Dydy busnesau Ceredigion wedi adfer yn llwyr o effeithiau pandemig Covid-19 eto, yn ôl ymchwil newydd.

Dywed 92% o fusnesau’r sir eu bod nhw wedi wynebu anawsterau yn sgil Covid-19, gan gynnwys gostyngiad yn nifer eu cwsmeriaid a’u refeniw, ac amhariadau i’r gadwyn gyflenwi.

Mae’r ymchwil gan Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth wedi’i rhannu i ddau adroddiad, gyda’r cyntaf yn edrych ar effaith economaidd y pandemig ar fusnesau a gweithwyr hunangyflogedig Ceredigion.

Cafodd 77 o fusnesau ac unigolion eu holi fel rhan o’r ymchwil, gan drafod rhai o’r prif heriau oedd, ac sydd, yn eu hwynebu.

Er gwaethaf gwahanol gynlluniau busnes gan lywodraethau ar y pryd, dydy llawer o fusnesau heb ddychwelyd i normal, yn ôl awduron yr ymchwil, ac maen nhw’n galw ar bolisïau i fynd i’r afael ag “effeithiau Covid hir ar fusnesau”.

Effaith ar aelwydydd

Mae’r ail adroddiad yn edrych ar effaith economaidd-gymdeithasol y pandemig ar aelwydydd Sir Gaerfyrddin, ac yn adlewyrchu profiadau 246 o aelwydydd yn ystod Covid-19.

Mae 80% yn nodi bod eu harferion gwario wedi newid, yn bennaf ar fwyd, biliau a darpariaeth rhyngrwyd.

Mae 40% yn jyglo gwaith gyda gofal plant a dysgu’u plant adref, yn ôl yr ymchwil, a dywed 55% eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi’u hynysu.

Dywed un ym mhob tri eu bod nhw wedi profi anawsterau iechyd.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at faterion iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â theimladau o bryder, unigrwydd, unigedd a straen ychwanegol oherwydd gwaith, addysgu gartref a chyfrifoldebau gofal.

Ynghyd â hynny, mae’r awduron yn dadlau bod y straen a’r pryder wedi’u gwaethygu gan gyflymder band eang araf, hygyrchedd a chysylltedd digidol – rhywbeth gafodd ei grybwyll gan bron i hanner y rhai wnaeth ymateb.

Effeithiau hirdymor Covid

“Er bod yr effeithiau tymor byr yn sylweddol, megis yr amharu ar gadwyni cyflenwi a gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid, mae tystiolaeth o’r ymatebion i’r arolwg yn awgrymu y dylai mynd i’r afael â’r effeithiau Covid hir sy’n parhau ar fusnesau fod yn flaenoriaeth i lunwyr polisi,” meddai Dr Aloysius Igboekwu wrth siarad yn lansiad yr ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Mawrth, Medi 19).

“Byddai darparu gwell mynediad at seilwaith digidol ar draws y sir wedi bod o fudd i aelwydydd a busnesau yn ystod y pandemig.

“O ran effaith y pandemig ar aelwydydd Ceredigion, dylai llunwyr polisi ystyried yr effeithiau gafodd y cyfyngiadau a’r cyfnodau clo ar les, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, y boblogaeth.”