Cyfrannu at well dealltwriaeth o ddosbarthiad daearyddol y Gymraeg yw prif amcan gwefan newydd fydd yn cael ei lansio yn ystod Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yr wythnos hon.

Yn ogystal ag ymdrin â chanlyniadau diweddaraf Cyfrifiad 2021, mae Atlas y Gymraeg hefyd yn cyflwyno cefndir hanesyddol cynhwysfawr, er mwyn dangos y tueddiadau sydd wedi bod ar waith dros y ganrif a mwy diwethaf.

Mae’r holl wybodaeth wedi’i dosbarthu fesul sir, gyda mapiau rhyngweithiol yn ei gwneud yn wefan hawdd iawn ei defnyddio.

Cyhoeddwr ac awdur y wefan yw Huw Prys Jones, colofnydd gwleidyddol golwg360, ac mae’r deunydd a’r wybodaeth ynddi’n seiliedig ar waith ymchwil mae wedi’i wneud i amrywiol sefydliadau a mudiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

“Y nod oedd cyflwyno’r darlun llawnaf bosibl o sefyllfa’r Gymraeg fel y mae ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae’r wefan wedi’i hanelu at amrywiaeth o ddefnyddwyr, gan gynnwys cynllunwyr iaith, newyddiadurwyr, myfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.

“Er mwyn ymateb yn effeithiol i’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg, mae’n gwbl hanfodol meithrin gwell dealltwriaeth ohonyn nhw, a’m gobaith i ydi y bydd Atlas y Gymraeg yn cyfrannu rhywfaint at y gwaith hwnnw.

“Dim ond cychwyn y gwaith o fapio’r Gymraeg mae’r wefan yn ei wneud ar hyn o bryd, a’m gobaith ydi ei datblygu ymhellach fesul tipyn fel ei bod yn gallu cynnig dadansoddiadau manylach a mwy trylwyr o hyd.”

Mewn sgwrs ar sefyllfa’r Gymraeg yn Llŷn ac Eifionydd ar stondin Dyfodol bnawn Sadwrn, ychwanegodd mai “un o’r casgliadau cwbl ddiamwys sy’n dod i’r amlwg yn yr holl ymchwil dw i’n ei wneud ydi pa mor allweddol ydi cadarnle cryfaf y Gymraeg yn y gogledd-orllewin i’w holl hyfywedd fel iaith”.

“Dw i’n arbennig o falch felly o fod yn lansio fy ngwefan yn Llŷn ac Eifionydd, lle sy’n ffurfio rhan hanfodol o’r cadarnle hwnnw, ac sydd heb amheuaeth ymhlith cynefinoedd pwysicaf a gwerthfawrocaf y Gymraeg,” meddai.