Bydd cyfle i Eisteddfodwyr ym Moduan weld darn o gelf arbennig sydd wedi’i gomisiynu gan Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect cyffrous i sicrhau bod enwau lleoedd yn parhau i fod ar gof a chadw.

Fel rhan o’r prosiect ‘Enwau Cynhenid Cymraeg’, cafodd gweithdai eu cynnal gyda phlant lleol i gasglu enwau llafar ar leoliadau a nodweddion o fewn cymunedau Gwynedd.

Cafodd yr enwau eu cofnodi ar fap digidol, a bellach mae’r Cyngor wedi comisiynu darn celf ‘Enwau Lleol Llŷn’ gan yr artist Sioned Glyn yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, fydd yn dangos rhai o’r enwau.

“Bwriad y map digidol a’r llun ydy rhoi cyfle i ddangos amrywiaeth ein hiaith ac i gofnodi rhai o’r enwau anffurfiol yna, sydd yn rhan o hanes a thafodiaith leol, ac na wnaiff byth ymddangos ar fap swyddogol,” meddai Meirion McIntyre Huws, Rheolwr Prosiect Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg Cyngor Gwynedd.

“Bydd cyfle i’r cyhoedd gyfrannu enwau i’r map digidol ym mhabell Cyngor Gwynedd ar ddydd Iau yr Eisteddfod. Felly os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc ac yn gwybod am rai o hen enwau llafar, dewch draw i’n gweld.”

Bydd y llun a’r map i’w gweld fel rhan o ddiwrnod Gwynedd Cymraeg ar Stondin y Cyngor ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Iau (Awst 10).

Ar ôl yr Eisteddfod, bydd y llun yn mynd yn rhan o gasgliad celf parhaol Cyngor Gwynedd ac yn cael ei arddangos mewn lleoliadau addas.