Mae ymgyrch i godi arian i gael cyngor cyfreithiol er mwyn atal gorsaf pwmpio gwastraff rhag cael ei chodi mewn parc yng Nghaerdydd, wedi codi dros £5,000.
Ddechrau mis Medi, fe wnaeth Cyngor Caerdydd roi caniatâd cynllunio i adeiladu’r orsaf ym Mharc Hailey yn Ystum Taf.
Mae’r parc yn Ardal o Ddiddordeb ar gyfer Cadwraeth Natur ac mae ganddo statws Baner Werdd, ac yn ôl yr ymgyrchwyr mae’n “hafan i fywyd gwyllt, yn helpu i’n hamddiffyn rhag llifogydd, ac yn cefnogi iechyd a llesiant degau o bobol, lleol a thu hwnt, sy’n defnyddio’r parc yn ddyddiol”.
Dros yr afon yn Radur, mae 7,000 o dai yn cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiad Plasdwr gan Redrow.
Ond yn ôl Redrow, does dim modd delio â’r gwastraff o’r datblygiad newydd yr ochr honno i’r afon, felly ar Fedi 8 rhoddodd Cyngor Caerdydd ganiatâd i’r gwastraff gael ei bwmpio o Blasdwr i Ogledd Llandaf, a chaniatâd i orsaf pwmpio gwastraff gael ei hadeiladu mewn rhan o Barc Hailey.
“O ganlyniad, bydd rhan o’n Parc Hailey hardd yn cael ei ddinistrio am byth, a bydd risg o ddatblygiadau eraill yn y dyfodol,” meddai Cymdeithas Preswylwyr Ystum Taf.
“Dydyn ni chwaith ddim yn meddwl mai dyma’r opsiwn gorau i Gaerdydd, ac y dylai Dŵr Cymru fuddsoddi mewn seilwaith gwell ar ochr Plasdwr o’r afon: pwmpio i Barc Hailey yw’r opsiwn rhatach ac mae e i gyd yn ymwneud â chael yr elw gorau i’r datblygwr.
“Yn ein barn ni, mae yna ddiffygion wedi bod yn y prosesau cynllunio: felly mae Cymdeithas Preswylwyr Ystum Taf yn codi arian i geisio cyngor cyfreithiol ar yr hyn fedrwn ni ei wneud i frwydro’r penderfyniad ac amddiffyn y parc er mwyn y gymuned, natur a chenedlaethau’r dyfodol.”
Y bwriad oedd defnyddio’r £5,000 i dalu am adolygiad cyfreithiol cychwynnol a bargyfreithiwr.
Mae’r ymgyrchwyr wedi cael cyngor gan eu cyfreithiwr bod sail gyfreithiol i herio Cyngor Caerdydd, ac mae’r tîm cyfreithiol wedi gwahodd y Cyngor i newid eu meddyliau a chael gwared ar y caniatâd cynllunio i adeiladu’r orsaf bwmpio.
Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Gan fod y Cyngor wedi derbyn “llythyr cyn camau cyfreithiol” ynghlwm â chamau cyfreithiol posib, ni fyddai’n briodol gwneud sylw ar hyn o bryd”.