Fe fydd dadl yn cael ei chynnal ar borthladdoedd rhydd yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 8), wrth i’r gystadleuaeth am gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddirwyn i ben.
Mae tri chais wedi’u cyflwyno hyd yn hyn am gyllid gwerth £26m gan Lywodraeth San Steffan, yn ogystal â gostyngiad trethi i fusnesau yn ardal y porthladdoedd rhydd.
Gallai porthladd rhydd yng Nghymru olygu creu hyd at 16,000 o swyddi, a buddsoddiad pellach gwerth biliynau o bunnoedd.
Yn ôl Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig, does dim modd “tanbrisio” gwerth porthladdoedd rhydd i “rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru”.
“Fe roddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr her i Gymru gyflwyno ceisiadau eithriadol, ac mae Cymru wedi cyflawni hynny,” meddai.
“Byddai’r tri chais yn helpu i drawsnewid eu cymunedau lleol mewn gwahanol ffyrdd.
“Mae’n hanfodol bod llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cydweithio er mwyn gwireddu’r ail borthladd rhydd hwnnw i Gymru, gan fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd sydd gan y ceisiadau hyn i’w cynnig.”
Y ceisiadau
Byddai Porthladd Rhydd Celtaidd rhwng Sir Benfro a Chastell-nedd yn creu 16,000 o swyddi ac yn arwain at fuddsoddiad gwerth hyd at £5.5bn.
Yn ôl Porthladd Rhydd Ynys Môn, byddai eu cais nhw’n denu £1bn o fuddsodiad a hyd at 13,000 o swyddi cyflog uchel ledled y gogledd.
Nod Porthladd Rhydd Casnewydd, sy’n cwmpasu Maes Awyr Caerdydd, yw cynyddu refeniw tu hwnt i deithwyr o 50%, gan ddod â’u dibyniaeth ar incwm gan deithwyr i ben.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae gan borthladdoedd Cymru hanes hir o helpu gwead economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Heddiw, maen nhw’n parhau’n nodwedd ganolog wrth sefydlu cysylltiadau masnachu newydd ar draws y byd ac wrth ehangu potensial masnach ryngwladol a buddsoddi’r Deyrnas Unedig.
“Mae gan y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd y potensial i helpu i gynyddu gweithgarwch economaidd ledled Cymru, symbylu twf net o ran swyddi, creu cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel a chefnogi datgarboneiddio wrth symud tuag at sero-net.
“Rydym hefyd wedi sicrhau bod ymgysylltu teg o ran gwaith ac undebau llafur yn gydrannau allweddol yn y rhaglen.
“Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd Tachwedd 24, 2022.
“Rydym wrthi ar hyn o bryd yn asesu’r tri chais y gwnaethon ni eu derbyn, ar y cyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Gobeithiwn gyhoeddi’r canlyniad y gwanwyn hwn.”