Mae ffermwyr o Arfon yn pryderu am reolau’n ymwneud â pharthau perygl nitradau (Nitrate Vulnerable Zones, neu NVZ), ac yn profi rhwystredigaethau wrth sicrhau caniatâd cynllunio priodol, yn ôl Aelod o’r Senedd.
Fe fu Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio, yn cyfarfod â ffermwyr ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 19), yn dilyn gwahoddiad i bobol fynd yno i gyfarfod â hi ac i glywed yr hyn sy’n digwydd ar fferm Plas Bodaden ym Montnewydd dan ofal Meilir Breese a Sioned Pritchard.
Maen nhw’n ffermio ychydig dros 150 erw o dir, yn cadw buches sugno, diadell o ddefaid a nifer o foch, ac yn gwerthu cig eidion o’r fuches wagyu yn uniongyrchol i’w cwsmeriaid.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i glywed pryderon y ddau am y rheolau’n ymwneud â pharthau perygl nitradau a llygredd amaethyddol, a’r drafferth maen nhw’n ei chael wrth sicrhau caniatâdd cynllunio priodol, a hefyd am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy lle mae diffyg coed yn mynd i fod yn broblem i sicrhau mynediad i’r cynllun.
Yr ymweliad
Wedi ei drefnu gan Undeb Amaethwyr Cymru, roedd Siân Gwenllian wrth ei bodd yn cael ymuno ag aelodau o’r undeb ar y fferm, meddai, oherwydd ei bod yn cael deall ffordd o fyw a phryderon amaethwyr yn ei hetholaeth yn Arfon.
“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn trefnu ymweliadau fferm ar gyfer aelodau o’r Senedd,” meddai Siân Gwenllian wrth golwg360.
“Roedd hi’n bleser i fi gael ymuno efo aelodau o’r undeb ar ffarm Plas Bodaden ym Montnewydd ddoe.
“Mae o’n rhan bwysig o ‘ngwaith i, rwy’n meddwl, i fynd i siarad ag etholwyr ar draws Arfon i drafod problemau, i weld beth sy’n digwydd mewn cymunedau, ac mae’r sector amaeth yn bwysig yn Arfon.
“Mae ymweld â ffermydd yn rywbeth sy’n rhan o fy ngwaith i fel Aelod o’r Senedd, ac rwy’n dysgu llawer iawn wrth fynd allan i siarad efo ffermwyr ac aelodau o undebau, i fi gael gweld efo fy llygaid fy hun beth sy’n digwydd ar y ffermydd.”
Parthau
Mae’r rheoliadau newydd yn ymwneud â pharthau nitradau NVZ wedi golygu cymhlethdodau i fywyd ar fferm Bodaden, sydd wedi bod yn “rhwystredig” iawn iddyn nhw, yn ôl Siân Gwenllian.
“Mae plas Bodaden efo ychydig dros 150 o aceri ac maen nhw’n cadw buchedd sugno, rhyw faint o ddefaid a rhywfaint o foch ac yn gwerthu cig eidion, cig eidion arbennig iawn o’r enw WAGYU, WAGYU Eryri sydd yn gig o safon uchel iawn ac yn rhywbeth arbenigol,” meddai
“Rwy’n meddwl mai brîd o Siapan ydyn nhw’n wreiddiol.
“Maen nhw’n cynhyrchu cig o safon uchel iawn, iawn.
“Mae’r fferm wedi datblygu’r ochr yna o’r busnes.
“Mae’r gwaith sydd o’u hamgylch nhw yn amgylcheddol garedig.
“Mae o’n ddatblygiad diddorol ofnadwy bod hyn yn digwydd ym Montnewydd.
“Mae yna reoliadau newydd wedi dod i mewn ynglŷn â llygredd amaethyddol, sef yr NVZ maen nhw’n cael eu galw.
“Mae’r rheoliadau yma’n golygu bod yna reolau newydd o gwmpas faint o dail rydych yn cael gwasgaru ar eich tir a pha bryd yn ystod y flwyddyn rydych yn cael gwneud hynny ac yn y blaen.
“Mae’r fferm yma angen adeiladu storfa newydd er mwyn cadw tail fel rhan o’r rheoliadau, ond beth oedden nhw’n ei ddweud wrtha i ddoe oedd ei bod hi’n rhwystredig iawn iddyn nhw gael symud ymlaen i adeiladu’r storfa.
“Mae yna bob math o faterion sydd angen eu datrys cyn iddynt adeiladu’r storfa – arafwch o ran cael y caniatâd cynllunio, gorfod gwneud arolygon ystlumod, gorfod edrych ar reolau ynglŷn â draenio dŵr, felly mae wedi bod yn reit rwystredig iddyn nhw.
“Gobeithio bydd pethau yn symud yn gynt erbyn hyn.
“Mae’n drueni bod y storfa yma byth wedi cael ei hadeiladu ganddyn nhw.”
Cynllun ffermio cynialadwy
Un o elfennau cynllun ffermio cynaliadwy yw fod angen i 10% o’r tir fod yn dir sydd efo coed arno.
Dydy hi ddim yn glir a ydy’r coed yn cael bod ar wrychoedd, a gan nad oes llawer o goed ar fferm Bodaden, mae’n bryder nad oes modd tyfu coed ar wrychoedd.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ynglŷn â’r Bil Amaeth a cheisio sicrhau bod deddfwriaeth unigryw i Gymru, ac yn ôl Sian Gwenllian roedd yr amaethwyr oedd ar y fferm ddoe yn ddiolchgar.
“Buon ni’n trafod mater y storfa a rheoliadau llygredd amaethyddol,” meddai.
“Roedd hynny’n amlwg yn bryder.
“Yr ail beth fuon ni yn trafod oedd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, cynllun newydd sydd ddim wedi cael ei gynllunio yn llawn eto.
“Ond un o’r elfennau sy’n cael ei drafod o gwmpas y cynllun ffermio cynaliadwy ydy’r angen i amaethwyr sy’n rhan o’r cynllun yna i fod yn plannu mwy o goed ar eu tiroedd.
“Mae yna lawer o ansicrwydd ynglŷn â’r agwedd yna o’r cynllun.
“Mae yna sôn am 10% angen bod yn dir efo coed arno.
“Dydy hi ddim yn glir o gwbl os ydy coed sydd ar wrychoedd yn rhan o’r cynllun yma, ’ta ydyn nhw’n gorfod bod yn goed sydd mewn darn o gae.
“Mae yna lawer o ansicrwydd ynglŷn â hynny, ond rwy’n gobeithio dros y misoedd nesaf mi ddaw hi’n gliriach.”
Bil Amaeth newydd
“Mae’r cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei ddyfeisio rŵan yn sgil pasio Bil Amaeth newydd yn y Senedd,” meddai Siân Gwenllian wedyn.
“Mi oeddan ni ym Mhlaid Cymru yn rhan o’r trafodaethau ynglŷn â’r Bil Amaeth, ac roedd yr amaethwyr ddoe yn ddiolchgar iawn i Blaid Cymru am y gwaith sydd wedi digwydd trwy’r Cytundeb Cydweithio i sicrhau bod y Bil Amaeth yn cynnwys materion yn ymwneud â chynhyrchu bwyd a bod gennym ni ddeddfwriaeth unigryw yng Nghymru rŵan.
“Fel dw i’n dweud, y cynllun ffermio cynaliadwy fydd yn deillio allan o’r Bil Amaeth rŵan sydd wrthi’n cael ei drafod.
“Mae yna lawer o waith rŵan i’w wneud i gael y cynllun yna wedi’i sefydlu.
“Mae’r elfen plannu coed yn sicr yn poeni amaethwyr; mae disgwyl cael mwy o fanylion am hyn.
“Efallai gawn ni glywed mwy yn ystod y Sioe Amaethyddol wythnos nesaf, ond yn sicr mae’n bryder i’r ffarm benodol yma oherwydd dydyn nhw ddim yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o dir i blannu mwy o goed.
“Maen nhw’n teimlo, petai’r coed sydd yna’n barod sydd ar y gwrychoedd ac yn y blaen yn cael ei gynnwys yn y 10%, y byddai hynny’n fwy teg iddyn nhw.”