Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi lansio Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC ar gyfer 2023-2024, ac mae un sy’n cymryd rhan yn dweud bod “dyfodol disglair” iddo pe bai’n gallu dangos ei sgiliau arwain.

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth yn anelu i ddarparu rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth a chyfarwyddyd dros dair sesiwn breswyl ddwys.

Dechreuodd y cyfle i rwydweithio gydag unigolion uchel eu proffil o fewn y diwydiant gyda diwrnod dethol neu flasu i ymgeiswyr fis Mai eleni.

Yr ymgeiswyr llwyddiannus oedd Gwenno Davies, Leena Farhat, Ben James, Elin Jenkins, Heather Kirby, Cain Owen, Holly Page, Kathleen Taylor-John, Maria Watts, Elen Williams a Hannah Wright.

Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, mae’r rhaglen yn gyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’r sector.

Mae Ben James, sy’n bartner yn Brynmair Farming, yn dod o Landysul yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Llanbed.

“Rydym yn mynd trwy lawer o newidiadau yn y diwydiant,” meddai wrth golwg360.

“Mae cynllun newydd gyda’r gyfraith yn dod mewn, mae pethau Brexit dal yn mynd ymlaen.

“Mae eisiau arweinyddiaeth iawn i allu côpio gyda phethau newydd, rwy’n credu.”

Cyfnod ansicr i ffermwyr

Mae Gwenno Davies, sy’n Weithredwr Yswiriant i Undeb Amaethwyr Cymru, yn ei weld yn gyfnod ansicr i ffermwyr.

“Mae eisiau i’r sector symud ymlaen a datblygu mewn cyfnod sydd mor ansicr i ffermwyr a phoen meddwl, felly mae’n bwysig bod yn self-motivated a gallu cyfathrebu’n effeithiol i helpu’r sector, i ddysgu a rhannu syniadau i arwain ein gilydd at gael dyfodol ffarmio llewyrchus a llwyddiannus.”

Mae Ben James yn credu y bydd y rhaglen arweinyddiaeth yma’n ei helpu i fod yn arweinydd gwell yn yr hinsawdd sydd ohoni.

“Roeddwn eisiau sialensio fy hunan,” meddai.

“Mae eisiau arweinyddiaeth arna i.

“Os ydym yn pwsio’n busnes a pwsio’n hunain ymlaen mewn bywyd, mae eisiau mwy o sgiliau arweinyddiaeth arna’ i.

“Mae’n amser cyffrous.

“Os ydw i’n dangos fy mod yn gallu arwain, mae’r dyfodol yn ddisglair rwy’n credu.

“Mae pawb yn pryderu am yr amser nawr, yr ansicrwydd ym mhopeth.

“Os ydych yn gallu bod ar y forefront, dewch ma’s yn iawn ac eto mae cyfleoedd yna.

“[Rydych chi] jyst yn gorfod bod ar y blaen, rili.”

‘Agoriad llygad’

Er mwyn datblygu gwybodaeth ochr yn ochr â phobol o’r un feddylfryd yr ymgeisiodd Gwenno Davies.

“Ymgeisiais i gael agoriad llygaid ar gyfer y dyfodol mwy na ddim byd,” meddai.

“I gael syniadau newydd, i ddatblygu ac ehangu’r wybodaeth sydd gennyf i ar y funud, drwy gydweithio a chymdeithasu â’r bobol eraill yn y grŵp, er mwyn cyfarfod pobol newydd a rhannu sgiliau.

“Rhannu gwybodaeth, a ti’n gallu defnyddio hwnna wedyn i wneud y penderfyniadau cywir o fewn dy waith ac o fewn ffarmio a ballu.

“Rwy’n firm believer bod rhywun yn dal i ddysgu sgiliau gwybodaeth newydd bob dydd.

“Dyna pam y gwnes i ymgeisio mwy na dim byd, i ddatblygu fy ngwybodaeth i a bo fi’n datblygu fel person.”

Diwrnod blasu

Roedd Gwenno Davies a Ben James wedi mwynhau cydweithio a chlywed cyflwyniad ar fusnes gan Keri a Julie Davies o fferm Glwydcaenewydd.

“Roedd yn neis cyfarfod pobol newydd” meddai Gwenno Davies.

“Cawson ni sgwrs anffurfiol efo Keri Davies a Julie Davies am sut oeddan nhw wedi arallgyfeirio a datblygu eu busnes, a sut maen nhw wedi cynnwys y teulu i gyd yn rhai o’u cynlluniau.

“Roedd yn bleser clywed am y busnes teuluol llwyddiannus.

“Roedd yn neis cael gwneud hynny efo grŵp sydd efo’r un meddylfryd â fi, ac roedd pawb yn ysbrydoli ei gilydd.”