Mae’r cerddor Catrin O’Neill wedi postio neges ar Facebook ar ran Triban yn dweud bod pebyll ac eiddo arall y criw “wedi’u dwyn”, gan ofyn am gymorth y cyhoedd drwy gronfa GoFundMe.

Casgliad o bobol greadigol sy’n angerddol am gerddoriaeth, y celfyddydau a’r amgylchedd yw Triban.

Maen nhw wedi bod yn rhedeg llwyfan gŵyl solar, caffi, ac weithiau bar ers 2006, gyda chynaliadwyedd wrth galon eu gwaith.

Maen nhw wedi gallu parhau eleni gyda chymorth Roly o Bespoke Tents a Roaming Tents.

“Bydd llawer ohonoch yn ein hadnabod o gylchdaith yr wyliau ac wedi bod yn ffrindiau Triban ers blynyddoedd,” meddai Catrin O’Neill.

“Rydym i gyd wedi cael llawer o atgofion gwych gyda’n gilydd yn chwarae, dawnsio a gwrando ar gerddoriaeth ar y llwyfan hudolus hwn!

“Eleni, yn anffodus rydym wedi cael ein dwy babell hardd (gan gynnwys ein prif leoliad llwyfan), cryn dipyn o offer hanfodol, a threlar wedi’i ddwyn o compwnd y VOSA!

“Heb hyn mae Triban yn ei chael hi’n anodd parhau.

“Rydym wedi llwyddo i barhau eleni gyda diolch enfawr i Roly o Bespoke Tents ac i’r bobl wych o Roaming Tents sydd wedi mynd allan o’u ffordd gydag ymdrech sylweddol i’n helpu.

“Mae angen i ni ddisodli’r hyn sydd wedi’i ddwyn ac rydym yn ffodus i gael y cyfle i brynu’r brif babell hyfryd yr ydym yn ei fenthyg ar gyfer y Green Gathering, ond bydd yn costio mwy o arian nag y gallwn ei godi o’n pocedi ein hunain.

“Rydym angen cariad a chefnogaeth pob un ohonoch, brodyr a chwiorydd yr ŵyliau, i helpu Triban i oroesi.

“Rhowch yn hael neu beth bynnag y gallwch i helpu i gadw’r cariad a’r gerddoriaeth i fynd!

Diolch o galon.”