Fe allai darganfod cyrff meirw yn Sir Benfro, allai fod wedi deillio o ryfel annibyniaeth Owain Glyndŵr, fod yn “hynod arwyddocaol”, yn ôl Dr Rhun Emlyn, darlithydd Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Hyd yma, mae archeolegwyr wedi darganfod 240 o gyrff o dan hen ganolfan siopa Ocky White yng nghanol tref Hwlffordd.
Yn 1405, hwyliodd llu Ffrengig i Sir Benfro i ymuno â lluoedd Owain Glyndŵr, gan lanio yn Aberdaugleddau.
Ymosododd y Ffrancwyr ar Hwlffordd, gan orchfygu byddin yno, ond lwyddon nhw ddim i gipio’r castell ei hun.
Yna symudon nhw i Ddinbych-y-Pysgod, cyn cipio castell Caerfyrddin gyda lluoedd Owain Glyndŵr.
Y gred yw fod y ganolfan siopa yn Hwlffordd, sydd bellach wedi cael ei dymchwel, wedi’i lleoli ar safle Priordy’r dref gafodd ei sefydlu gan Fynachod Dominicaidd o gwmpas 1256.
Mae gan nifer o’r cyrff sydd wedi’u darganfod anafiadau y gellid disgwyl i rywun eu dioddef mewn brwydr, tra bod oddeutu hanner y cyrff yn blant.
Fodd bynnag, dyw hynny ddim ond yn adlewyrchu’r ganran uchel o blant nad oedden nhw’n byw yn ddigon hir i fod yn oedolion.
“Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n rhan o rywbeth mor fawr,” meddai Gaby Lester, archeolegydd sy’n gweithio ar y safle.
“Mae’r safle’n argoeli i fod yn rhan enfawr o hanes Hwlffordd a Sir Benfro.”
‘Hynod arwyddocaol’
“Mae o’n arwyddocaol dy fod ti’n ffeindio olion o frwydrau ac yn y blaen o gyfnod Glyndŵr,” meddai Dr Rhun Emlyn wrth golwg360.
“Does dim llawer o olion felly gennym ni, felly mae ganddo’r potensial i fod yn hynod arwyddocaol.
“O be’ dw i wedi bod yn ei ddarllen, dydyn nhw ddim yn hollol siŵr eto o le mae’r cyrff yn dod mewn gwirionedd.
“Ond yn sicr, os ydyn nhw o gyfnod Glyndŵr, mae’n arwyddocaol eu bod nhw’n ffeindio tystiolaeth archaeolegol o un o’r brwydrau oedd yn rhan o ymgyrch Glyndŵr.
“Mae rhai o’r cyrff maen nhw wedi eu ffeindio gydag olion eu bod nhw wedi bod mewn brwydr, a’r frwydr bwysig rydyn ni’n gwybod amdano fo oedd bod Glyndŵr wedi rhoi gwarchae ar y dref.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod rhai o’r Tywysogion wedi gwneud hefyd, ond mae’n bosib mai ymosodiad Glyndŵr oedd yr un mwyaf arwyddocaol a dw i’n tybio mai dyna pam maen nhw’n dyfalu mai olion o gyfnod Glyndŵr y maen nhw wedi’u ffeindio.”
Cyd-destun hanesyddol
Wrth egluro cyd-destun hanesyddol y canfyddiadau, dywed Dr Rhun Emlyn ei bod hi’n arwyddocaol dros ben fod Owain Glyndŵr wedi llwyddo i berswadio Brenin Ffrainc i anfon milwyr i ymladd yn ei wrthryfel.
“Mae hwnna yn un o’r pethau fyddwn i’n ei bwysleisio, ei fod o’n ran o ymosodiad ar y cyd rhwng Glyndŵr a lluoedd o Ffrainc,” meddai.
“Roedd Glyndŵr yn llwyddo yn yr adeg honno, roedd y gwrthryfel ar ei uchafbwynt yn 1405, ond roedd y gefnogaeth o Ffrainc yn hynod o arwyddocaol.
“Roedd hyn yng nghanol y Rhyfel 100 mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr, felly mi oedd yna densiwn rhwng Ffrainc a Lloegr drwy gydol y cyfnod yna.
“Weithiau roedden nhw’n ymladd ac weithiau roedd o’n ryfel oer.
“Mae gwrthryfel Glyndŵr yn codi yn ystod y cyfnod yna ac er mwyn iddo lwyddo, wrth gwrs gyda llai o adnoddau nag oedd gan Loegr o ran milwyr ac arian ac yn y blaen, roedd o’n ddefnyddiol iawn iddo fo gael cefnogaeth rhywun fel Brenin Ffrainc.
“Ac mi gafodd o lot o gefnogaeth gan Ffrainc, fe wnaeth Ffrainc anfon milwyr draw i Gymru fwy nag unwaith er mwyn cefnogi Glyndŵr.
“Os ydi’r esgyrn yma unrhyw beth i’w wneud â’r gwrthryfel, y digwyddiad mwyaf arwyddocaol oedd bod Ffrainc wedi anfon byddin yn ystod haf 1405 i gefnogi Glyndŵr.
“Fe wnaethon nhw ymosod ar nifer o drefi a chestyll yn ardal Sir Benfro ac mewn i Sir Gaerfyrddin hefyd.
“Wnaethon nhw ddim llwyddo i gipio Hwlffordd, ond fe ddaru nhw losgi’r dref.
“Wedyn fe aethon nhw ymlaen i gipio Caerfyrddin, cyn parhau ar hyd de Cymru a hyd yn oed mynd i mewn i Loegr.
“Felly roedd o’n gyfnod cyffrous, ac mae’n siŵr fod gobeithion Glyndŵr ar eu huchaf bryd hynny.
“Roedd o yn llwyddo ar y pryd, ac roedd y rhan fwyaf o Gymru o dan ei reolaeth o.
“Ond roedd yna rhai trefi, rhai cestyll fel Hwlffordd a Chaerfyrddin oedd dal dan reolaeth Lloegr, felly’r hyn oedd o’n ei wneud oedd cael help y Ffrancwyr i ymosod ar y trefi a’r cestyll ‘ma er mwyn eu cipio nhw ac er mwyn sicrhau ei fod o’n dal ei afael ar Gymru.”