Mae pobol yn cael y cyfle i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad ar gynlluniau ar gyfer Uned Iechyd Meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd.
Maen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn symud ymlaen gyda chynigion ar gyfer yr uned newydd er mwyn darparu cyfleuster sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Dyma’r ail waith iddyn nhw gyflwyno cynlluniau ar gyfer yr uned allai gostio hyd at £84.5m ac a fydd â lle i 63 o wlâu.
Byddai’r uned newydd yn disodli Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, a’r cyfleuster Iechyd Meddwl Pobol Hŷn i Gleifion Mewnol ym Mryn Hesketh, Bae Colwyn.
Mae adolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi tynnu sylw at faterion adeileddol sylweddol yn Uned Ablett ac maen nhw wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer adeilad newydd modern a phwrpasol ers 2019.
Fis Hydref y llynedd, cafodd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cyfleuster newydd ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan.
Mae awydd bellach i symud ymlaen at gam nesaf y prosiect.
Y cynigion diweddaraf
Cyn datblygu cais cynllunio gyda Chyngor Sir Ddinbych, bydd ymgynghoriad â’r gymuned ynghylch y cynigion drafft newydd.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, y bwriad yw cyflwyno cais cynllunio newydd i’r Cyngor.
Fis Ionawr 2021, cafodd eu cais a’u caniatâd cynllunio amlinellol ar safle yng nghornel dde-orllewinol campws yr ysbyty ei wrthod gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych, ar y sail y byddai’r lleoliad arfaethedig yn cael effaith uniongyrchol ar eiddo rhai preswylwyr cyfagos.
Maen nhw wedi gwrando ar bryderon preswylwyr i ddiwygio’r cynigion yn sylweddol.
Y cynnig erbyn hyn yw lleoli’r uned iechyd meddwl newydd yng nghornel ogledd-orllewinol campws yr ysbyty, i ffwrdd o’r holl eiddo preswyl cyfagos.
Byddai adeilad presennol Uned Ablett yn aros yn ei le a byddai’n cael ei addasu at ddibenion gwahanol.
Byddai’r cyfleuster newydd yn darparu rhagor o wlâu iechyd meddwl aciwt, er mwyn eu helpu i ymateb i’r galw nawr ac yn y dyfodol; ward iechyd meddwl ddynodedig i bobol hŷn ac uned asesu gofal dementia pwrpasol; amgylcheddau a mannau therapi modern, yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf, fydd yn rhoi’r hyblygrwydd i ymateb i anghenion yn y dyfodol; a chyfleusterau gwell o lawer i gleifion, eu teuluoedd a staff.
Er mwyn creu darpariaeth newydd i barcio ceir ar gyfer y lleoedd fyddai’n cael eu colli ar gyfer yr uned iechyd meddwl newydd, mae’r cynigion hefyd yn cynnwys adeiladu maes parcio aml-lawr newydd yng nghornel ogledd-ddwyreiniol campws yr ysbyty, fel sydd wedi’i gynnwys yn y cais cynllunio blaenorol.
Byddai capasiti meysydd parcio yn yr ysbyty’n parhau i fod yn debyg ar y cyfan â lefel y ddarpariaeth bresennol.