Mae mam i ddau o blant, sy’n rhedeg fferm laeth, yn dathlu cyhoeddi cerddi a stori fer yn y Gymraeg, bedair blynedd yn unig wedi iddi ddechrau dysgu’r iaith.

Dechreuodd Sophie Roberts o Drelawnyd, sy’n rhedeg y fferm gyda’i gŵr Emlyn, ddysgu Cymraeg gyda Choleg Cambria pan ymunodd hi â dosbarth canolradd yn Nhreffynnon.

Gwnaeth hi gynnydd cyflym mewn cyfnod byr o amser ac yn sgil hyn, enillodd hi Gadair y Dysgwyr yn Eisteddfod y Gogledd Ddwyrain eleni, a Chadair y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd dros yr haf.

I nodi Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos hon, mae hi’n annog eraill i ymuno ar y daith a pheidio â gadael i unrhyw beth fod yn rhwystr.

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chydlynu gan y Sefydliad Addysg a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Trwy gydol mis Medi, bydd yr ymgyrch flynyddol yn annog pobol ledled Cymru i ddarganfod eu hangerdd a pharhau i ddysgu.

Dychwelyd i Gymru

Dysgodd Sophie Roberts rywfaint o Gymraeg wrth gael ei magu yn Sir Benfro, ond collodd ei gafael yn yr iaith yn fuan wedyn, gan mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd.

Aeth hi yn ei blaen i dreulio deng mlynedd yn byw yn Lloegr ar ôl mynd i’r brifysgol yno ac wedyn gweithio, cyn dychwelyd i Gymru ac ailafael yn ei Chymraeg.

“Wrth symud i’r gogledd gyda fy ngŵr, mi wnes i benderfynu ailafael yn y Gymraeg fel rhywbeth ar gyfer fi fy hun ac i gyfarfod â phobol newydd,” meddai.

“Roedd y dosbarth mor neis, roedd pawb yn gyfeillgar a chroesawgar, ac roedd fy nhiwtor Eilir Jones yn gwneud dysgu yn gymaint o hwyl ac wedi fy helpu i fagu llawer o hyder.

“Mae Eilir yn diwtor gwych, ac rydw i’n ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth.

“Yn 2020, dechreuais y cwrs Cymraeg Uwch 1 gyda Cambria ond ar-lein y tro hwn gyda thiwtor arbennig o’r enw Non Lewis Edwards.

“Roedd yn grŵp hyfryd, ac roedd yn fendigedig cael dosbarth i fynd iddo’n wythnosol yn ystod pandemig Covid-19.

“Mi wnes i ddysgu gymaint y flwyddyn honno, a gwneud ffrindiau dros Brydain i gyd ac un o Sbaen hyd yn oed!

“Roedd yn ddosbarth mor gefnogol, ac roedden ni’n cael ein hannog i rannu ffyrdd newydd o ddefnyddio ein Cymraeg er pleser.

“Mi wnaeth hyn fy annog i i ddefnyddio fy Nghymraeg bob dydd trwy wrando ar bodlediadau, darllen llyfrau ac ysgrifennu’n greadigol yn Gymraeg hefyd.”

‘Angerdd newydd’ am ysgrifennu

Aeth Sophie Roberts yn ei blaen i gwblhau cwrs Hyfedredd ar-lein gyda’r tiwtor Catrin Jones, ac mae hi hyd yn oed wedi dechrau dau ddosbarth Hyfedredd newydd, i gyd gyda Choleg Cambria.

Mae’n hapus iawn gyda’i chynnydd, ond doedd hi ddim wedi dychmygu y byddai’n ennill teitlau Eisteddfodol o’r fath.

Roedd canmoliaeth i’w cherdd ‘Glannau’ gan y cyflwynydd teledu a’r bardd Ifor ap Glyn, a hynny am iddi ddefnyddio’r cefnfor fel trosiad ar gyfer iechyd meddwl.

“Roedd yn llawer o hwyl mynd i’r Eisteddfod, ac roedd yn bleser cyfarfod ag Ifor,” meddai.

“Dydw i dal yn methu coelio’r holl bethau gwych oedd ganddo i’w dweud am fy ngherdd yn ystod y seremoni, roedd yn brofiad ffantastig.

“Dwi mor falch mod i wedi penderfynu dysgu Cymraeg gyda Cambria, a dw i wedi ennill cymaint mwy na dim ond sgil newydd.

“Dw i wedi cyfarfod ffrindiau gwych a thiwtoriaid angerddol yr hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ac am wneud y dysgu mor hwyl.

“Dw i hefyd wedi dod o hyd i angerdd newydd am ysgrifennu yn Gymraeg.

“Diolch i’r holl bobol wych yna, a’r cariad a chefnogaeth gan deulu a ffrindiau, dw i wedi cael yr hyder i rannu fy ysgrifennu yn Gymraeg.

“Mae dwy o fy ngherddi bellach wedi’u cyhoeddi yn Ffosfforws (Cyhoeddiadau’r Stamp), ac rydw i wedi cyhoeddi stori fer yn Curiadau (Barddas).

“Dw i wedi teimlo cymaint o groeso i’r gymuned wych o siaradwyr Cymraeg a dwi’n edrych ymlaen at barhau i ddysgu mwy gyda Cambria.”