Aled Gwyn yn Nhrefechan
Aled Gwyn

Roedd Aled Gwyn a’i ddiweddar wraig Menna ar Bont Trefechan 60 mlynedd yn ôl, ac yn fyfyrwyr ifainc yn y brifysgol.

Dros y penwythnos, fe fu Aled Gwyn yn siarad am frwydr yr iaith yn y gorffennol ac yn edrych ymlaen tua’r dyfodol, gan annog Llywodraeth Cymru i “droi pob carreg” er lles y Gymraeg os ydyn nhw am sicrhau bod Cymru’n wlad lle mae’r mwyafrif yn medru’r iaith.

Daeth nifer o brotestwyr gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith ynghyd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Chwefror 4) ar gyfer taith gerdded arbennig i nodi 60 mlynedd ers eu protest gyntaf.

Dechreuodd y daith ar Bont Trefechan, cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig y dref sy’n rhan o hanes y mudiad.

Dyma gyfle i wylio Aled Gwyn yn annerch y rhai ddaeth ynghyd.