Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru’n dweud mai nod Llywodraeth Cymru gyda Chyllideb Ddrafft 2023-24 yw sicrhau bod pob punt sy’n cael ei buddsoddi yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf bosib.
Bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 7) ar y Gyllideb Ddrafft wrth i chwyddiant uchel barhau i roi pwysau ariannol ar fusnesau, aelwydydd a gwasanaethau.
Deintyddion ac insiwleiddio
Yn y cyfamser, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am weld cynnydd yn y buddsoddiad yng Nghymru ar gyfer deintyddiaeth a mwy o arian i insiwleiddio tai.
Maen nhw hefyd am i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei hamddiffyn rhag toriadau.
Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, eu bod nhw’n deall bod yna heriau “anferthol” yn wynebu’r gyllideb ar y funud, ond ei bod hi’n credu nad ydy Llafur a Phlaid Cymru’n ddigon uchelgeisiol ym mhob maes.
“I ddechrau, rydyn ni eisiau gweld mwy o arian yn mynd tuag at ddeintyddfeydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel bod gwariant fesul pen yn debycach i’r lefelau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai.
“Gyda rhestrau aros anferth yn neintyddfeydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a system dwy haen gynyddol o bobol sy’n gallu fforddio mynd yn breifat a’r rhai sy’n methu, mae’n amlwg bod angen mynd i’r afael â hyn.
“Yn yr un ffordd, byddai buddsoddi mewn insiwleiddio nawr yn arbed arian i Lywodraeth Cymru yn y tymor hir.
“Mae cyflwr gwael cartrefi Cymru wedi golygu bod pobol yn dioddef yn sgil y cynnydd diweddar mewn prisiau.
“Byddai rhaglen insiwleiddio gref yn creu swyddi, mynd i’r afael â newid hinsawdd a chwtogi gwariant y Gwasanaeth Iechyd ar salwch sy’n gysylltiedig ag oerfel.
“I orffen, rydyn ni eisiau sicrhau nad ydy toriadau i Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr yn digwydd yng Nghymru.
“Gyda charthion yn cael eu gollwng i’n hafonydd, llynnoedd a moroedd, y peth olaf rydyn ni eisiau ydy gweld Cyfoeth Naturiol Cymru’n cael eu rhwystro ymhellach rhag gwneud eu gwaith.”
Cyllideb Ddrafft 2023-24
Fel rhan o’u Cyllideb Ddrafft, mae Llywodraeth Cymru am ddyrannu £165m pellach i Wasanaeth Iechyd Cymru, ynghyd â £18.8m i’r Gronfa Cymorth Ddewisol, sy’n darparu taliadau parod i helpu pobol mewn argyfyngau ariannol.
Bydd £227m ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol i helpu i ddiogelu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gynghorau, fel ysgolion a gofal cymdeithasol.
Mae Cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth hyd at £3bn yn llai dros gyfnod tair blynedd na phan gafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol, gyda Chyllideb Ddrafft 2023-24 yn werth hyd at £1bn yn llai.
Mae Cymru hefyd yn wynebu diffyg o £1.1bn mewn cyllid o ganlyniad i drefniadau cyllido ôl-Undeb Ewropeaidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Wrth siarad cyn y ddadl heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 7), dywedodd Rebecca Evans fod y Gyllideb Ddrafft yn “diogelu gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a’n dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn wyneb storm berffaith o bwysau ariannol parhaus”.
“Ein nod yw sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael inni yn cael yr effaith fwyaf posib’, er gwaetha’r cyfnod anodd yr ydyn ni ynddo,” meddai.
“Mae hyn yn golygu cadw cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr yn sgil yr argyfwng costau byw parhaus a’r angen i barhau i ysgogi newid mwy hirdymor a chreu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.
“Rydyn ni wedi ailffocysu ein cyllid tuag at ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer 2023-24: diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a’n huchelgeisiau at y dyfodol, parhau i roi cymorth i’r rhai y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio fwyaf arnyn nhw a chefnogi ein heconomi drwy gyfnodau pan fo’n agos at fod mewn dirwasgiad.”
Y Gwasanaeth Iechyd
Ddydd Gwener diwethaf (Chwefror 3), cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynnig cyflog gwell i undebau llafur, sydd wedi golygu bod nifer o streiciau iechyd wedi cael eu gohirio.
Fe wnaeth Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, gynnig codiad cyflog ychwanegol o 3% ar ben y £1,4000 sydd wedi cael ei gynnig yn barod i wyth o undebau.
“Rwy’n cydnabod yr heriau sy’n parhau gyda chyflogau’r sector cyhoeddus ac rydyn ni’n dal i weithio’n agos gydag undebau i ganfod ateb i anghydfodau cyflog,” meddai Rebecca Evans.
“Rydyn ni’n llwyr ddeall pa mor gryf yw teimladau’r gweithlu.
“Byddwn ni’n parhau i wneud yr hyn y gallwn ni gyda’r adnoddau sydd gennym, er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i wrthod codi cyflogau gweithwyr diwyd y sector cyhoeddus.
“Bydd Cyllideb y Gwanwyn ym mis Mawrth yn gyfle arall i’r Canghellor unioni hyn, ac rydyn ni’n galw arno eto i weithredu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus.”