Bydd deddfwriaeth newydd, y Mesur Amaeth, yn cael ei thrafod yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 7), ac mae mudiadau amaeth wedi bod yn amlinellu eu blaenoriaethau.
Nod y ddeddfwriaeth yw gosod fframwaith ar gyfer polisïau amaeth yn y dyfodol sydd wedi’u creu yng Nghymru ar gyfer pobol Cymru.
Rhan bwysig o hyn yw annog mentrau cymunedol a chynaliadwy.
Yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, mae gan ffermwyr “gyfle i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau pwysicaf mae ein gwlad yn eu hwynebu” ac “mae’n rhaid i ni i gyd ymateb i heriau’r hinsawdd a natur”.
Dywed fod rhaid gweithredu’n gyflym er mwyn sicrhau “sector amaeth cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”, a bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn gosod Rheolaeth Gynaliadwy ar Dir fel fframwaith gyda’r nod o helpu ffermwyr i leihau eu hôl troed carbon wrth helpu byd natur a chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.
Ymhlith amcanion y ddeddfwriaeth arfaethedig mae sicrhau gwydnwch busnesau amaeth o fewn y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, helpu cymunedau gwledig i ffynnu a bod yn fwy gwydn, a chynnal y defnydd o’r Gymraeg yn y sector.
Yn ôl Llywodraeth, mae’r agweddau hyn i gyd yn “allweddol i gadw ffermwyr ar eu tir gan symud tuag at ddyfodol sero-net”.
Ers i Lesley Griffiths amlinellu safbwynt y Llywodraeth, mae nifer o fudiadau a sefydliadau wedi bod yn lleisio’u barn am yr hyn yr hoffen nhw ei weld y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ei gyflawni.
NFU Cymru
Yn ôl NFU Cymru, mae “angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod y mesur yn gallu sefydlu fframwaith i danlinellu sector amaeth sy’n ffynnu yng Nghymru”.
Maen nhw wedi rhoi tystiolaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig i bwyllgor economi, masnach a materion gwledig y Senedd eisoes, fel rhan o’r gwaith paratoi cyn cyhoeddi’r adroddiad 114 tudalen yr wythnos ddiwethaf, sy’n cynnwys 30 o argymhellion ym mhob agwedd ar y mesur.
Dywed NFU Cymru fod y mesur yn “garreg filltir” yn hanes amaeth yng Nghymru, gan roi’r cyfle cyntaf erioed i gyflwyno polisi bwyd ac amaeth sydd wedi’i lunio yng Nghymru ar gyfer pobol Cymru.
Yn ôl y llywydd Aled Jones, mae’r pwyllgor yn y Senedd “wedi cydnabod pryderon NFU Cymru ynghylch mynediad yn y dyfodol at gefnogaeth i denantiaid a phobol gyffredin, teuluoedd ffermio sy’n ffermio’r tir nad ydyn nhw’n berchen arno”.
Mae hefyd yn croesawu’r argymhelliad i gyflwyno gwelliannau i helpu ffermwyr newydd a chynhyrchiant ar eu ffermydd fel ei fod yn “cefnogi cymunedau cryf a bywiog”.
Maen nhw hefyd yn awyddus i sicrhau bod pwyslais ar gefnogi busnesau amaeth cynaliadwy a dichonadwy er mwyn helpu’r economi, gan alw ar Lafur a Phlaid Cymru i gydweithio ar hyn yn ystod taith y mesur drwy’r Senedd.
Cyswllt Amgylchedd Cymru
Un o’r sefydliadau sydd wedi amli nellu eu gobeithion ar gyfer y ddeddfwriaeth yw Cyswllt Amgylchedd Cymru, sef rhwydwaith o fwy na 30 o sefydliadau tu allan i’r llywodraeth sy’n cydweithio ar weledigaeth ar gyfer amgylchedd sy’n ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o brif argymhellion er mwyn cryfhau’r mesur a’i ddyletswyddau.
Yn ôl y cyd-gyfarwyddwr Karen Whitfield, mae’r mesur “yn symud i’r cyfeiriad cywir”, ond mae angen ei gryfhau eto drwy sicrhau mwy o aliniad â deddfwriaeth bresennol megis Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan fabwysiadu diffiniad y Cenhedloedd Unedig o’r hyn yw rheoli tir ac adlewyrchu adfer bioamrywiaeth a gwytnwch sy’n rhan o’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang.
Fel NFU Cymru, maen nhw hefyd am weld mwy o bwyslais ar rôl y gymuned leol ym myd ffermio wrth warchod yr amgylchedd, amrywio busnesau a datblygu cyfleoedd newydd i gynhyrchu bwyd lleol, cefnogi ffordd o fyw iach a chryfhau’r economi.
Dywed Cyswllt Amgylchedd Cymru fod yna “gyfle unwaith mewn oes” i newid agweddau at amaeth er mwyn cefnogi natur a chefnogi cymunedau.
Maen nhw’n argymell tynhau amcanion, gosod isafswm safonau cyn creu Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sicrhau symudiad esmwyth tuag at sero-net, a thanlinellu pwysigrwydd natur.
Beth mae sefydliadau eraill yn ei ddweud?
Arfon Williams, RSPB Cymru:
“Mae’n glir fod polisïau amaeth sydd wedi’u meithrin yn wael wedi arwain at ddwysáu ffermio, gan ddarparu llai a llai o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt brodorol yng Nghymru. Yn ystod ein hoes, rydym wedi colli bron i hanner ein hadar ffermdir, mamoliaid, amffibiaid, pryfed ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ynghyd â thros 90% o laswellt caëedig llawn sy’n gyfoethog â blodau. Bil Amaeth Cymru yw ein gobaith gorau – a’r gobaith olaf, fwy na thebyg, o helpu ffermwyr ledled Cymru i wyrdroi’r golled gatastroffig hon o ran tir. Bydd cynnwys ‘adfer bioamrywiaeth’ fel amcan yn y Bil yn hanfodol os ydyn ni am gael Cymru sy’n gyfoethog o ran natur unwaith eto.”
Andrew Tuddenham, Cymdeithas y Pridd yng Nghymru:
“Yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol sicrhau bod y Bil Amaeth yn cefnogi symudiad prif ffrwd tuag at ffermio agroecolegol sy’n gyfeillgar i natur yng Nghymru. Dyma’r datrysiad sydd yn fwyaf seiliedig ar dystiolaeth sydd gan ffermwyr i argyfyngau’r hinsawdd a natur. I gyrraedd y fan honno, mae angen i’r mesur fod wedi’i wreiddio’n ddwfn yn natur a gyrru safonau uwch o ran arweiniad ar fywyd gwyllt, y pridd a dŵr. Rhaid ei fod yn newid y gêm, a’i gwneud hi’n hawdd i ffermwyr warchod ac adfer natur ar draws eu ffermydd cyfan er mwyn datgloi dull mwy gwydn a phroffidiol.”
Eben Muse, Cymdeithas Mynydda Prydain:
“Gobeithiwn y bydd Aelodau’r Senedd yn cydweithio â ni er mwyn ystyried ein hawgrymiadau o ran gwelliannau, yn enwedig y pumed argymhelliad sy’n ymwneud â darpariaeth y Bil o ran mynediad cyhoeddus. Bydd cyfeirio’n glir at wella mynediad y cyhoedd yn helpu i gadw ein tirluniau ac yn hybu arweiniad yn ogystal â chyswllt natur. Rhaid i ni ymrwymo i wella mynediad y cyhoedd dros fodloni â’i gynnal – mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni cyn lleied o ddarpariaeth sydd ar gyfer mynediad gwledig, a pha mor uchel yw’r galw am ofodau hamdden. Mae Cymru’n wlad fach, a thrwy’r Bil hwn mae’n rhaid i ni sicrhau dyfodol lle gall pawb ohonom gael mynediad at dirluniau sy’n gartref i gynefinoedd a bywyd gwyllt sydd wedi’u hadfer, ochr yn ochr â diwydiant amaeth cryf a chynaliadwy.”
Alexander Phillips, WWF Cymru:
“Rydym yn byw mewn argyfwng natur a hinsawdd byd-eang ac mae’r Bil Amaeth yn rhan hanfodol o ymateb Cymru. Os na chawn ni’r Bil hwn yn iawn, rydym yn wynebu’r perygl o barhau i golli natur, ac ni fyddwn yn gallu gwireddu ein huchelgais sero-net. Dros y degawd diwethaf, mae allyriadau amaethyddol Cymru wedi codi ac mae’r sector yn parhau i fod yn un o’r gyrwyr mwyaf wrth wraidd colli natur.
“Yn wyneb y cytundeb COP15 nodedig i atal a gwyrdroi colli natur byd-eang, rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â gadael i’r cyfle hwn i greu system ffermio wydn sy’n gweithio i bobol, natur a’r hinsawdd lithro trwy eu dwylo. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n gweithredu ar sail argymhellion Pwyllgor ETRA y Senedd a’r sector amgylcheddol er mwyn sicrhau bod adfer bioamrywiaeth yn amcan ar gyfer cefnogaeth i ffermio yng Nghymru yn y dyfodol. Rhaid i Gymru symud tuag at system o gynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i natur, yn adfywiol ac yn agroecolegol.”
Tim Birch, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru:
“Mae ffermdir yn gorchuddio bron i 90% o Gymru, ac mae’r ffordd y caiff ei reoli’n hollol hanfodol i gyflawni adferiad natur a mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Mae’r Bil Amaeth yn gyfle unwaith mewn oes i sicrhau bod ffermio’n cael ei wobrwyo am fod yn warcheidwaid cefn gwlad. Rydym eisiau cydnabyddiaeth i’n ffermwyr am eu rôl hanfodol wrth reoli cefn gwlad lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, lle mae ein hafonydd yn lân, a lle caiff carbon ei storio. Cefn gwlad fydd yn helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a’r hinsawdd.”