Mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cynyddu o 5,000 o lwybrau cleifion ers mis diwethaf, yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Dyma’r trydydd mis yn olynol lle bu cynnydd, ac mae cynnydd o dros 1,600 o lwybrau cleifion wedi bod hefyd yn y rheiny sydd ag amheuon o’r newydd fod ganddyn nhw ganser.

Dim ond 54% o gleifion canser gafodd eu triniaeth gyntaf o fewn yr amser targed o 62 diwrnod, a wnaeth yr un o’r byrddau iechyd lwyddo i gyrraedd y targed o 80% o gleifion.

Er hynny, bu gostyngiad yn nifer y cleifion sy’n gorfod aros mwy na blwyddyn am driniaeth.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun ar gyfer sut maen nhw’n bwriadu cyflymu’r achosion mwyaf brys ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef bod y ffigwr hwn hefyd yn “isel yn y cyd-destun hanesyddol”.

“Testun pryder mawr”

Dywed Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod y Llywodraeth yn “parhau i fethu mynd i’r afael” â’r ôl-groniad yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Er mwyn mynd i’r afael â “phroblemau hirsefydlog” y Gwasanaeth Iechyd, dywed fod angen “trin staff yn deg”.

“Y cam cyntaf yw darparu cyflog teg ac amodau gwaith diogel i staff, oherwydd os yw’r llywodraeth am leihau amseroedd aros, mae arnynt angen y staff i wneud hynny,” meddai.

Mae’n poeni y bydd yr amseroedd aros yn achosi problemau pellach i staff a chleifion, y tu hwnt i’r problemau iechyd gwreiddiol.

“Ni ellir tanseilio effaith gofid, neu boen cronig ar iechyd meddwl, na’r straen parhaus ar y staff sydd yn gorfod gweithio o dan amodau o’r fath,” meddai.

Dywed ei fod yn “destun pryder mawr” gweld bod y ffigurau ar gyfer gweld cleifion canser yn parhau i waethygu.

“Gwyddom mai gorau po gyntaf y caiff cleifion canser eu gweld a’u trin, y gorau fydd eu canlyniadau,” meddai.

“Mater o fywyd a marwolaeth yw hyn, nid mater gwleidyddol pleidiol yn unig, ac felly mae’n rhaid i ni weld gwelliant yn y maes hwn fel mater o frys – wedi’r cyfan, mae’n effeithio arnom ni i gyd!”

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae Plaid Cymru yn barod i gydweithio â Llywodraeth Cymru i wella’r ffigurau hyn.

Ond mae e eisiau gweld cynllun gan Lywodraeth Cymru o ran sut maen nhw’n bwriadu cyflymu’r achosion mwyaf brys ar y rhestrau aros.

“Siom”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn destun “siom bod y niferoedd cyffredinol ar y rhestr aros wedi cynyddu ym mis Mai”.

Ond dywed fod targedau wedi eu cyrraedd hefyd, wrth i “staff ymroddedig barhau i weithio’n galed i ddarparu gofal o ansawdd uchel bob dydd”.

“Dechreuodd mwy o bobol ar eu triniaeth ganser diffiniol gyntaf ym mis Mai na’r mis blaenorol, a gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer y llwybrau a gafodd eu cau ar ôl i’r cleifion gael gwybod nad oedd canser arnynt,” meddai.

“Ym mis Mehefin hefyd cofnodwyd y perfformiad pedair awr gorau ar gyfer cyfleusterau gofal brys ers mwy na dwy flynedd.

“Roedd hyn er gwaetha’r ffaith fod nifer y bobl a fynychodd y cyfleusterau hynny fis Mehefin ar ei uchaf erioed, sef 3,278 bob dydd ar gyfartaledd.

“Mae’r Gweinidog wedi gosod targedau newydd i’r byrddau iechyd i fynd i’r afael â’r arosiadau hiraf a byddwn yn parhau i’w cefnogi i wella perfformiad.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.