Bydd yr ymgyrchydd Ffred Ffransis yn ymprydio am 75 awr cyn rali nesaf Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod.
Ddydd Mercher (Awst 9), bydd y mudiad iaith yn cynnal Rali Deddf Eiddo, gan orymdeithio i stondin Llywodraeth Cymru ar y maes er mwyn galw arnyn nhw i gyhoeddi Papur Gwyn ar Ddeddf Eiddo ar frys.
Bydd Ffred Ffransis wedi bod yn cynnal yr ympryd â gwyliadwriaeth tu allwn i Stondin Llywodraeth Cymru, a bydd y rali’n cyfarfod ag ef yno.
Dywedodd nad gweithred yn erbyn y llywodraeth ydy’r ympryd ond “anogaeth i’n pobol alw ar y llywodraeth am weithredu tra bo dal cyfle”.
“Ar derfyn fy ympryd, bydda i’n cael dychwelyd i fwyta tra bydd miloedd o gyd-Gymry’n colli prydau oherwydd argyfwng costau byw, a bydda i’n dychwelyd i gartref tra bo miloedd o’m cyd-Gymry’n cael eu gorfodi allan o’u cymunedau o ddiffyg cartrefi.
“Dyw Cymru a’r Gymraeg ddim yn gallu goroesi yn y drefn bresennol.
“Cyflwyno Deddf Eiddo, seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol, fydd un o’r camau cyntaf at greu trefn newydd lle gall Cymru fod yn esiampl i’r byd.”
‘Pwysleisio difrifoldeb’
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo fyddai’n rheoleiddio’r farchnad tai fel bod cartrefi i’w rhentu a’u prynu ar gael am brisiau sydd o fewn cyrraedd pobol leol.
“Mae ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ wedi rhygnu ymlaen ers degawdau gan ennill consesiynau yma ac acw,” ychwanegodd Ffred Ffransis.
“Bydda i’n ymprydio am 75 awr tu allan i uned Llywodraeth Cymru ar y Maes o 12.00 Sul hyd ddiwedd ein rali er mwyn pwysleisio difrifoldeb argyfwng ein cymunedau Cymraeg erbyn hyn.
“Dyma adeg dyngedfennol yn yr ymgyrch am Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad agored gan y gallen ni redeg allan o amser i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor seneddol hwn.
“Does dal dim arwydd o amserlen Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar y mater, a byddwn yn gofyn i bobl ar y Maes anfon neges at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn galw am gyflymu’r broses gan na all ein cymunedau aros yn hirach.
Bydd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Darren Price; Cynghorwyr Sir Gwynedd Rhys Tudur ac Elin Hywel; cyn-ymgeisydd Llafur dros Ddwyfor-Meirionnydd Cian Ireland; y gantores ac ymgyrchydd gyda Siarter Cartrefi Cymru, Catrin O’Neill, a Walis George yn annerch y dorf hefyd.
Robat Idris a Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith fydd yn arwain y rali.