Mae rhai plant ysgol yn teimlo bod Covid-19 wedi arwain at “egwyl” wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil gan brifysgolion Aberystwyth a Bangor yn dangos bod teuluoedd yn teimlo bod diffyg cyfle wedi bod i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y cyfnodau clo.
Pwrpas yr ymchwil oedd archwilio profiadau dysgwyr o deuluoedd di-Gymraeg oedd mewn addysg Gymraeg, a theimladau rhieni, yn enwedig wrth i blant symud o ysgolion cynradd i rai uwchradd.
Yn yr adroddiad, mae’r tîm ymchwil yn dyfynnu un disgybl, gan eu bod nhw’n teimlo bod ei eiriau’n disgrifio profiadau cyffredinol yr holl deuluoedd roedden nhw wedi siarad â nhw, ac yn tynnu sylw at y diffyg cyfle i ymwneud â’r Gymraeg a’i defnyddio yn ystod y cyfnod clo:
“Yn fy marn, i roedd e [datblygu sgiliau Cymraeg] ar rywfaint o saib… [oherwydd] doeddwn i ddim yn ei ddefnyddio cymaint.”
Mae’r canfyddiadau hefyd yn nodi gwerth cryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn hwyluso’r broses bontio.
Ynghyd â hynny, maen nhw’n tanlinellu pwysigrwydd asesu sgiliau Cymraeg disgyblion rhwng cyfnodau allweddol – er enghraifft, wrth bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd – er mwyn canfod unrhyw angen am gymorth.
Mae’r astudiaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y cartref a’r ysgol, a defnyddio cyfathrebu dwyieithog, er enghraifft drwy ddarparu rhestrau o’r termau allweddol a fyddai’n cynorthwyo rhieni i gael gafael ar adborth a’i ddeall.
Mae sylw hefyd i bwysigrwydd cynyddu’r cyfleoedd allgyrsiol i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn yr ysgol a thu allan.
‘Diffyg ymwneud â’r Gymraeg’
“Gwyddom fod pandemig Covid-19, â’i gyfnodau clo a’r cau a fu ar ysgolion, wedi tarfu’n sylweddol ar fywydau pobol,” meddai Dr Siân Lloyd Williams, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un o’r ymchwilwyr.
“Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod diffyg cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg yn ystod y pandemig wedi cael effaith neilltuol ar y disgyblion hynny a oedd yn mynd i ysgolion Cymraeg, ond yn byw mewn cartref lle mai iaith arall, nid y Gymraeg, oedd y brif iaith.
“Yn ein hymchwil buom yn casglu safbwyntiau a phrofiadau disgyblion o’r fath a’u rhieni yn ystod y pandemig, er mwyn canfod pa effaith yr oedd diffyg ymwneud â’r Gymraeg a llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith wedi’i chael ar sgiliau Cymraeg y disgyblion.”