Dywed Mabon ap Gwynfor fod “rhaid i ni gofio trwy’r amser bod perthynas fel umbilical cord yn bodoli rhwng ynni niwclear ac ynni niwclear milwrol”.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Blaid Cymru ar drothwy darlith heddwch Hiroshima dan ofal CND Cymru a CADNO ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan ddydd Sul (Awst 6) am 3.30yp ym Mhabell Cymdeithasau 2.

Mae Awst 6 hefyd yn ddiwrnod cofio Hiroshima, lle cafodd y bom niwclear cyntaf ei ollwng.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, dydy ynni niwclear ddim yn datrys newid hinsawdd, ond dydyn nhw ddim yn medru cynnal yr elfen filwrol heb y sgiliau sydd yn mynd trwy’r sector ynni.

Hiroshima

Ar Awst 6, 1945, cafodd 80,000 o bobol eu lladd yn Hiroshima gan fom niwclear, ac mae lle i gredu bod hyd at 200,000 yn rhagor wedi marw’n ddiweddarach o ganlyniad i’r digwyddiad.

“Mae’n amlwg mai trafod niwclear yn yr ystyr miltaraidd fydda i, felly,” meddai Mabon ap Gwynfor wrth golwg360 am ei ddarlith.

“Y bwriad ydy y byddaf yn trafod y cyswllt symbiotaidd rhwng niwclear ynni a niwclear milwrol neu filitaraidd.”

Nid ynni niwclear yw’r datrysiad gorau ar gyfer newid hinsawdd, meddai.

Dywed fod opsiynau eraill ar gael, bod ynni niwcelar yn ddinistriol i’r amgylchedd, a bod datblygiad ynni niwclear wedi digwydd o ganlyniad i’r angen i gynnal a chadw elfennau niwclear byddinoedd.

“Mae’n andros o bwysig, oherwydd rydym wedi clywed llawer o sôn dros y blynyddoedd diwethaf, y degawdau diwethaf, am yr angen i fuddsoddi mewn ynni niwclear,” meddai.

“Mae yna sôn bron bob mis am ryw fuddsoddiad ymchwil niwclear, am ryw breakthrough niwclear newydd drwy’r amser.

“Mae’r cyfan yn cael ei wisgo fyny fel rhywbeth da sydd yn digwydd er mwyn ymladd newid hinsawdd, er mwyn rhoi sicrwydd ynni cynhenid i’r Deyrnas Gyfunol.

“Does dim herio wedi bod ar hyn o gwbl.

“Y gwir ydy bod rhaid herio, bod rhaid gwthio’n ôl oherwydd, yn un peth, dydy niwclear ddim yn sector glân, mae o’n gadael gwaddol ymbelydrol dinistriol am gannoedd o filoedd o flynyddoedd.

“Yn fwy na hynny, y gwir ydy na fysa yna wthio i gael datblygiadau ynni niwclear newydd yng Nghymru nac yn y Deyrnas Gyfunol oni bai am yr angen i gael y sgiliau yna i drosglwyddo i gynnal a chadw elfennau niwclear yn ein byddinoedd ni, felly pan mae rhywun yn meddwl am longau tanfor newydd sydd yn mynd i fod yn y Clyde yn yr ardal, pan mae rhywun yn meddwl am gytundeb Rolls Royce i ddatblygu llongau niwclear i Awstralia, yna fedran nhw ddim gwneud dim o hynna.

“Fedran nhw ddim cynnal yr elfen filwrol yna heb y sgiliau sydd yn mynd trwy’r sector ynni.

“Mae’r cyswllt yn glir.

“Pan fod ein llywodraeth ni yng Nghymru yn sôn am ddatblygu atomfa fach newydd yn Nhrawsfynydd neu yn Wylfa, mae rhaid i ni gadw mewn cof mai prif bwrpas hynny yw datblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn cynnal a chadw’r arfau niwclear dinistriol yma sydd gennym ni.

“Rŵan, bydd llawer o bobol yn dweud, ‘Mae angen i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae hynny’n berffaith wir.

“Mae rhaid mynd i afael ar newid hinsawdd, ond mae newid hinsawdd yn digwydd rŵan.

“Bydd atomfeydd niwclear newydd, yn enwedig y small modular reactors, ti’n gorfod disgwyl am 30 o flynyddoedd arall, sydd yn llawer iawn rhy hwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Mae gennym ni dechnoleg aeddfed yn bodoli i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Galli di fynd i’r afael â hynny trwy ddefnyddio gwynt, solar, hydro, hydrogen sydd, fel rwy’n dweud, yn aeddfed ac yn barod i’w defnyddio rŵan, ond dydyn ni ddim yn gwneud hynny.

“Rydym yn gweld y buddsoddiad yn hytrach nag ynni niwclear, sydd o hyd yn ddatblygiad fydd yn digwydd mewn blynyddoedd i ddod.

“Mae rheswm am hynny, oherwydd bod y buddsoddiad mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio i baratoi’r sgiliau ar gyfer y sector milwrol.”

Y berthynas rhwng ynni niwclear a milwriaeth

Yn ôl Mabon Ap Gwynfor, “mae’r berthynas rhwng ynni a milwrol wedi bod erioed”.

“Yr atomfa ynni cyntaf yn y byd oedd Calder Hall, ac mewn gwirionedd nid cynhyrchu trydan oedden nhw. Cynhyrchu plwtoniwm oedden nhw.

“Yn anffodus, mae’r dystiolaeth sydd wedi dod allan o’r Unol Daleithiau yn dangos bod Trawsfynydd, yn ystod ei oes, bod uned 2 yn Nhrawsfynydd wedi cynhyrchu 3.6 mega-tunnell o blwtoniwm ar gyfer arfau yn ystod ei hoes.

“Mae’r cyswllt yna wedi bod erioed, ac nid plwtoniwm ydyn ni yn edrych i ddatblygu bellach ond sgiliau.

“Mae rhaid i ni gadw hynny mewn cof.”