Wedi’u megino gan wyntoedd cryfion a record o dymheredd uchel, lledodd tanau gwyllt ar ynys Roegaidd Rhodos yn ddiweddar o ardaloedd mewnol bryniog i’r arfordir poblog ar gyflymdra syfrdanol, gan adael yr awdurdodau â’r dasg anodd o symud miloedd o drigolion a phobol ar eu gwyliau rhag niwed.
Does dim modd anwybyddu rôl newid hinsawdd wrth gynyddu’r perygl o danau gwyllt. Ar gyfartaledd, mae’r byd 1.2°C yn fwy cynnes nag yr oedd yn yr hinsawdd cyn-ddiwydiannol, ac mae’r gwres ychwanegol yma’n dod â thonnau mwy cyson o wres a sychder. Mae’r tywydd yma’n gwneud yr amgylchedd yn fwy agored i danau, ac mae eu hamlder cynyddol eisoes wedi agor rhanbarthau sy’n wynebu perygl tân megis y Canoldir i fyny i risg uwch o drychineb.
Mae gwyddonwyr yn defnyddio mynegai tywydd tân er mwyn amcangyfrif pa mor fflamadwy ddaw tyfiant o dan set o amodau tywydd gan gynnwys tymheredd, lleithder, cyflymdra’r gwynt a pha mor ddiweddar gwympodd y glaw. Yn y Canoldir, mae amlder y gwerthoedd eithriadol ar y fynegai wedi cynyddu’n gynt na bron unman arall ar wyneb y Ddaear ers diwedd yr ugeinfed ganrif. O ganlyniad, mae’r Canoldir bellach yn wynebu 29 diwrnod ychwanegol o dywydd tân eithriadol y flwyddyn.
Deilliodd tywydd tân eithriadol diweddar Groeg o wres eithafol fyddai wedi bod o leiaf 50 gwaith yn llai tebygol yn yr hinsawdd cyn-ddiwydiannol. Mae disgwyl i ddyddiau tywydd tân eithafol gynyddu tan 2100 os na chaiff allyriadau eu lleihau.
O ganlyniad i newidiadau yn yr hinsawdd fyd-eang, mae Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn darogan cynnydd mewn tanau eithriadol o hyd at 14% erbyn 2030 a 50% erbyn 2100. Hyd yn oed ar gynhesu o 1.5°C (y trothwyo addawodd y gwledydd fyddai’n drothwy o ran cynnydd mewn tymheredd fel rhan o Gytundeb Paris 2015), mae disgwyl i ardal 40% yn fwy losgi yn y Canoldir.
Crisialu’r hyn sy’n achosi tanau gwyllt
Wrth dadogi’r hyn sy’n achosi tanau gwyllt, mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y ffactorau sy’n achosi i dân gynnau, a’r rheiny sy’n achosi i dyfiant fynd mor sych fel eu bod nhw’n barod i losgi. All newid hinsawdd ynddo’i hun ddim cynnau tân – mae angen sbarc o ffynhonell cynnau tân neu fellt.
Cafodd llosgwyr y bai am ddechrau o leiaf rai o’r tanau yng Ngroeg, er mai nifer fach o danau sy’n cael eu hachosi gan losgi bwriadol yn y wlad. O blith tanau gwyllt Groeg y gorffennol lle roedd cadarnhad o’r hyn oedd wedi eu hachosi, dim ond 23% gafodd eu hachosi gan losgi bwriadol. Deilliodd y rhan fwyaf o danau ar dir fferm oedd wedi’u cynnau i losgi gwastraff cnydau neu i annog tyfiant newydd ar laswellt pori, neu danau ar dir oedd wedi’u llosgi er mwyn rheoli tyfiant di-eisiau.
Gyda newid hinsawdd yn darparu mwy o’r amodau sy’n cefnogi tân, mae cyfleoedd newydd yn codi i bobol ddechrau tanau, yn fwriadol neu drwy ddamwain.
Bydd amlder tywydd tân eithafol yn cyflymu pe bai cynhesu byd-eang yn mynd y tu hwnt i 2°C, ond gall y byd osgoi’r canlyniadau mwyaf difrifol o hyd drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyflym iawn. Dydy hi ddim yn rhy hwyr i roi’r gorau i losgi’r tanwyddau ffosil sy’n gyrru newid hinsawdd a thywydd eithafol.
Mae modd osgoi’r gwaethaf o hyd
Mae gan ranbarthau megis y Canoldir dirwedd sy’n naturiol yn agored i danau, ac mae’n afrealistig disgwyl i bobol eithrio tân o’u bywydau’n llwyr. Rhaid i’r gymdeithas ddysgu sut i addasu a byw â thân wrth gynyddu’r paratoadau ar gyfer mwy o danau eithafol yn y dyfodol.
Yn hanesyddol, mae cyllidebau tanau gwyllt wedi blaenoriaethu brwydro tanau gweithredol. Er enghraifft, yng Ngroeg, cafodd 92% o’r gyllideb genedlaethol ar gyfer tanau coedwigoedd ei neilltuo ar gyfer diffodd tanau yn ystod y 2010au, gyda dim ond 8% wedi’i neilltuo ar gyfer eu hatal nhw yn y lle cyntaf. Yn ogystal â buddsoddi mewn timau ac offer diffodd tanau, dylai gwleydd ddatblygu gwell systemau rhybuddion cynnar, cynlluniau gwagio, adeiladau gwrth-dân, a modelau cyfrifiadurol o ran ymddygiad tân. Mae rhaglenni sy’n gwneud cymunedau’n fwy ymwybodol o’u rôl mewn diogelwch tanau, gan gynnwys rhoi’r gorau i danau bwriadol a damweiniol, yn hanfodol.
Mewn rhannau helaeth o’r Canoldir, mae degawdau o esgeuluso tir gwledig wedi achosi i dyfiant dyfu’n fwy dwys nag y gwnaeth yn y gorffennol. Gall y tyfiant dwysach hyn olygu mwy o danwydd ar gyfer tanau gwyllt, gan hybu llosgi mwy dwys. Un opsiwn i gadw’r tanwydd yma dan reolaeth yw defnyddio llosgiadau dan reolaeth yn ystod ffenestri tywydd diogel.
Mae’r tanau gwyllt yng Ngroeg yn ein hatgoffa o ddifrif am fygythiad newid hinsawdd, a pha mor gostus yw methu targedau rhyngwladol er mwyn lleihau allyriadau. Gall camau pendant i dorri allyriadau, rheoli tanwydd ar y tirlun, a pharatoi cymunedau ddal i leihau peryglon tanau yn y dyfodol.