Mae meddygon Cymru wedi gwrthod cynnig Llywodraeth Cymru o godiad cyflog o 5% – cynnig mae cymdeithas feddygol BMA Cymru’n ei alw “y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig”.
Pe bai wedi cael ei dderbyn, byddai’r codiad cyflog wedi cael ei gynnig i feddygon arbenigol, meddygon iau ac ymgynghorwyr ar gytundebau o 2008 ymlaen.
“Mae codiad o 5% yn cynrychioli toriad cyflog arall eto mewn termau real,” meddai Dr Iona Collins o’r BMA.
“Bydd codiad o’r fath ddim ond yn dyfnhau’r colledion mae meddygon yn eu hwynebu, ar ôl mwy na degawd o weld eu cyflogau yn codi yn arafach na chwyddiant.
“Dyma’r cynnig gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.”
Bydd pwyllgorau’r BMA yn cyfarfod o fewn pythefnos er mwyn penderfynu a ddylid mynd i anghydfod gyda Llywodraeth Cymru dros y cynnig a chynnal pleidlais dros weithredu diwydiannol.
‘Meddygon ar ddiwedd eu tennyn’
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, mae’r cynnig yn “annigonol.”
“Mae lefelau cyflog wedi llithro flwyddyn ar ôl blwyddyn – does ryfedd fod meddygon wedi cyrraedd diwedd eu tennyn gyda’r cynnig cyflog cwbl annigonol hwn gan Lywodraeth Lafur Cymru,” meddai.
“Hynny a thanariannu cronig gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.”
Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod hefyd yn “ddigalon gyda’r newyddion”, ac y byddai wedi hoffi gweld Llywodraeth Cymru “o leiaf yn cynnig yr un cyflog mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn ei gynnig i feddygon, er mwyn dod â’r anghydfod hwn i ben.”
“Yn enwedig o ystyried am bob £1 gaiff ei gwario ar iechyd yn Lloegr, mae Cymru yn derbyn £1.20,” meddai.
“Mae angen i Lafur edrych o ddifrif ar eu prosiectau gwagedd costus fel anfon mwy o wleidyddion i Fae Caerdydd a blaenoriaethu ein Gwasanaeth Iechyd Cymreig yn lle hynny.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r codiad cyflog y gallen nhw ei gynnig wedi ei gyfyngu gan yr arian maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo’r cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus,” meddai llefarydd.