Ddylai’r un o’r pedwar darn o dir sydd ar restr fer ar gyfer safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr gael eu cyflwyno i’w datblygu, medd pwyllgor cyngor.

Fe wnaeth Pwyllgor Craffu Cyngor Sir Fynwy gynnal cyfarfod oedd wedi para pedair awr ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 19), a daeth hwnnw i ben wrth i aelodau benderfynu peidio argymell bod y Cabinet yn cychwyn ymgynghoriad ar yr un darn o dir sy’n eiddo’r Cyngor yr oedd wedi’u nodi fel rhai i’w datblygu, o bosib, ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Ond roedd beirniadaeth fod y cyfarfod wedi’i alw ar gyfer craffu cyn penderfyniad tra bod papurau ar gyfer cyfarfod y Cabinet ddydd Mercher nesaf yn argymell cynnal ymgynghoriad ar y pedwar safle.

Mae’r safleoedd hynny ar Gomin Mitchel Troy; tir oedd unwaith yn eiddo ysbyty ynysu yn Nhrefynwy; a Chlôs Langley ger yr M4 ym Magwyr.

Gellid argymell tir i’r gorllewin o Dancing Hill yng Ngwndy ar gyfer ymgynghoriad hefyd, yn ddibynnol ar ymchwiliad pellach.

Rhaid i’r Cyngor adnabod darnau o dir posib fel rhan o’u glasbrint cynllunio, y Cynllun Datblygu Lleol, a bodloni’r angen mae wedi’i nodi ar gyfer 13 safle.

Ond clywodd y cyfarfod y gellid gostwng y nifer pe bai rhai safleoedd sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn cael eu cymeradwyo heb ganiatâd cynllunio.

Cwestiynu’r sefyllfa

Fe wnaeth Richard John, arweinydd yr wrthblaid Geidwadol a Chynghorydd Mitchell Troy, gwestiynau pam fod yr argymhelliad i fynd i ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet, a’i gyhoeddi ar noswyl cyfarfod y pwyllgor craffu.

“Dw i eisiau sicrwydd nad oes bargen wedi’i tharo,” meddai.

Dywedodd fod sylwadau gan saith aelod o’r cyhoedd, oedd wedi annerch y pwyllgor yn ystod awr gynta’r cyfarfod, yn tynnu sylw at y rhesymau pam fod y safleoedd yn “anaddas” o ran ystod o faterion yn amrywio o fynediad at briffyrdd a’r effaith ar natur, gan gynnwys Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Nyffryn Gwy, a’r broses roedd swyddogion wedi’i dilyn wrth greu rhestr fer o safleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John fod trigolion wedi lleisio’u gwrthwynebiad i’r cynlluniau, gyda “mwyafrif o boblogaeth Mitchell Troy” wedi llofnodi deiseb yn galw am warchod y comin rhag unrhyw ddatblygiad, a dywedodd nad yw’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn cefnogi’r safleoedd gafodd eu cynnig.

“Dydy’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr ddim yn credu y bu ymgynghoriad go iawn â nhw yn ystod y broses,” meddai.

Gofynnodd Penny Jones, Cynghorydd Ceidwadol Rhaglan, “ym mle mae’r safleoedd presennol yn dod i mewn iddi?”

“Mae’r safleoedd hyn ochr yn ochr â’r gymuned leol yn llwyddiannus iawn, a ellid gostwng y nifer o 13 yn sylweddol?”

‘Gofalus’

Dywedodd Mark Hand, Pennaeth Llunio Lle y Cyngor, fod yn rhaid iddo fod yn “ofalus” ynghylch trafod sefyllfa teuluoedd unigol yn gyhoeddus, ond fod yna ddau safle sy’n cael eu defnyddio a allai leihau’r nifer sydd wedi’u hadnabod er mwyn diwallu anghenion lleol.

Dywedodd y gallai un teulu “aros lle maen nhw, fwy na thebyg” pe bai modd cael caniatâd cynllunio, tra bod caniatâd cynllunio wedi’i wrthod ar gyfer safle arall, a’r penderfyniad wedi’i gefnogi wrth apelio, a byddai dod â’r safle hwnnw yn ôl i ddefnydd yn “gofyn ein bod ni’n ailymweld â phenderfyniad blaenorol”.

Ond pe bai’r safleoedd hynny’n cael dod yn ôl i ddefnydd awdurdodedig, byddai “rhai anghenion heb eu diwallu o hyd”, meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Tai dros Lafur, ei bod hi am weld safleoedd amgen yn cael eu hargymell os oedden nhw’n bwriadu argymell nad yw’r un o’r safleoedd yn addas, gyda’r Cyngor yn bwriadu ceisio barn y cyhoedd ar y safleoedd sydd wedi’u dewis fis Awst a Medi.

Byddai’r Pwyllgor Craffu wedyn yn ystyried y safbwyntiau fydd wedi’u cyflwyno ym mis Hydref, a gallai’r Cabinet gytuno ynghylch pa safleoedd i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol fis Tachwedd.

Byddai ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu llawn, fyddai’n cynnwys yr holl safleoedd posib ar gyfer tai, yn ogystal â’r rheiny sydd wedi’u rhestru ar gyfer defnydd arall megis cyflogaeth, yng ngwanwyn 2024.

‘Cyfrifoldeb’

Ond dywedodd aelodau nad eu cyfrifoldeb nhw yw dewis safleoedd.

“Dw i, fel aelod, ddim yn chwilio am safleoedd, nid fy ngwaith i yw hynny, [ond] byddaf yn argymell rhai os yw rhywun yn dweud wrthyf am un,” meddai Simon Howarth, Cynghorydd Annibynnol Llanelli Hill.

“Dw i ddim am grywdro’r sir yn edrych am safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.”

Fe wnaeth e hefyd feirniadu’r broses ddechreuodd gyda phob un o’r 1,500 o ardaloedd dan berchnogaeth y Cyngor yn cael eu torri i lawr i restr o 50, ac yna 17 o bosibiliadau cyn i’r naw gael eu cyflwyno i gynghorwyr mewn seminar y tu ôl i ddrysau caëedig ddechrau mis Gorffennaf.

“Rydyn ni fel pe baen ni’n rhuthro pethau drwodd,” meddai’r Cynghorydd Simon Howarth.

“Mae hyn ar y gweill ers 2015, a nawr mae’n rhaid i ni wneud penderfyniad o fewn deg wythnos.”

‘Dyletswydd’

“Mae gennym ni ddyletswydd i ddod o hyd i gartrefi i bobol, a dw i’n poeni am amseru’r Cynllun Datblygu Lleol newydd,” meddai Craig O’Connor, Pennaeth Cynllunio’r Cyngor.

Dywedodd mai’r bwriad yw adnabod safleoedd sydd â’r potensial ar gyfer datblygiad ac ymchwiliad pellach, ac y byddai’r broses gynllunio’n penderfynu a fyddai modd eu datblygu ac a fyddai’r effaith ar fywyd gwyllt neu faterion megis mynediad at briffydd yn gallu cael eu rheoli.

Fodd bynnag, cytunodd y pwyllgor na fyddai’n argymell unrhyw safleoedd i’r Cabinet fel rhai fyddai’n addas ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

Dywed y Cynghorydd John Crook, y cadeirydd, fod pryderon ynghylch y safleoedd, y broses gafodd ei defnyddio i’w dewis nhw, ac a ydyn nhw’n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y pwyllgor hefyd eu bod nhw eisiau i’r Cyngor gyhoeddi galwad i dirfeddianwyr preifat er mwyn iddyn nhw enwebu safleoedd posib, yr oedden nhw wedi’i wneud yr wythnos ddiwethaf, ac a gafodd ei wneud yn gynharach yn y broses heb ymateb llwyddiannus, meddai swyddogion.