Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno deiseb sy’n galw am gyflwyno’r opsiwn o gael prawf canser ceg y groth o’r cartref yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, canser ceg y groth yw’r canser mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar ferched o dan 35 mlwydd oed.
Yn ôl yr elusen Cancer Research UK, mae modd atal 99.8% o achosion canser ceg y groth trwy gynnal profion a chanfod newidiadau cyn-ganseraidd yn gynnar.
Ond mae’r deisebwyr yn pryderu nad yw mynediad at y profion hyn yn hygyrch i bawb, a bod y system bresennol yn gadael rhai menywod ar ôl.
Cafodd y ddeiseb ei chreu gan Jessica Moultrie, cynghorydd ifanc o Gaerdydd, a Molly Fenton o’r ymgyrch Love Your Period.
Rhwystrau i fenywod
Mae Heledd Roberts yn un sy’n gwirfoddoli gyda Love Your Period, ac mae hi’n “angerddol iawn” am y pwnc.
Dywed fod yna restr hirfaith o rwystrau all gwneud cael profion ceg y groth yn anodd i fenywod.
“Gall hynny fod am resymau fel embarrassment, mae yna lawer o resymau gwahanol am pam na fyddai rhywun yn teimlo’n gyfforddus i fynd i’r lle doctor i’w gael e,” meddai wrth golwg360.
“Mae rhai o’r rhwystrau eraill yn cynnwys materion diwylliannol, diffyg addysg am y pwnc, problemau delwedd corff a thrawma.
“Rydw i’n meddwl ei fod o’n ofnadwy a dydyn nhw ddim yn cymryd y bobol i gyd i mewn i ystyriaeth, maen nhw jest yn cymryd bod pobol efallai’n byw gartref ac yn agos i feddygfa.
“Ond beth am y bobol sydd ddim yn gallu gadael eu cartrefi neu’r bobol sydd wedi symud i ffwrdd neu’n teithio neu rywbeth?”
‘Cymryd menywod o ddifrif’
Mae hi’n credu y byddai’r opsiwn o wneud prawf o’r cartref yn cael ei ddefnyddio gan nifer helaeth o bobol, ac mae hi’n gobeithio y bydd y ddeiseb yn helpu i symud yr alwad yn ei blaen.
“Rydw i’n gobeithio erbyn mis Ionawr y byddwn ni wedi cyrraedd 10,000 o lofnodion ar y ddeiseb ac y bydd y ddeiseb yna’n cael ei chymryd o ddifrif o fod menywod yn cael eu rhoi gyntaf,” meddai.
“Mae angen ail edrych ar ofal iechyd oherwydd dydy’r system bresennol heb gael ei seilio ar gyrff menywod.
“Rydw i jest yn credu ei bod hi’n hen bryd ein bod ni’n cymryd menywod o ddifrif.”
Ar hyn o bryd, mae’r ddeiseb wedi cyrraedd dros 650 o lofnodion, ac mi fydd hi ar agor hyd at Ionawr 25 y flwyddyn nesaf.