dan £83,000.
Roedd y gwariant ar gyfer pob sir arall ar y rhestr o leiaf £1m.
Ymatebodd Cyngor Caerdydd i’r cais gyda ffigyrau 21/22 yn hytrach na rhai’r llynedd, ond dangosodd y ffigyrau eu bod nhw wedi gwario dros £22m y flwyddyn honno.
Heb gynnwys y ffigyrau ar gyfer Caerdydd, roedd cyfanswm y gwariant ar athrawon cyflenwi a staff asiantaeth ychydig dros £80m.
Dydy hyn ddim yn cynnwys y ffigyrau ar gyfer y chwe awdurdod lleol oedd heb ymateb i’r cais.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn honni y byddai’r ffigwr ymhell dros £100m pe bai pob Cyngor wedi ymateb.
‘Gwastraffu arian trethdalwyr’
Yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r gwariant yn arwydd fod angen i’r Llywodraeth gyflwyno cynllun recriwtio a chadw.
“Gyda chostau mor syfrdanol yn cynyddu gan Gynghorau ledled Cymru, mae’n anodd gweld unrhyw werth am arian o safbwynt y trethdalwyr,” meddai Laura Anne Jones.
“Ar hyn o bryd, mae dros 50 o gwmnïau athrawon cyflenwi yng Nghymru, sy’n dangos cymaint o elw sy’n cael ei wneud o fewn y diwydiant ac yn symptom o fethiant parhaus Llafur i lenwi swyddi gwag a gwella cyfraddau cadw yn ein hysgolion.
“Mae cynghorau yng Nghymru yn parhau i wynebu costau aruthrol i dalu am y rhestr ddiddiwedd o brosiectau gwagedd gan y Llywodraeth Lafur.
“Yn hytrach na gwario miliynau ar staff asiantaeth, dylai’r Llywodraeth Lafur gyflwyno cynllun recriwtio a chadw, yn hytrach na gwastraffu arian trethdalwyr ar staff asiantaeth i lenwi bylchau y maent yn methu â’u llenwi.”
‘Cymhellion ariannol hael’
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn gweithredu i geisio denu athrawon newydd a datblygu model cynaliadwy.
“Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod recriwtio a chadw athrawon yn parhau’n sefydlog ac mae yna gyfradd gadael sylweddol is ymysg athrawon ysgolion uwchradd yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr,” meddai.
“Ry’n ni wedi cyflwyno cymhellion ariannol hael i ddenu athrawon newydd mewn pynciau blaenoriaeth, ac wedi buddsoddi £800,000 eleni i helpu ysgolion i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o’u heriau recriwtio.
“Ry’n ni’n datblygu model cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi, sy’n cynnwys platfform archebu ar-lein newydd ar gyfer staff cyflenwi, Cytundeb Fframwaith Asiantaeth Gyflenwi diwygiedig ac adolygiad o delerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi.”