Mae un ddynes yn dweud bod ei hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn sgil “sefyllfa echrydus plot anaddas” ar faes carafanau a phebyll yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.
Mewn neges ar Facebook, dywed Sioned Roberts fod y mater wedi “trigro PTSD” ynddi, ac mae hi bellach yn galw am bwyllgor meysydd carafanau a phebyll a chynrychiolaeth ar y bwrdd.
Dywed fod Swyddfa’r Eisteddfod wedi bod yn ddigon ffeind efo hi, ac yn deall ei phroblemau iechyd meddwl, a chafodd hi gynnig symud i fan arall sydd, meddai, yn “anaddas”.
Dydy hi chwaith ddim yn hapus fod yr Eisteddfod am symud yn barhaol i Gaerdydd oherwydd ei bod yn credu nad yw’n deg ar bobol yn y gogledd.
Dywed fod yr Eisteddfod wedi ei “thorri hi eleni”, ac na fydd hi “fyth eto yn meddwl yr un fath am yr Eisteddfod”.
“Gynhwysol i’r diawl,” meddai.
“Wedi fy nifrïo ar y maes carafanau gan gwpwl o swyddogion am fod sefyllfa echrydus plot ‘anaddas’ gwreiddiol (B128) wedi codi gwnaeth trigro PTSD (Post Traumatic Stress Disorder) rwy’n ei ddioddef.
“Dim ymdrech gall a diffuant i greu datrysiad dros 48 awr.
“Diolch i Lisa a Dylan gefn llwyfan/Swyddfa’r Steddfod am sylweddoli difrifoldeb meddygol yr effaith ar fy iechyd i ddoe ac am drio helpu.
“Yn anffodus, ni lwyddodd y tsiaen o gymorth wedyn weithio.
“Do, gawson ni gynnig symud o’n trydydd safle ym mhen draw cae E sef E146 (heb dracs, a disgwyl Ford Galaxy ni i fedru symud y garafán heb help tractor) i safle ar lethr yng nghae B25 gyda gwair yn tyfu yno, y lle’n llaith a’r gwair droedfedd o uchel – oedd y buggy aeth â ni i weld y safle yn sgidio.
“Anhygoel.
“Fel mae sawl person wedi sôn, mae rheidrwydd rŵan ar i’r Eisteddfod… sicrhau Pwyllgor Meysydd Carafanau a Phebyll a chynrychiolaeth ar y bwrdd hefyd, cyn i rywun gael ei ladd.
“A plîs dysgwch Eisteddfod bod cyflyrau yn bodoli nad ydynt yn gorfforol weladwy – PTSD (Post Traumatic Stress Disorder) ac iselder a dod dros breakdown yn rai ohonynt.”
‘Cnul marwolaeth Eisteddfod symudol’
Wrth drafod natur symudol yr Eisteddfod, a chynlluniau honedig i ganoli’r Brifwyl yng Nghaerdydd yn y dyfodol, dywed Sioned Roberts fod yr Eisteddfod yn “codi dau fys” ar bobol sy’n byw yn y gogledd.
“Boduan 2023 – roedd cyngerdd nos Sadwrn yn wych a chystadlu gyda Glanaethwy, ond ti wedi fy nhorri a’m creithio i,” meddai.
“Cnul marwolaeth yr eisteddfod symudol sy’n curo – fel y celfwaith wrth fynediad y maes.
“Mae’n amlwg i mi fod symudiad i leoli’r Eisteddfod mewn safle parhaol yng Nghaerdydd ar droed a dau fys i ni sy’n byw yn y gogledd.
“Gwrandewch a gwyliwch ac mi welwch chithau’r arwyddion.
“Datryswch hyn a mynnwn ninnau ddatrysiad cyn iddi fod yn rhy hwyr!
“I bawb sy wedi cael safle braf haeddiannol yn ddidrafferth o fewn pellter hwylus i gerdded yn ddiogel i’r maes o’ch carafán neu babell, mwynhewch yr haul.
“Does unlle gwell pan fod pethau’n gweithio fel y dylen nhw.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr Eisteddfod.