Mae pâr sy’n ffermio yn dweud eu bod nhw’n poeni y gallen nhw orfod gwerthu eu gwartheg pe bai’r tir maen nhw’n ei rentu’n cael ei ddefnyddio ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr.

Mae Denis Waters, sy’n 30 oed, a’i wraig Shauna, 26, yn rhentu tri chae sydd ychydig dros bum erw ym Magwyr gan Gyngor Sir Fynwy, ond mae’r awdurdod yn ystyried y tir fel safle posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Ond wnaeth y pâr, sydd wedi rhentu’r tir rhwng ardal breswyl Clôs Langley a’r M4 ers dwy flynedd, ddim ond darganfod y bwriad pan welodd ffrind neges ar Facebook, ac maen nhw bellach yn dweud eu bod nhw’n wynebu dyfodol ansicr.

“Wnaethon ni ddim ond darganfod ychydig ddiwrnodau ymlaen llaw fod yna gyfarfod Cyngor, wnaethon ni ddim clywed gan y Cyngor, ond cawson ni wybod gan ffrind oedd wedi ei weld e ar Facebook a dweud, ‘Mae angen i chi edrych ar hyn’,” meddai Shauna Waters.

“Mae wedi bod yn amser llawn straen heb wybod beth fydd yn digwydd.”

Pe bai’r Cyngor yn dod â thenantiaeth dair blynedd y pâr i ben neu’n penderfynu defnyddio’r safle ar gyfer datblygiad a pheidio â’i hadnewyddu, maen nhw’n dweud na fydden nhw’n gallu cadw gwartheg rhagor gan na fyddai ganddyn nhw’r tir sydd ei angen.

“Fyddai gyda ni unman i’w rhoi nhw, gan fod angen cae dynodedig arnon ni ar gyfer y gwartheg dros y gaeaf,” meddai Shauna Waters.

Ar hyn o bryd, mae hi a’i gŵr yn byw mewn llety sydd wedi’i rentu ym Magwyr, ac mae ganddyn nhw ferch fach 11 mis, Winnie, a fferm ychydig dros 100 erw, gyda’r rhan fwyaf o’r tir hwnnw o amgylch Cas-gwent, a pheth ohono dan berchnogaeth partneriaeth gyda theulu Denis Waters.

Cyfnod bwrw lloi

“Fyddai gorfod teithio deng milltir i Gas-gwent dair gwaith y dydd yn ystod y cyfnod bwrw lloi ddim yn amgylcheddol gyfeillgar nac yn ymarferol,” meddai.

Gan fod y tir maen nhw’n ei ffermio yng Nghas-gwent ar hyd wal y môr, ac o dan y Bont Hafren wreiddiol, fyddai e ddim yn addas ar gyfer bwrw lloi, yn ôl Shauna Waters.

“Allech chi ddim bwrw lloi gyda gwartheg ar wal y môr,” meddai.

“Pan fyddai’r llanw’n dod i mewn, byddai’n mynd â’r fuwch a’r llo oddi yno.

“Byddai’n rhaid i ni werthu ein holl wartheg, a byddai hynny’n broblem wirioneddol i ni, a fyddai e ddim mor broffidiol.”

Mae’r pâr yn cadw 26 o wartheg, a Rory y tarw, ym Magwyr dros y gaeaf ac yn gwerthu drwy gytundeb cynllun sicrwydd ffermio, gan gyflenwi archfarchnadoedd mawr, tra bod ganddyn nhw ryw 400 o ddefaid hefyd maen nhw’n eu cludo i’r farchnad, ac maen nhw’n cadw rhywfaint o’u stoc yn y cae dros fisoedd yr haf.

“Pe baen ni’n gwerthu’r gwartheg, byddai gyda ni’r defaid o hyd ond, fwy na thebyg, byddai’n rhaid i un ohonon ni gael swydd arall,” meddai Denis Waters.

Hoffai’r pâr pe bai gan eu merch Winnie y cyfle o leiaf i ddilyn ei rhieni a’i mam-gu a’i thad-cu a’u hen fam-gu a thad-cu ar ochr ei thad i mewn i’r byd ffermio.

Roedd tad Shauna Waters hefyd yn weithiwr fferm.

“Os na allwn ni barhau, fydd ganddi hi mo’r opsiwn gan nad yw ffermio’n hawdd, ac mae ffermydd yn anodd i’w cael,” meddai.

“Mae ei dyfodol hi’n bwysicach na ni.

“Mae’n anodd i rywun o’r dref fynd i mewn i ffermio.”

Datblygu tir yn Sir Fynwy

Mae datblygiadau yn Sir Fynwy wedi’i ganoli yn ne’r sir, yn enwedig mewn ardaloedd fel Magwyr sydd ar hyd goridor yr M4, ac mae hynny wedi rhoi pwysau gwirioneddol ar dir, sydd wedi costio’n ddrud i ffermwyr, meddai’r pâr.

Mae hefyd wedi creu pwysau i’r Cyngor wrth iddyn nhw geisio cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac maen nhw wedi dechrau chwilio am dir allai gael ei ddefnyddio fel safleoedd Sipsiwn a Theithwyr posib, wrth iddyn nhw adnabod yr holl ardaloedd addas i’w defnyddio, o dir preswyl i dir diwydiannol, wrth iddyn nhw baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd.

Fel rhan o’r gwaith hwnnw, maen nhw wedi asesu’r angen am 13 lle parhaol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ac ym mis Gorffennaf fe wnaethon nhw gyhoeddi rhestr fer o bum safle allai fod wedi bod yn addas.

Ers hynny, maen nhw wedi diystyru tri ohonyn nhw, ond ar hyn o bryd maen nhw’n ystyried a ddylid cynnal ymgynghoriad gan gynnwys safle Clôs Langley, a thir cyfagos ger Dancing Hill, Undy fel rhan o’r cynllun.

Ond mae Denis a Shauna Waters yn dweud bod ffermwyr hefyd yn wynebau costau cynyddol o ran tir, ac mae eu breuddwyd o fod yn berchen ar eu fferm eu hunain ymhell i ffwrdd, tra eu bod nhw ar hyn o bryd yn ceisio sicrhau morgais i gael prynu tŷ.

“Mae’n ddigon anodd cael morgais, heb sôn am brynu fferm,” meddai Shauna Waters, sy’n dweud bod angen “arian twp” ar gyfer tenantiaeth bum mlynedd ar gyfer fferm dan berchnogaeth y Cyngor oedd ar gael yng Nghas-gwent yn ddiweddar.

“Mae’n anodd cael tenantiaeth gan y Cyngor, ac i brynu fferm rydych chi’n edrych ar £2m,” meddai.

Ymddiheuriad

Pan gafodd y pum safle dan ystyriaeth eu trafod yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu’r Cyngor ar Orffennaf 19, fe wnaeth Frances Taylor, cynghorydd annibynnol, gwyno nad oedd y teulu Waters wedi cael gwybod yn uniongyrchol fod y tir maen nhw’n ei rentu yn cael ei ystyried.

“Hoffwn ymddiheuro wrth denantiaid os mai’r cyntaf maen nhw’n ei glywed yw fod y cynigion yn gyhoeddus,” meddai’r Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet Llafur â chyfrifoldeb dros Dai, yn y cyfarfod hwnnw.

“Dylen ni fod wedi rhagweld pan aeth yr adroddiad allan y byddai’n newyddion yn y cymunedau, a dylen ni fod wedi ysgrifennu atyn nhw.”

Dywed Denis Waters nd yw e wedi clywed gan y Cyngor Sir.

Cyngor yn penderfynu peidio ystyried safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Twm Owen, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae’n debygol y bydd safleoedd ger yr M4 yn Sir Fynwy yn cael eu hystyried o hyd