Bydd y grŵp Cymru Republic, sy’n awyddus i sefydlu Cymru fel gweriniaeth, yn cynnal eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf yng Nghaerdydd heno (nos Iau, Gorffennaf 20).
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Creative Plug yng Nghanolfan Capitol y brifddinas am 7 o’r gloch, a’i nod yw hwyluso trafodaeth am yr hyn mae pobol eisiau i’r grŵp ganolbwyntio arno yn y dyfodol agos a thu hwnt, yn dilyn dwy rali dorfol lwyddiannus a chyfleoedd amrywiol i annerch digwyddiadau fel Cardiff Transformed, a chyfweliadau yn y cyfryngau am waith y grŵp newydd.
Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal ar y cyd â Black Lives Matter Caerdydd, er mwyn ceisio denu cynulleidfa ehangach i’r ymgyrch, a’r bwriad yw cynnal cyfarfodydd tebyg gyda sefydliadau eraill yn y dyfodol agos.
Pwysig osgoi “creu mwy o’r un peth”
Yn ôl Kwabena Devonish o Black Lives Matter Caerdydd, un fu’n siarad yn erbyn Coroni Brenin Lloegr, mae’n bwysig bod y grŵp yn cynrychioli rhywbeth newydd yn y Gymru sydd ohoni.
“Pan rydyn ni’n meddwl am Weriniaeth Gymreig mae’n bwysig nad ydyn ni’n creu mwy o’r un peth,” meddai.
“Dydyn ni ddim eisiau yr un systemau trefedigaethol ond mewn coch, gwyrdd a gwyn.
“Mae hyn yn golygu creu Cymru lle rydym yn dweud ein bod yn genedl noddfa, a bod ein polisïau yn adlewyrchu hynny.
“Cymru lle nad eir i’r afael â throseddau gyda chosb, ond lle rydym yn delio gyda gwraidd y broblem – sef mynd i’r afael â thlodi.
“Bydd Cymru sy’n gweithio’n well i weithwyr, ffoaduriaid, a chymunedau ymylol yn Gymru well i bawb.”
‘Hanes cyfoethog o weriniaetholdeb’
“Mae gan Gymru hanes cyfoethog o weriniaetholdeb,” meddai Adam Johannes o’r grŵp Cymru Republic.
“Roedd Iolo Morgannwg, a sefydlodd Gorsedd y Beirdd yn Gymro Rhyngwladol, yn ddiddymwr ac yn gefnogwr i’r Chwyldro Ffrengig.
“Yn ystod Gwrthryfel Merthyr ym 1831 – y tro cyntaf i’r faner goch gael ei chodi ar yr ynys hon fel symbol o bŵer y bobol – canodd y rhai oedd yn bresennol ‘ i Lawr a’r Brenin’. Mynnodd y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839 nid yn unig yr hawl i bleidleisio, ond gweriniaeth fel y ffurf mwyaf democrataidd o lywodraeth y gwyddont amdano ar y pryd.
“Rydym yn sefyll ar ysgwyddau’r cewri hyn ac yn dymuno adeiladu gweriniaeth newydd lle mae gan bawb yr hawl i fwyd ddigonol, tai ac incwm.”