Mae Ynni Cymru, cwmni ynni newydd sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd yng Nghymru, wedi cael ei lansio gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James, a Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru.

Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli yn M-SParc ar Ynys Môn, yn cael ei sefydlu i ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned ledled Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae gwaith cwmpasu cynnar wedi nodi bod posibilrwydd cryf i Ynni Cymru roi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu a chyflawni prosiectau ynni lleol doethach.

Ar yr ymweliad ag Anafon Hydro yn Abergwyngregyn, sy’n cynhyrchu bron i 1GWh o drydan y flwyddyn o’i ganolfan ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cadarnhaodd y Gweinidog a’r Aelod Dynodedig fod £750,000 wedi’i roi i unarddeg prosiect ar ffurf grantiau adnoddau dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r rhain yn cynnwys Cwm Arian ar gyfer eu prosiect “Rhyddhau Pŵer Calon Dyfed”; prosiect Dyffryn Ogwen Gynaladwy ym Methesda i gyflenwi pŵer solar ar adeiladau cymunedol a busnes yn Nyffryn Ogwen; Prosiect gwres Tanygrisiau, Ynni Cymunedol Gwrog; a chefnogaeth i brosiect solar Ynni Newydd Cyfyngedig, Bretton Hall.

“Gyda lansiad Ynni Cymru rydym ar ein ffordd i fodloni 100% o’n defnydd trydan blynyddol o drydan adnewyddadwy erbyn 2035, ac i barhau i gadw i fyny â’r defnydd ar ôl hynny,” meddai Julie James.

“Fodd bynnag, er mwyn cyrraedd hyn mae angen trawsnewid ein system ynni yn gyflym.

“Nid yw’r dull presennol sy’n seiliedig ar y farchnad o ran y system ynni yn gallu cyflawni datgarboneiddio ar y raddfa na’r cyflymder sy’n angenrheidiol i’r argyfwng hinsawdd ac nid yw wedi rhoi digon o fudd i Gymru.

“Mae defnydd lleol o ynni a gynhyrchir yn lleol yn ffordd effeithiol o gefnogi sero-net a chadw’r budd yn ein cymunedau.

“Bydd Ynni Cymru yn ategu’r gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru, yn enwedig o ran datblygu a chynyddu effaith asedau ynni adnewyddadwy ledled Cymru.

“Rydym yn arwain wrth lunio’r system ynni i yrru Cymru tuag at gyrraedd ei thargedau Sero Net a chyflawni nodau Llesiant ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.”

‘Rheolaeth i bobol leol dros adnoddau lleol’

“Mae Ynni Cymru yn brosiect uchelgeisiol sy’n ceisio rhoi rheolaeth i bobol leol a chymunedau dros adnoddau lleol a mentrau ynni adnewyddadwy,” meddai Siân Gwenllian.

“Wrth i ni wynebu heriau niferus o argyfwng hinsawdd a biliau ynni uchel, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy sydd â budd a pherchnogaeth leol fel nod craidd.

“Mae’r ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni yn rhan hanfodol o gyflawni sero net ac mae sefydlu Ynni Cymru yn ddatblygiad allweddol yn ein huchelgeisiau.

“Rydym hefyd yn gwybod fod pwy sy’n berchen ar asedau ynni yn hynod bwysig.

“Bydd buddsoddiad Ynni Cymru wrth ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned yn helpu i ddatgarboneiddio ein cyflenwad ynni gydag ynni gwyrdd cynaliadwy a bydd o fudd uniongyrchol i bobol sy’n byw yn y cymunedau hynny.”

Anafon

Dechreuodd Prosiect Hydro Anafon sy’n werth £1.2m yn 2010 a dechreuodd gynhyrchu ym mis Rhagfyr 2015.

Cafodd ei ariannu gan grantiau, cyfranddaliadau cymunedol a benthyciad gan Fanc Elusennol.

Mae Ynni Anafon Energy Cyf. sy’n gweithredu Anafon Hydro yn gwmni budd cymunedol sy’n cael ei redeg gan wyth cyfarwyddwr gwirfoddol o gymunedau Abergwyngregyn a Llanfairfechan.

Hyd yma, mae wedi cynhyrchu 7.5 GWh o drydan – digon i gyflenwi 1,900 o dai am flwyddyn.

“Mae ad-drefnu’r grid trydan i ganiatáu i ddefnyddwyr domestig a busnes lleol gael mynediad at drydan a gynhyrchir yn lleol y potensial i chwyldroi cefnogaeth y cyhoedd i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol presennol a newydd, ac i ymgysylltu â hwy,” meddai Gavin Gatehouse, cadeirydd Ynni Anafon Energy Cyf.

“Rydyn ni’n croesawu lansio Ynni Cymru fel cam sylweddol tuag at gyflawni’r nod hwn.”