Mae cleifion sy’n byw mewn tai cymdeithasol yn cael cynnig llwybr at ddialysis yn y cartref yn sgil partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Ynys Môn.
Trwy alluogi cleifion i dderbyn triniaeth dialysis yn eu cartref, nod y llwybr dialysis newydd ydi gwneud y profiad yn un llai dychrynllyd a mwy cyfleus i gleifion. Bydd hefyd yn sicrhau arbedion ariannol gan ei fod yn fwy cost effeithiol.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i gleifion sydd â chartrefi anaddas ar gyfer dialysis o’r cartref fynychu Ysbyty Gwynedd am driniaeth hyd at dair gwaith yr wythnos ac am hyd at bedair awr ar y tro.
Bydd y llwybr newydd yn ceisio darparu eiddo i gleifion mewn tai cymdeithasol er mwyn galluogi cynnal y driniaeth o gartref.
Trwy dderbyn triniaeth yn y cartref, fe all cleifion ddewis pryd maen nhw’n dymuno derbyn y driniaeth, naill ai yn ystod y dydd neu gyda’r nos, er mwyn gwella ansawdd eu bywyd a lleihau’r gost i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar yr un pryd.
Gwella lles a morâl y cleifion
Yn ôl Ned Michael, Pennaeth Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn, byddai cael triniaeth yn y cartref yn gwella ansawdd bywyd y bobol.
“Fe ddylai’r llwybr hwn alluogi mwy o gleifion ar Ynys Môn i dderbyn dialysis yn y cartref,” meddai Ned Michael.
“Fe all derbyn triniaeth yn y cartref, yn nes at deulu a rhwydweithiau cymorth, wella lles a morâl y cleifion hyn.
“Mae rhoi cyfle i gleifion dderbyn dialysis yn y cartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt, yn cynnwys cael dewis derbyn y driniaeth ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
“Mae gennym bartneriaeth hir sefydlog â’r Bwrdd Iechyd a bydd y llwybr hwn yn helpu i wella’r siwrnai i gleifion sy’n penderfynu derbyn dialysis yn y cartref yn hytrach nag ar ward arennol.”
Buddianau dialysis yn y cartref
Mae 26.5% o gleifion sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn derbyn dialysis yn y cartref, o’i gymharu â dim ond 14.6% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae’r Cyngor a’r bwrdd iechyd yn awyddus i gynyddu nifer y cleifion sy’n derbyn dialysis yn y cartref.
Mae defnyddio peiriant dialysis yn y cartref yn golygu nad oes rhaid i gleifion fynd i ward arennol i dderbyn triniaeth, gan fod modd iddyn nhw ofalu am eu hanghenion iechyd yn eu cartref eu hunain.
Mae triniaeth dialysis ar ward yn costio oddeutu £3,000 y mis, tra bod triniaeth dialysis yn y cartref yn costio oddeutu £1,200 y mis. Y bwrdd iechyd sy’n ysgwyddo’r costau hyn.
Y claf a’r tîm meddygol amlddisgyblaethol fydd yn dewis pa opsiwn sydd orau ganddyn nhw, naill ai dialysis yn y cartref neu ar ward.
Mae’r Ffederasiwn Arennau Cenedlaethol wedi dod i’r casgliad bod triniaeth dialysis yn y cartref yn gam arloesol ymlaen i gleifion ac i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Symleiddio’r broses
Yn ôl Sarah Hirst-Williams, Rheolwr Gwasanaeth Dialysis yn y Cartref, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd y cynllun hwn gan y tîm iechyd yn galluogi pobol sydd eisiau cael dialysis yn y cartref i gael hynny.
“Mae nifer o gleifion ar Ynys Môn sy’n derbyn triniaeth dialysis ar ward yn awyddus i ddechrau derbyn dialysis yn y Cartref,” meddai.
“Bydd y llwybr hwn yn ein galluogi i gynyddu nifer y cleifion sy’n derbyn dialysis yn y cartref drwy symleiddio’r broses er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol o fewn y gymuned.
“Mae ein tîm iechyd wedi ymrwymo i sicrhau bod cleifion arennol yn cael y cyfle gorau posib er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau, ac mae’r llwybr yn cefnogi’r ymrwymiad hwn.”