Mae Liz Saville Roberts wedi cwestiynu pam fod is-gadeirydd newydd y Blaid Geidwadol yn San Steffan yn haeddu dyrchafiad.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dilyn penodiad Lee Anderson i’r swydd.

Mae Greg Hands yn olynu’r cadeirydd blaenorol Nadhim Zahawi, gafodd ei ddiswyddo tros helynt yn ymwneud â thalu trethi.

Fel rhan o’r ad-drefnu, mae Lee Anderson wedi’i ddyrchafu i fod yn ddirprwy gadeirydd, gyda Lucy Frazer bellach yn arwain yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae Grant Shapps wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Ynni a Sero-Net.

“Beth wnaeth Lee Anderson i haeddu dyrchafiad?” meddai Liz Saville Roberts ar Twitter.

“Cyhuddo defnyddwyr banciau bwyd o wastraffu arian ar lỳsh a smôcs?

“Dweud celwydd fod y rhan fwyaf o geiswyr lloches yn fewnfudwyr anghyfreithlon?

“Gelyniaethu Teithwyr?

“Defnyddio’i staff fel pêl-droed wleidyddol?

“Adlewyrchiad o gyflwr truenus gwleidyddiaeth San Steffan.”