Bydd tri o blant yn gwersylla mewn gwahanol lefydd yng Nghymru bob mis yn ystod 2023 er mwyn gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu Gorsaf Bwmpio Carthion mewn parc yn y brifddinas.

Dechreuodd dau frawd – Florian, sy’n wyth oed a Fletcher sy’n bum mlwydd oed, a’u ffrind Ela, sy’n wyth oed – yr her mewn gwersyll yng Nghaerdydd fis diwethaf i godi arian at yr ymgyrch i achub y parc.

Mae trigolion gogledd Llandaf sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau wedi llwyddo i gael cefnogaeth gyfreithiol i geisio gwrthdroi penderfyniad Cyngor Caerdydd i roi caniatâd cynllunio i Dŵr Cymru fwrw ymlaen â’r cynlluniau ym Mharc Hailey.

Fe wnaeth y tîm cyfreithiol sy’n gweithio ar ran yr ymgyrchwyr Cymdeithas Trigolion Gogledd Llandaf gyflwyno cais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol i’r penderfyniad fis Tachwedd y llynedd, ac ar hyn o bryd maen nhw’n aros i weld a gaiff y cais ei dderbyn.

Mae’r ymgyrchwyr yn honni na wnaeth swyddogion y Cyngor ddilyn y broses iawn wrth roi caniatâd i’r datblygiad, tra bod Dŵr Cymru’n dweud bod angen yr orsaf bwmpio carthion i fynd â gwastraff o ddatblygiad tai Plasdwr yn Radur.

‘Ni sy’n gorfod byw yw efo hyn’

Fe wnaeth yr ymgyrchwyr godi £11,000 er mwyn talu am y costau cyfreithiol cychwynnol, ond maen nhw nawr yn ceisio codi £10,000 arall i dalu am gostau ychwanegol.

“Fyddan ni’n campio mewn gwahanol lefydd yng Nghymru bob mis yn 2023,” eglura Florian a Fletcher, sy’n defnyddio’r parc yn aml, wrth ateb cwestiynau golwg360 ar y cyd.

“Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn codi arian i atal yr Orsaf Bwmpio Carthion ym Mharc Hailey.

“Ein parc ni yw e a dydyn ni ddim eisiau iddo gael ei ddifetha. Bydd yn effeithio’r caeau rygbi.

“Rydyn ni’n poeni y bydd mwy o garthion yn yr afon gan ein bod ni’n pigo’r sbwriel a’r wet wipes sy’n cael eu gadael yn y coed yn barod.

“Rydyn ni hefyd yn poeni am y llifogydd ar yr holl ffyrdd ar y ffordd i’n hysgol gan ei fod yn digwydd bob tro mae hi’n bwrw.

“Fyddan ni’n flin pe bai’r orsaf pwmpio carthion yn cael ei chodi,” ychwanega Florian.

“Mae’n golygu bod y Cyngor a Dŵr Cymru heb wrando arnom ni.

“Ni yw cenhedlaeth y dyfodol a fyddan ni’n gorfod byw efo hyn.

“Pan ydyn ni’n cael pleidleisio, byddan ni’n pleidleisio dros bobol sy’n poeni am yr amgylchedd. Rydyn ni’n meddwl y dylen ni gael pleidleisio a chael dweud ar y pethau hyn achos maen nhw’n effeithio ni.”

‘Hyderus’

Mae’r ddau wrth eu boddau yn campio yng Nghymru, ac yn edrych ymlaen at weddill yr her ac yn gobeithio y bydd ffrindiau eraill yn ymuno â’r tri ohonyn nhw ar ambell daith.

“Rydyn ni’n caru campio oherwydd bod yna olygfeydd anhygoel, gwersyll campio gwych a lot o weithgareddau i’w gwneud,” meddai’r ddau.

“Rydyn ni’n hoffi coginio ein bwyd ein hunain ar y stof a gwneud siocled poeth, ac rydyn ni’n hoffi gwneud cysgod i ni’n hunan efo tarpolin.

“Mae campio yn y gaeaf yn anoddach, yn fwy o her, a does yna ddim lot o bobol yn campio bryd hynny ac mae yna wastad lot o le yn y gwersyll, felly rydyn ni’n hoffi campio yn y gaeaf.”

“Rydyn ni’n hyderus oherwydd rydyn ni’n tough!

“Fel arfer, rydyn ni’n beicio i’r gwersyll ac yn cario’r kit ar ein beics felly mae’n gallu bod yn anodd pan mae hi’n oer, rhewllyd neu lawog.

“Mae pacio pan mae hi’n bwrw ac yn fwdlyd yn anodd, ac mae’n drist gorfod pacio.

“Mae’n hawdd yn yr haf!”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Caerdydd.