Bydd arddangosfa gelf yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn i dynnu sylw at waith pentrefi yn Namibia i oresgyn heriau newid hinsawdd.

Mae’r ffotograffau gaiff eu dangos yng Ngwesty Cymru o Awst 24 tan ddiwedd mis Medi yn amlygu ymdrechion y gymuned Okondjatu a phentrefi cyfagos i adfer eu hecosystemau a gwella safonau byw.

Mae Nambia yn cael ei chydnabod fel gwlad sydd â’r hinsawdd sychaf yn Affrica Is-Sahara, gyda phatrwm glawio anwadal a chyfnodau o sychder cyson sy’n heriol i gymunedau lleol.

Mae llwyni yn tyfu dros laswelltir yn effeithio ar ecosystemau safana sych ledled y byd, gan fygwth eu bioamrywiaeth a bywoliaeth cymunedau lleol.

Yn Namibia yn unig, mae’n effeithio ar 45m hectar o dir amaethyddol.

Mae rhanbarth Otjozondjupa, sy’n gartref i’r bobl Ovaherero, yn un o’r rhai sy’n cael ei effeithio fwyaf.

Fe weithiodd ymchwilwyr gydag un o’r ardaloedd cadwraeth yn y rhanbarth sydd â phwyllgor etholedig sy’n rheoli’r goedwig a’r adnoddau bywyd gwyllt.

Ar y cyd â’r academyddion, mae’r gymuned yn ceisio defnyddio’r llwyn fel porthiant i dda byw a chynhyrchion eraill.

Rôl Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynorthwyo’r prosiect gyda grantiau ymchwil wedi’u trefnu gan y Ganolfan dros Ymchwil Datblygu Rhyngwladol.

Mae’r lluniau fydd yn cael eu dangos yn yr arddangosfa yn amlygu’r cymeriadau, y bywyd gwyllt a’r heriau y mae’r gymuned yn eu hwynebu.

Un o’r trefnwyr yw Maria de la Puerta, myfyrwraig doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn gweithio yn yr ardal ers dros saith mlynedd.

Yn rhan o brosiect ymchwil y Brifysgol, mae hi wedi bod yn edrych ar werth maethol llwyni lleol yn ogystal â’u hallyriadau tŷ gwydr.

“Ein nod yw defnyddio grym celf i godi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd ac ymlediad llwyni, a’r bygythiadau y maen nhw’n eu hachosi i gymunedau lleol,” meddai.

“Ond hefyd, er mwyn amlygu’r cymunedau lleol a’r ymchwilwyr sy’n gweithio gyda nhw i oresgyn yr heriau gan ddefnyddio ystod o strategaethau a thechnolegau arloesol.

“Yn ogystal, rydyn ni eisiau hybu cydweithio er mwyn i ni weithio gyda’n gilydd ar y materion hyn a materion eraill sy’n effeithio ar Namibia a De Affrica.”

Ffotograffau

Cafodd lluniau’r arddangosfa eu tynnu gan Monika Fraczek, cyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n gweithio fel Prif Swyddog Cyfathrebu Ymgynghoriaeth Omeva.

“Rwy’n defnyddio fy nghelf i godi ymwybyddiaeth ac addysgu am faterion hollbwysig fel diogelwch bwyd, lleddfu sychder neu newid hinsawdd,” meddai.

“Dwi jyst yn angerddol am bobl a’u straeon.”

  • Caiff yr arddangosfa ei lansio am 6yh nos Iau, Awst 24 yng Ngwesty Cymru, ac fe fydd yn cynnwys sgwrs gyda’r ymchwilwyr.