Mae’r gwaith o adeiladu gorsaf pwmpio gwastraff ddadleuol mewn parc yng Nghaerdydd wedi dechrau.
Roedd ymgyrchwyr wedi ceisio atal yr orsaf, fydd yn mynd â charthion o 6,000 o dai newydd yn Rhadyr, rhag cael ei hadeiladu ochr arall i afon Taf ym Mharc Hailey.
Dywed un ymgyrchydd ei fod yn teimlo bod Cyngor Caerdydd wedi eu “bradychu” nhw yno, gan ychwanegu eu bod nhw’n mynd yn erbyn dymuniadau’r gymuned a bod yr orsaf yn effeithio ar natur yn yr ardal.
Fe wnaeth cymdeithas o drigolion gogledd Llandaf, y Llandaff North Residents’ Association, golli her gyfreithiol yn erbyn Cyngor Caerdydd dros yr haf.
Roedd yr ymgyrchwyr yn honni nad oedd y Cyngor wedi cwblhau asesiad effaith amgylcheddol cyn dod i benderfyniad ar y cais, ond fe wnaeth yr Adolygiad Barnwrol ochri â’r Cyngor gan ddweud eu bod nhw, fel yr awdurdod cynllunio, wedi “gweithredu’n gywir, yn rhesymegol ac yn briodol”.
Mae arwynebedd Parc Hailey’n fwy na 61,000 erw, a bydd yr orsaf bwmpio’n cymryd 0.13 erw sydd gyfwerth â llai na 0.25% o’r parc, meddai Dŵr Cymru wrth ymateb i’r pryderon.
‘Gwneud pethau’n waeth’
Mae Ian Vincent, sy’n aelod o Wrthryfel Difodiant Caerdydd, yn gwrthwynebu’r orsaf ar sawl lefel.
“Maen nhw’n adeiladu 6,000 o dai ochr arall afon Taf, a dyna pam eu bod nhw’n adeiladu gorsaf bwmpio yn y parc er mwyn mynd â fo o’r datblygiad – dw i ddim yn meddwl y dylid bod wedi rhoi’r caniatâd cynllunio [ar gyfer tai Plasdŵr] heb ddatrysiad ar gyfer y gwastraff,” meddai’r ymgyrchydd wrth golwg360.
“Doedd ganddyn nhw ddim ateb felly fe wnaethon nhw wneud hyn, ac maen nhw’n twnelu dan afon Taf a chreu siambr ugain metr o ddwfn mewn parc sydd gan fflag werdd.
“Fy ail wrthwynebiad ydy faint o wastraff sy’n llifo i’r holl afonydd ar y funud, yn enwedig Afon Taf.
“Pan fo stormydd a’r gwteri’n gorlenwi – maen nhw’n gorfod rhyddhau gwastraff i’r afonydd.
“Y mwyaf o dai sydd yn y system bresennol, y mwyaf o garthion fydd yn mynd i’r afonydd.
“Felly dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwneud pethau’n well, maen nhw’n gwneud pethau’n waeth.
“Yn olaf, mae’r Llywodraeth Lafur a’r Cyngor Llafur wedi rhuthro hwn drwodd yn erbyn [dymuniad] y gymuned yn hytrach na chynrychioli nhw.”
‘Llafur mewn efo datblygwyr mawr’
Redrow, y datblygwyr tai, sy’n ariannu’r orsaf pwmpio gwastraff, ac fe wnaethon nhw, ynghyd â Dŵr Cymru a’r Iarll Plymouth, perchennog y tir, ymuno â Chyngor Caerdydd yn ystod yr Adolygiad Barnwrol.
“Yr adolygiad barnwrol oedd bod y gymuned yn cwestiynu sut oedd Cyngor Caerdydd wedi gweinyddu’r broses gynllunio,” meddai Ian Vincent.
“Fe wnaeth y pedwar wrthwynebu’r adolygiad barnwrol, roedd ganddyn nhw bedwar bargyfreithiwr a ninnau efo un.
“Mae’r weinyddiaeth Lafur yma yng Nghaerdydd wedi bod eisiau trefoli allan i’r holl fannau gwyrdd, efo pethau fel Plasdŵr – a allai fynd fyny i 15,000 o dai tasa’r Iarll Plymouth yn gwerthu mwy o dir iddyn nhw.
“Mae’n drasig. Mae Cyngor Caerdydd yn datgan bod argyfwng hinsawdd, ond maen nhw’n gweithredu i’r gwrthwyneb yn llwyr. Mae’n warthus.”
‘Wedi ein bradychu’
Fe wnaeth protestwyr atal y gwaith rhag cychwyn ddydd Llun diwethaf (Medi 11), ond mae bellach ar y gweill.
“Dw i’n teimlo ein bod ni wedi cael ei bradychu,” meddai Ian Vincent wedyn.
“Mae’n safle o bwysigrwydd o ran cadwraeth natur, mae’n barc â fflag werdd, mae’n cael ei ddefnyddio gan bobol hen ac ifanc – lot o bobol yn teithio drwyddo.
“Mae yna gymysgedd gaeau chwarae, tyfiant gwyllt, rhannau corsiog, coedlannau’n arwain at yr afon – mae’n hyfryd. Ac maen nhw’n cymryd rhan fawr ohono nawr a’i ddinistrio.”
‘Llai na 0.25% o’r parc’
Mae Dŵr Cymru yn dweud ei bod hi’n “ofyniad cyfreithiol” iddyn nhw gefnogi datblygiadau tai newydd a sicrhau nad ydy’r gwasanaethau maen nhw eu darparu i gwsmeriaid presennol yn cael eu heffeithio.
“Dyna pam ein bod ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r awdurdod lleol a’r datblygwr i sicrhau bod gan rwydwaith dŵr gwastraff Caerdydd y capasiti i barhau i wasanaethu’r gymuned ehangach,” meddai llefarydd ar ran Dŵr Cymru.
“Dewiswyd Parc Hailey fel y lleoliad mwyaf addas ar gyfer yr orsaf bwmpio carthffosiaeth am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith ei fod yn agos at y rhwydwaith dŵr gwastraff cyfredol, ac er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.
“Mae arwynebedd Parc Hailey’n fwy na 61,000 erw – bydd yr orsaf bwmpio’n cymryd 0.13 erw – llai na 0.25% o’r parc.
“Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb dros amddiffyn yr amgylchedd o ddifrif ac yn deall y pryderon sydd yna am weithrediad gorlifoedd storm, ac yn arbennig ar Afon Taf.
“Gallwn eich sicrhau chi y bydd y dŵr gwastraff o orsaf bwmpio Parc Hailey’n mynd i’n gweithfeydd trin yn Nhremorfa, Caerdydd, lle caiff ei drin cyn ei ryddhau nôl yn ddiogel i’r amgylchedd yn unol â’n trwydded.”