Mae golwg360 yn deall bod digwyddiad i ddadorchuddio plac ar gartre’r Athro Hywel Teifi Edwards yng Ngheredigion wedi cael ei ganslo ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 20), ac nad oes bwriad ar hyn o bryd i’w aildrefnu.
Roedd disgwyl i’r plac gael ei ddadorchuddio lle cafodd ei eni yn Llanddewi Aberarth gan ei fab, y newyddiadurwr Huw Edwards, sydd wedi’i wahardd o’i waith yn y BBC ar hyn o bryd yn sgil honiadau yn The Sun ei fod e wedi talu person ifanc am ddelweddau anweddus.
Mae Huw Edwards wedi bod yn yr ysbyty yn dioddef o “broblemau iechyd meddwl difrifol”.
Wedi’i eni yn Llanddewi Aberarth, roedd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn academydd o fri, ac yn arbenigwr ar waith y bardd Gwenallt a hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda chyfrol o’i waith, Yr Eisteddfod (1976) yn ddathliad o wyth canmlwyddiant yr Eisteddfod gyntaf un.
Cyhoeddodd Gŵyl Gwalia: Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Oes Aur Victoria (1858-1868) a nifer o gyfrolau eraill ar hanes y Brifwyl.
Roedd yn athro mewn ysgol uwchradd ym Mhen-y-bont cyn dod yn ddarlithydd Uwch Efrydiau ym Mhrifysgol Abertawe, lle cafodd ei benodi’n Athro’r Gymraeg yn 1989 ac yna’n Athro Emeritws wrth ymddeol yn 1995.
Ar ôl symud i Langennech yn Sir Gaerfyrddin, daeth yn ymgyrchydd ac fe sefydlodd gymdeithas lenyddol yn y pentref lle’r oedd hefyd yn llywodraethwr ysgol ac yn flaenllaw yn y capel lleol ac fel cynghorydd lleol.
Safodd yn enw Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 1983, gan frwydro sedd Llanelli yn erbyn yr Aelod Seneddol Llafur, Denzil Davies, ac eto yn 1987 yng Nghaerfyrddin ac yntau’n Gynghorydd Sir yn Nyfed ers 14 o flynyddoedd.
Roedd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn niwylliant glo’r de, gan olygu sawl cyfrol am gymunedau glofaol hefyd.
Ar ôl ymddeol, daeth yn siaradwr gwadd poblogaidd, yn enwedig yng nghymunedau Cymraeg Llundain a Lerpwl.
Digwyddiad
Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu gan y grŵp Coffi a Chlonc yn Aberaeron, ar ôl iddyn nhw sefydlu ymgyrch i sicrhau’r gofeb ar fan geni’r academydd blaenllaw.
Fis Hydref y llynedd, rhoddodd Cyngor Cymuned Dyffryn Arth ystyriaeth i gais gan y grŵp am gyfraniad ariannol o 50% gan y Cyngor tuag at gost y plac, fyddai’n costio £397.50, i ddathlu ei fan geni yn Aberarth.
Penderfynodd y Cyngor eu bod nhw’n cefnogi’r cais mewn egwyddor, ond “na allai gyfiawnhau gwario swm o arian o’r math hwn yn yr hinsawdd economaidd presennol”, ac i wahodd yr ymgeisydd i gyflwyno “cais diwygiedig” i’r Cyngor ei ystyried.