Arferai Nain a Taid fyw ar fferm tŷ draw, Treflach, pentre bach wedi’i amgylchynu gan Trefonen, Llynclys, Porthywaen, Gronwen, a Wern Ddu yn Sir Amwythig. Roedd rhaid mynd trwy hen Glawdd Offa bob bore a nos wrth fynd i Syswallt, efo’r ffin fodern wedi symud rai milltiroedd i’r gorllewin.

I’r dre, ble fyddid yn cwrdd efo cymdogion a chyfeillion am baned; ble fyddai pobol y wlad yn dod i’r farchnad ar ddydd Mercher, yn mynd i’r stondiniau ar y Beili, i’r banciau a siarad Cymraeg wrth y cownter, neu i’r farchnad ddefaid ble roedd y Gymraeg yn fyw ac yn atseinio trwy’r fro – yn fwy eglur nag mewn sawl tre i’r gorllewin o Glawdd Offa!

A blynyddoedd yn ddiweddarach, roedd fy swydd gynta’ yn Banc Barclays yng Nghroesoswallt, un o nifer o staff oedd yn siaradwyr Cymraeg. Y dre’ oedd yn gartref i bapur newydd Y Cymro am flynyddoedd, efo siopau ble medrid siarad Cymraeg, strydoedd fel York St, arferai fod efo mwyafrif yn siarad Cymraeg, yn gyfuniad o henoed yn ymddeol i’r dre’, rhai ifanc yn dod o’r wlad i chwilio am waith, ac eraill mewn swyddi proffesiynol, yn gyfrifwyr, cyfreithwyr neu’n swyddogion banc. Capeli Cymraeg, ac ar ddydd Mercher y Gymraeg i’w chlywed yn drwch drwy’r dre’ a phobol y wlad yn dod i’r banc.

Heddiw, ceir Cylch Meithrin yno a siop Gymraeg, ac mae’r farchnad yn parhau i ddenu ffermwyr Glyn Ceiriog, Dyffryn Tanat a gogledd Maldwyn. Bu taith Twmpdaith Menter Maldwyn yn ddiweddar yn neuadd Rhydycroesau yn Sir Amwythig, a thynnwyd sylw yn ddiweddar at y ffaith fod 10% o ddisgyblion Ysgol Selatyn ger Gobowen, yn 1946, yn medru’r Gymraeg. Cadarnhawyd yr ardal fel rhan o Sir Amwythig, ac felly Lloegr, yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ôl gwaith E. G. Ravenstein yn edrych ar bresenoldeb y Gymraeg yn 1878, mae darlith ganddo’n nodi bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnal yno a bo’r Gymraeg yn cael ei siarad yn Selatyn a’r cyffiniau.

O ystyried y ffaith fod cynifer o staff ysbyty enwog Gobowen yn medru’r Gymraeg, wedi symud yno o hyd a lled gogledd Cymru, mae’n ddigon hawdd gweld ble medrai’r Gymraeg fod eto’n fyw efo rhai plant yno.

Ar hyn o bryd, mae adolygiad gan Gyngor Powys o ddyfodol ysgolion ardal Llanfyllin, gan gynnwys Llansilin. Efo tua 27 disgybl, mae’n hawdd gweld cynnig maes o law i’w chau neu ei huno efo ysgol fwy. Yn eironig, gan mai ysgol cyfrwng Saesneg ydy Llansilin, mae rhai pobol ifanc wedi teithio o ffermydd yn Sir Amwythig heibio Llansilin i gael addysg Gymraeg yn Llanrhaeadr ym Mochnant. Bellach mae’r llywodraethwyr wedi gweld y goleuni ac wedi gwneud cais i’r Cyngor Sir i gael mynd ar hyd y continiwm ieithyddol er mwyn esblygu i fod yn ysgol gwir ddwyieithog.

O ystyried hanes cyfoethog diweddar y Gymraeg ochr ddwyreiniol Clawdd Offa, efallai ei bod yn bryd gwneud ymchwil go iawn. Faint o ddiddordeb mewn addysg Gymraeg fyddai yn ardal Croesoswallt? Yn union yr un fath ag y mae teuluoedd ar hyd a lled Cymru yn ailddarganfod y Gymraeg wedi bwlch cenedlaethau, mae’r Gymraeg o fewn cyrraedd nifer fawr o deuluoedd sydd, drwy anffawd neu hanes, yn digwydd byw yn Sir Amwythig.

O ragdybio y byddai yna alw am addysg Gymraeg, byddai angen gweledigaeth i ffederaleiddio Llansilin efo ysgolion eraill ble mae’r Gymraeg yn fyw, e.e. Llanrhaeadr neu Benybontfawr, gan greu peuoedd iaith newydd. Yr allwedd ydy i gael Cyngor Sir Amwythig i dalu am gludiant ysgol i Gymru; wedi’r cyfan, mae Powys yn talu cludiant i gannoedd gael addysg yn siroedd Amwythig a Henffordd; onid yw’n rhesymol, felly, ac yn egwyddor o gyfle cyfartal?

Yn ddiweddar, rhoddwyd cryn sylw i ddyfodol Sycharth, cartre’ Glyndwr, sydd ar gyrion pentref Llansilin ac o fewn tafliad carreg i Glawdd Offa. Bu ymgyrch i’w brynu, a rhai am ei adfer. Efallai mai’r dysteb orau i Glyndŵr fyddai buddsoddi mewn caer newydd yn Llansilin, sef ysgol Gymraeg y ffin i gadw’r Gymraeg yn fyw naill ochr i Glawdd Offa.