Mae diffyg cyllid gan Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn golygu bod diwydiant twristiaeth yng Nghymru “yn cael ei ddal yn ôl”, yn ôl Plaid Cymru.
Daw hyn yn dilyn adroddiad Cymru fel cyrchfan twristiaeth ryngwladol Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan.
Nododd yr adroddiad, er bod 41 miliwn o dwristiaid wedi dod i’r Deyrnas Unedig yn 2019, mai dim ond 2% o wariant y Deyrnas Unedig oedd yn ymwneud â Chymru.
Yn ogystal, awgrymodd yr adroddiad fod gan Gymru ddiffyg proffil, gyda 57% o ymwelwyr rhyngwladol yn dweud nad oedden nhw wedi gweld unrhyw hysbysebion am Gymru ymlaen llaw.
Ond yn ôl Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, mae’r ‘brand Cymreig’ yn gwneud Cymru yn lle delfrydol ar gyfer twristiaid.
“Mae’n amrywiaeth unigryw o fusnesau bach, mae’n olygfeydd godidog, ac mae’n groeso cynnes,” meddai.
“Mae’n hanes cyfoethog ac mae’n ddiwylliant unigryw a’n hiaith ein hunain yw hi.
“Mae gennym atyniadau o safon fyd-eang a phob rheswm i Gymru fod yn lleoliad delfrydol i ymwelwyr o bob rhan o’r byd.
Er hynny, mae wedi beirniadu diffyg cymorth y ddwy lywodraeth pan mae’n dod i hybu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
“Fodd bynnag, nid yw Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi creu presenoldeb i Gymru ar lwyfan y byd.
“Mae’n dweud rhywbeth pan fo dau actor o Hollywood wedi gwneud llawer mwy i gyflwyno’r byd i Gymru yn y ddwy flynedd ddiwethaf na Llywodraethau Cymru a San Steffan dros lawer, lawer o flynyddoedd.
“Mae gennym ni’r cyfle yng Nghymru i adeiladu sector twristiaeth gynaliadwy, gan osgoi ffurfiau echdynnol ar dwristiaeth.
“Mae cyfle hefyd i wella perchnogaeth gymunedol o dwristiaeth leol, i adeiladu eu hatyniadau eu hunain a llety sydd o fudd i’r gymuned leol.”
Gwella trafnidiaeth ‘yn hanfodol’
Mater arall sy’n codi yn yr adroddiad yw’r diffygion o fewn trafnidiaeth Cymru, ac effaith hynny ar dwristiaeth.
“Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gadael Cymru i lawr drwy beidio â chael y pethau sylfaenol yn iawn,” meddai Luke Fletcher.
“Mae diffyg buddsoddiad yn ein trafnidiaeth a’n seilwaith wedi gadael ein gwlad gyda chysylltiadau trafnidiaeth sy’n mynd â chi allan o’r wlad i gyrraedd lleoliadau tafliad carreg i ffwrdd.
“Mae gwasanaethau bws yn annigonol, a bu diffyg buddsoddiad mewn ffyrdd.
“Mae system drafnidiaeth gyhoeddus hawdd ei defnyddio yn rhan hanfodol o apelio at dwristiaid.”
Dywed fod “llawer o waith i’w wneud i ddenu ymwelwyr rhyngwladol i Gymru”.
“Pe bai gennym ein cyfran deg o gyllid rheilffyrdd, byddai gennym £6bn i’w roi tuag at gysylltu Cymru o’r gogledd i’r de, gan gysylltu cymunedau a rhoi’r rhwyddineb y mae darpar ymwelwyr yn ei ddymuno wrth gynllunio teithiau o amgylch Cymru,” meddai.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Mae miliynau yn ymweld â Chymru bob blwyddyn ar gyfer ein hantur fyd-eang, diwylliant creadigol, iaith ffyniannus a thirweddau gwarchodedig eithriadol.
“Mae brand Cymru yn canolbwyntio ar farchnata cryfderau amlwg Cymru fel gwlad, a’u harddangos i bobl ar draws y byd – mae’r adroddiad yn ei gyfanrwydd yn tynnu sylw at waith cadarnhaol Croeso Cymru mewn perthynas â’n marchnata a’n hymgysylltiad â’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.”