Rhys Iorwerth yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Daeth y bardd o Gaernarfon i’r brig mewn cystadleuaeth ddenodd 42 o geisiadau.

Caiff y Goron ei noddi gan Gangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru, a chaiff y wobr ariannol o £750 ei rhoi gan Deulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy, er cof am Griffith Wynne.

Cafodd y Goron ei chynllunio a’i chynhyrchu gan Elin Mair Roberts, a chaiff ei chyflwyno eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Rhyddid’.

Y beirniaid eleni yw Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock.

‘Trwydded i ledu adenydd’

Wrth draddodi o’r llwyfan, dywedodd Jason Walford Davies,

“Mae’n amlwg fod medru arddel y teitl ‘Prifardd Coronog Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd’ wedi bod yn atyniad pwerus, oherwydd ymatebodd pedwar deg a dau o ymgeiswyr i’r her eleni o lunio pryddest neu gasgliad o gerddi ar y testun ‘Rhyddid’,” meddai Jason Walford Davies.

“Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod ‘Rhyddid’ yn destun sy’n cynnig trwydded i ledu adenydd.

“O’m rhan fy hun, fe’m trawyd gan ddiffyg testunoldeb llawer iawn o’r cystadleuwyr: fel petai nifer o’r beirdd wedi methu dygymod â rhyddid o’r fath, ac o’r herwydd wedi ceisio lloches mewn penrhyddid – gweithred a esgorodd yn y pen draw, yn eironig, ar benodolrwydd annhestunol.

“Ceir eraill, wrth gwrs, sy’n glynu wrth y testun fel ci wrth yr asgwrn…”

Dosbarthiadau’r beirniaid

Aeth Jason Walford Davies yn ei flaen i amlinellu sut y gwnaeth y beirniaid ddosbarthu’r ceisiadau.

“Mae Marged yn gosod tri ar frig y gystadleuaeth, sef Arhosyn, Buan, a Gregor,” meddai.

“Pedwar sydd yn y Dosbarth Cyntaf gan Elinor a minnau, sef yr un tri, ond gan ychwanegu’r bardd â’r ffugenw Un.

“…Fe saif un ar wahân i’r gweddill.

“Mae Gregor yn mynegi rhai o’r un pryderon amgylcheddol â Buan, a hefyd yn lleisio’r un ofnau canol oed; ond mae’r llais yn aeddfetach, fel y sylwodd Marged, y cerddi’n wyrthiol o gryno, ac mae unoliaeth thematig y gwaith yn dynnach.

“At hyn, Gregor yw crefftwr gorau’r gystadleuaeth, a chanddo ef y mae’r afael gadarnaf ar ofynion rhythmig barddoniaeth.

“Mae’n sicr fod yr apocalyps amgylcheddol a niwlear a ddychmygir yn y casgliad hwn gymaint â hynny’n fwy arswydlon o gael ei ddisgrifio mewn modd mor aflonyddol-dawel.

“Meddai’r bardd: ‘Os daw’r consgriptwyr ar dy ôl, fy mab,/ wrth i’r dronau/ sganio dros Segontiwm, wrth i ti/ chwilio am solas yn y cof am dy fam/ a’r rotorau’n wylofain/ dros Ben Twtil’.

“Ac fel y dywed Elinor, ‘mae’r cyfan yn anghysurus o berthnasol’: hynny yw, wrth wraidd portread Gregor o argyfwng amgylcheddol byd-eang y mae’r pwyslais cyson ar y trychineb yn ei weddau lleol, teuluol – a phenodol Gymraeg.

“Yng ngherdd agoriadol drawiadol y casgliad, ceir cyfeiriadau at y Fenai’n codi dros draed ‘plantos’ y llefarydd, ac at y ffaith mai ‘sgrechfeydd’ fydd eu ‘Cymraeg olaf’. Y mae sawl agwedd ar ryddid – a chaethiwed – yn dod i rym yn y fan hon. Yr hyn a geir gan Gregor yw enghraifft loyw o fewnoli’r testun gosod i’r fath raddau nes bod ‘pwnc’ arwynebol yn troi’n rhan fywiol o weadwaith yr iaith a’r meddwl.”

“I derfynu felly. Yr ydym, fel beirniaid, oll yn gytûn fod Arhosyn, Buan, Gregor, a hefyd Un (a osodir gan Marged ar y blaen i’r cystadleuwyr eraill sydd ar y ffin â’r Dosbarth Cyntaf) yn gwbl deilwng o’r Goron.

“Pedwar felly.

“Ond rydyn ni’n unfryd mai Gregor, heb os, sy’n rhagori.

“Esgorodd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ar gystadleuaeth uchel tu hwnt ei safon, ac ar sail hynny mae’r enillydd eleni yn haeddu clod arbennig.

“Yr enillydd hwnnw yw Gregor. Diolch yn fawr.”

@golwg360

Rhys Iorwerth ydy enillydd y Goron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd🎪 #tiktokcymraeg #cymru #eisteddfod

♬ original sound – golwg360

Y buddugol

Un o fabis ffŵl Ebrill ydy Rhys Iorwerth.

Eleni, roedd diwrnod ei ben-blwydd yn ddiwrnod o ganu’n iach.

A hithau’n ddyddiad cau, ffarweliodd, dros dro, â cherddi’r Goron.

Ond dywedodd ‘hwyl fawr’ hefyd, ychydig yn fwy terfynol, wrth ei dridegau.

Treganna, Glan-yr-afon a Bae Caerdydd oedd y cynefin ar ddechrau’r degawd hwnnw.

Roedd yn ymchwilydd i’r Cynulliad Cenedlaethol, a newydd ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.

Yn y brifddinas hefyd y graddiodd yn y Gymraeg ychydig flynyddoedd ynghynt.

Erbyn hyn, mae’n gyfieithydd ac yn awdur llawrydd yn ôl yn nhref ei fagwraeth yng Nghaernarfon.

Mae’n rhannu ei aelwyd â’i wraig Siwan, a Magw ac Idwal, sy’n dair a dwy oed.

I lawr y lôn mae cartref ei rieni, sydd wastad wedi bod ymhlith ei feirniaid llenyddol mwyaf gonest a chraff.

Yn ystod y degawd, fe gyhoeddodd ddau gasgliad o farddoniaeth, pamffled o gerddi, cyfrol o ryddiaith, a sawl sgript ar gyfer y teledu, y radio a’r We.

Enillodd Wobr Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2015, Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd yn 2020, a Gwobr Goffa Dic Jones am gywydd gorau Y Talwrn ar BBC Radio Cymru deirgwaith.

Ac yntau’n un o’r sefydlwyr, mae gan nosweithiau Bragdy’r Beirdd le annwyl yn ei galon.

Mae cwmnïaeth ei gyd-feirdd – mewn talwrn ac ymryson, dosbarth a darlleniad – hefyd yn bwysig iddo.

Y tu hwnt i’r byd hwnnw, mae timau pêl-droed Cymru a Lerpwl, coginio, a rhedeg a seiclo’n mynd â’i fryd.

Oriau cyn anfon y deunydd i swyddfa’r Eisteddfod, ar drothwy dathlu’r deugain, bu Rhys Iorwerth yn lladd gwair yn yr ardd gefn.

Y peiriant a ddefnyddiodd i gyflawni’r gwaith oedd un trydan, di-wifr, 33cm McGregor.

Gŵr ‘gwyliadwrus’ neu ‘effro’ oedd Gregor. Yn enwedig, efallai, wrth bryderu am ddyfodol ei braidd neu’i blant.

Ond pa mor effro a gwyliadwrus all neb fod? Ar ôl crafu pen am y peth ers tro, sylwodd Rhys fod ei ffugenw o’r diwedd ar borfa’r gwanwyn o’i flaen.

Y Lôn Goed yn ganolbwynt i’r Goron

Y Lôn Goed, y llwybr hanesyddol pwysig sy’n ffinio Llŷn ac Eifionydd yw canolbwynt y Goron eleni, a chafodd ei ffiniau eu defnyddio fel sail iddi.

Caiff y gweadau sydd i’w gweld yng nghefn gwlad eu hefelychu mewn arian arni, a chaiff cyfoeth tir yr ardal ei gynrychioli yn neunydd gwyrdd y benwisg.

Caiff ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd, yn ogystal â’r gwrychoedd a’r waliau cerrig sydd i’w gweld yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod, eu cynrychioli ar y Goron hefyd.

Gwrychoedd sy’n nodweddiadol yn Llŷn a waliau cerrig yn Eifionydd.

Mae ‘ffin’ yn warchodol i fyd amaeth, a’r bwriad oedd amlygu hyn yn y dyluniad.

Ychwanegodd Elin Mair ddarn o’i gemwaith i’r dyluniad hefyd, sef cennin pedr wedi’i wneud o aur melyn 18ct.

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener (Awst 11).