Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 yn cael ei chynnal ym Mhontypridd.
Daeth y cyhoeddiad gan y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wrth dderbyn Tlws yr Eidalwyr ar Faes yr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan gan Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.
Cafodd Tlws yr Eidalwyr (Y Tlws Heddwch) ei gyflwyno i’r Eisteddfod yn 1986, ac ers hynny mae wedi’i gyflwyno i gartref yr Eisteddfod ddilynol bob blwyddyn.
Cafodd y cwpan ei roi i’r Eisteddfod gan gyn-garcharorion rhyfel o’r Eidal i gydnabod caredigrwydd pobol Cymru yn ystod eu cyfnod mewn gwersyll carcharorion rhyfel yn Henllan, Ceredigion rhwng 1942 a 1946.
Gyda Pharc Ynysangharad yng nghanol y dref yn ffocws i fwyafrif y gweithgareddau a’r is-bafiliynau, bydd y Maes hefyd yn cynnwys rhannau o’r dref ei hun, gan greu Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy’n cyfuno’r ardal leol gyda’r ŵyl ei hun.
“Mae’n bleser cyhoeddi mai Parc Ynysangharad ym Mhontypridd fydd cartref y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024,” meddai Andrew Morgan.
“Mae Pontypridd yn ardal wych i gynnal canolbwynt yr Eisteddfod, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych y dref yn golygu y bydd yr Eisteddfod yn hygyrch i ymwelwyr o Rhondda Cynon Taf ac o Gymru gyfan.
“Byddwn yn edrych ar sut i wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn allweddol i’r Eisteddfod, a chyda Metro De Cymru ar y gorwel, bydd gan Bontypridd 24 o drenau’r awr yn rhedeg drwy’r orsaf o’r Cymoedd a Chaerdydd.
“Rydyn ni am i bawb yn Rhondda Cynon Taf i ddangos i weddill Cymru beth sy’n ein gwneud ni mor arbennig!
“Mae’r Eisteddfod i chi, mae’r Eisteddfod i mi, mae’r Eisteddfod i bawb.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf ac at weld rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau i drigolion lleol dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer yr Eisteddfod.”
‘Mae’r Eisteddfod hon yn perthyn i bawb’
“Mae’n braf iawn gallu cyhoeddi mai ym Mhontypridd y cynhelir yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf,” meddai Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
“Mae pawb wedi bod ar dân eisiau cael gwybod.
“Mae’r trafodaethau wedi bod yn rhai hir, gyda’r sgyrsiau cychwynnol i ddod â’r Brifwyl i ardal Rhondda Cynon Taf wedi’u cynnal nôl yn 2017.
“Nid ar chwarae bach mae dod â gŵyl mor fawr â’r Eisteddfod i gymoedd anwastad a bryniog y de ddwyrain, ond rydyn ni wrth ein boddau i gael rhannu’r newyddion mawr gyda phawb.
“Mae’r gwaith codi hwyl ac arian ar draws Rhondda Cynon Taf yn mynd yn ardderchog, gyda’r pwyllgorau i gyd yn brysur yn trefnu gweithgareddau o bob math.
“Mae’r gefnogaeth yn lleol a chenedlaethol yn arbennig iawn, a’r ffaith ein bod ni’n dychwelyd i’r ardal a fu’n gartref i’r Eisteddfod fodern gyntaf nôl yn 1861 wedi tanio dychymyg pawb.
“Roedd y Cyhoeddi yn Aberdâr ymysg y gorau ers blynyddoedd lawer, gyda thros chwe chant o drigolion lleol yn gorymdeithio drwy’r dref cyn dod ynghyd mewn seremoni hyfryd, lle cyhoeddwyd y Rhestr Testunau.
“Ac rwy’n falch o ddweud fod y gyfrol hefyd yn gwerthu’n ardderchog, felly cofiwch fachu eich copi chi er mwyn gweld yr amrywiaeth o gystadlaethau sy’n eich aros yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf.
“Wrth i ni gyhoeddi mai ym Mhontypridd y bydd y Maes y flwyddyn nesaf, mae’n bwysig pwysleisio bod yr Eisteddfod hon yn perthyn i bawb ar draws Rhondda Cynon a Thaf.
“Mae’r brwdfrydedd a’r egni a’r cyfeillgarwch rydyn ni wedi’i brofi wrth gychwyn ar y gwaith yn dangos bod dod â’r Brifwyl yn ôl i’r ardal yn bwysig iawn i’r trigolion lleol.
“Aberdâr oedd cartref yr Eisteddfod y tro diwethaf iddi ymweld â’r ardal yn 1956, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei chroesawu’n ôl i ardal Taf y flwyddyn nesaf, a hynny am y tro cyntaf ers 1893.”
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Awst 3-10 y flwyddyn nesaf.