Yn dilyn cadarnhad fod Sinead O’Connor wedi marw o ‘achosion naturiol’, dyma gyfle arall i ddarllen teyrnged Ryland Teifi i’r gantores Wyddelig
Wy’n cofio ble o’n i pan fu farw Elvis. Gyda mam yn y car yn Aberporth yn pigo dad lan o’r gwaith. Ro’n i’n bedair oed ac roedd y bwletin radio wedi creu ymateb yn fy mam oedd wedi aros gyda mi. Roedd hyn yn rhywbeth pwysig. Rhywbeth oedd wedi creu ymateb ynddi hi wnaeth aros gyda fi fel crwtyn ifanc.
Ar Orffennaf 26 eleni, wy’n cofio lle o’n i pan welais y pennawd ar Facebook fod Sinead O’Connor wedi’n gadael ni. Ro’n i yn Genoa. Nid y ddinas hardd yng ngogledd orllewin yr Eidal, ond siop chips Genoa’s yn nhre’ Dungarvan yn ngorllewin sir Waterford, Iwerddon. Yr ardal sydd nawr yn gartre’ i mi. Fe aeth iâs lawr fy nghefn yn sawr y finegr a sŵn y ffrïo. Wrth i mi dywys y cwdyn poeth o fwyd allan o’r siop, teimlais ddeigryn yn cronni a chwipiais fy sbectol haul o fy nhalcen i orffwys o flaen fy llygaid i guddio fy emosiwn. Eisteddais yn y car a thecstio fy ngwraig, Róisín. Roedd Sinead O’Connor yn arwr iddi ac roedd gymaint o straeon gennym rhyngom oedd yn gysylltiedig â’r gantores enwog. Erbyn i mi gyrraedd adre’, roedd neges arall ar fy ffôn, y tro hwn oddiwrth fy ffrind Hugh Doolin o Ddulyn gyda’r geiriau syml, “Black boys on mopeds”. Daeth afon o atgofion ’nôl ata’i.
Cyn i mi gwrdd â Róisín yn y 90au, fy syniad o Sinead O’Connor oedd ei gweld yn y fideo enwog o ‘Nothing Compares 2 U’; perfformiad enwog a greodd seren gerddoriaeth boblogaidd fyd enwog. Ers 1996, serch hynny, mae fy argraff ohoni wedi tyfu’n dra gwahanol. Ers i mi a Róisín gwrdd, rydym wedi cymeryd rhan mewn cannoedd o sesiynau canu hwyrnos yng nghartrefi ffrindiau, aelwyddydd ein teulu a thafarnau yn Iwerddon a Chymru. Un gân oedd, ac sydd wastad wedi bod yn repertoire Róisín yw ‘Black Boys on Mopeds’ gan Sinead O’Connor. I mi, mae’r gân hon yn crynhoi pwysigrwydd a phŵer yr artist o Ddulyn. Mae’n gân sy’n dangos ei bod yn hedfan fry uwchben diwylliant pop gyffredin.
Margaret Thatcher on TV
Shocked by the deaths that took place in Beijing
It seems strange that she should be offended
The same orders were given by her
Drwy lais fy ngwraig, cefais fy addysgu am berson dewr a thalentog oedd yn elfen bwysig yn esblygiad diwylliant llawr gwlad Iwerddon. Ers byw yma ers dros ddeuddeg mlynedd, rwy’ wedi profi’r esblygiad hwnnw ac roedd Sinead O’Connor ynghanol y newid a’r datblygiad sylweddol.
Yn y 1990au, roedd Iwerddon yn wlad dra gwahanol i heddiw. Oedd, roedd y teigr Celtaidd wedi dod ag arian i bocedi rhai, ac roedd yna deimlad o wlad newydd, uchelgeisiol ar droed. Ond roedd yna deimladau cudd o dan y wyneb hefyd. Roedd Sinead O,Connor yn ymwybodol iawn o hyn. Yn 1992, fe rhwygodd lun o’r Pab ar raglen deledu boblogaidd, Saturday Night Live yn America. Roedd hyn yn destun sioc yn fyd-eang, ac roedd y sioc yn anferth yn Iwerddon. Dyma wlad oedd dal o dan bŵer mawr ochr geidwadol yr Eglwys. Roedd y teimladau cudd roedd Sinead O’Connor yn ymwybodol ohonyn nhw ar fin cael eu datgelu. Ers y cyfnod hwn, mae Iwerddon wedi ymrafael â sawl elfen anodd o fewn ei hanes. Y fwyaf o’r rhain oedd camdriniaeth plant o fewn yr Eglwys. Heddiw, mae’r pwnc a’r ymdrech i iacháu yn genedlaethol yn amlwg. Ond yn 1992, roedd trafod y materion hyn yn llawer, llawer mwy anodd. Ar ôl y digwyddiad ar SNL, fe ymddangosodd Sinead O’Connor mewn cyngerdd i ddathlu cerddoriaeth Bob Dylan ym Madison Square Garden yn Efrog Newydd. Fel mae’n digwydd, roedd Bobby, tad Róisín ac un o’r Clancy Brothers, hefyd yn perfformio. Roedd Róisín a’i chwaer Aoife ymhlith y miloedd yn y gynulleidfa y noson honno, ac roedd yn siom iddyn nhw weld a chlywed canran fawr o’r dorf yn bwio Sinead O’Connor. Fel mae’n digwydd, wrth i Sinead adael y llwyfan yn ddagreuol, y person gyntaf iddi ei weld oedd tad Róisín, Bobby. Dyma hi’n syrthio i’w freichiau, ac i’w chysuro dyma fe’n dweud “Don’t worry. You have good nights and bad nights”.
I lawer, yn fyd-eang, roedd yr Eglwys yn elfen bwysig yn eu bywydau, yn gysur ac yn gadernid mewn byd ansicr a chaled. Ond roedd yna elfennau erchyll na ellid eu hanwybyddu hefyd. Roedd Sinead O’Connor yn ddewr yn ei hymgais drwy ei chelfyddyd i wynebu’r cilfachau tywyll hyn. Dywedodd Woody Guthrie, “It’s a folksinger’s job to comfort the disturbed and to disturb comfortable people”. Mae hyn yn wir wrth gofio Sinead O’Connor. Dyma artist sy’n perthyn i linach Guthrie, Bob Dylan, Joan Baez a Joni Mitchell. Fel dylanwadydd cymdeithasol, mae’n perthyn i Emily Pankhurst, Rosa Parks ac Eileen Beasley. Heb y bobol greodd symboliaeth gref drwy weithred oedd yn ymddangos yn syml ond yn ddadleuol ar y pryd, faint o newid fyddai yn y byd? Rydyn ni i gyd yn trigo yn y cilfachau cyfforddus, on’d ydyn ni? Faint ohonom sy’n barod i ddweud pethau’n groes graen i’r status quo oherwydd ofn personol?
Dyma pam mae Sinead O’Connor yn bwysig yn stori Iwerddon a’r byd. Roedd hi’n meddu ar lais, dawn gerddorol a dawn dweud anferthol, ond ei dewrder fel artist a dinesydd sy’n ei chodi i’r entrychion. Yn fy marn i, roedd hi’n siarad dros gymaint o bobol heb lais; y rheiny gafodd eu gadael yng nghysgodion tywyll celwyddau. Dywedodd Sinead O’Connor ei bod wedi teimlo rhyddid ar ôl i’w label ei gollwng oherwydd ei daliadau a’i gweithredoedd (ar ôl iddi wneud miliynau iddyn nhw); rhyddid i fod yn artist ac yn berson triw i’w theimladau, yn artist fel Guthrie oedd ddim yn ofni corddi’r dyfroedd. Wy’n siwr fydd cofgolofn iddi yn Nulyn yn y dyfodol agos. Nid yn unig i ddathlu ei dawn artistig, ond fel llais i’r miloedd oedd heb lais.
Heddwch i Sinead O’Connor.