Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod gan y Comisiynydd newydd “lawer o waith” i’w wneud ar Safonau’r Gymraeg, ac yn galw ar y Comisiynydd newydd i fod yn llawer mwy cadarn pan fydd cyrff yn methu cydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol.

Bydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn cynnal gwrandawiad heddiw (dydd Iau, Hydref 13) gyda’r ymgeisydd sydd wedi’i ffafrio i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg, sef Efa Gruffudd Jones.

Cafodd naw cais eu derbyn ar gyfer y swydd, a phedwar ohonyn nhw wedi cael cyfweliad ar Fedi 23 cyn i’r panel ddod i’r casgliad fod “un ymgeisydd penodiadwy”.

Efa Gruffudd Jones yw Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyn hynny, roedd hi’n gweithio yn yr un swydd gyda’r Urdd.

‘Angen bod yn fwy cadarn’

Mae Cymdeithas yr Iaith am weld y Safonau’n cael eu gosod ar ragor o gyrff “cyn gynted â phosib”, medden nhw, ac maen nhw hefyd yn dweud bod angen i’r Comisiynydd newydd fod yn fwy cadarn wrth ymdrin â chyrff sy’n torri’r Safonau, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gyfundrefn.

“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn boenus o araf yn cyflwyno Safonau ar gyfer cyrff newydd fel cwmnïau dŵr, trafnidiaeth gyhoeddus a chymdeithasau tai – cyrff sy’n cyflenwi gwasanaethau angenrheidiol ym mywydau bob dydd pobol,” meddai Aled Powell, cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith.

“Mae yna ddrafftiau o Safonau yn eistedd ar ddeg Gweinidog y Gymraeg ers misoedd lawer.

“Bydd angen i’r Comisiynydd newydd ddefnyddio’i dylanwad i sicrhau bod adnoddau’r Llywodraeth yn cael eu blaenoriaethu i gyflymu’r broses – mae’n hen bryd i’r gwasanaeth sifil roi’r adnoddau i mewn er mwyn rhoi diwedd ar yr holl oedi di-angen sydd wedi bod yn gosod Safonau.

“Os ydy hawliau honedig defnyddwyr y Gymraeg i gael eu parchu, mae angen sicrhau bod canlyniadau i gyrff sy’n methu â chydymffurfio â’u Safonau.

“Mae gwasanaeth trenau Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft, yn parhau o hyd i dorri nifer o’r Safonau a osodwyd arno ers cael ei greu.

“Mae o fewn gallu’r Comisiynydd i ddirwyo cyrff am dorri’r Safonau, ond dydy’r Comisiynydd erioed wedi gwneud hynny, gan olygu bod cyrff fel Trafnidiaeth Cymru yn parhau i dorri’r Safonau heb boeni dim yn ôl pob golwg.

“O ganlyniad, mae defnyddwyr Cymraeg yn colli ffydd yn y drefn ac yn cwestiynu a oes gennym ni hawliau mewn gwirionedd.

“Mae’n hanfodol felly bod y Comisiynydd newydd yn gwneud anghenion a hawliau pobol yn ganolog i’w gwaith, ac yn fwy cadarn wrth ymdrin â chyrff sy’n torri’r Safonau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn gwella.”