Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £2.5m tuag at ariannu ail adeilad ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, M-SParc Ynys Môn.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd M-SParc y bydden nhw’n agor ail adeilad yno, sef M-SParc 2.0, wedi i’r adeilad cyntaf agor yn ôl yn 2018.
Dydy M-SParc, sydd yn rhan o Brifysgol Bangor, ddim wedi cyhoeddi cyfanswm cost y gwaith eto.
Bwriad y cyllid yw gweithio tuag at ddatblygu cyfleuster sy’n canolbwyntio ar arloesi carbon isel a di-garbon.
Bydd hefyd yn sicrhau bod mwy o gwmnïau’n gallu cael mynediad at swyddfeydd a labordai gyda gwasanaethau cymorth busnes pwrpasol.
Ddechrau’r wythnos, fe fu Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn ymweld â’r safle ger Gaerwen.
“Gyda’r cyllid hwn, gall M-SParc ehangu ymhellach, creu gyrfaoedd, a darparu cymorth i’r cwmnïau sydd wedi’u lleoli yno,” meddai.
“Mae M-SParc yn ganolbwynt ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth o dan yr un to.”
‘Tanio uchelgais’
Dywed Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-Sparc, ei fod “mor falch” o gael mynediad at y cydweithio hwn.
“Gyda’i gilydd, mae’r cyhoeddiadau diweddaraf hyn yn cyfrannu’n fawr at ein gwaith o danio uchelgais yn y rhanbarth, ac mae gwneud hyn ar y cyd yn wych,” meddai.
“Dyna sy’n gwneud M-SParc beth ydy o – cartref arloesi a chyfleoedd.
“Ni allwn aros i weld ein hunain a’n tenantiaid yn tyfu wrth i ni ehangu ar y safle hefyd.”
‘Cyfle i ddenu busnesau carbon isel’
“Mae enw da byd-eang y Brifysgol am ymchwil ac arloesi yn rhoi cyfle i ddenu busnesau carbon isel i’n Parc Gwyddoniaeth – M-SParc,” meddai Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil Prifysgol Bangor.
“Yn hollbwysig, bydd datblygiad y safle yn ysgogi galw, gan gyflawni’r nod hirdymor o feithrin cymuned fusnes ac ymchwil ffyniannus a fydd o fudd i’r rhanbarth cyfan.
“Mae cynlluniau twf y Parc Gwyddoniaeth yn gam cadarnhaol tuag at ddarparu llwyfan i arddangos ymhellach arbenigedd a doniau’r ardal wrth dangos ymrwymiad cryf i economi Gogledd Cymru.”