Mae angen iddi fod yn haws i gymunedau reoli eu hasedau lleol, yn ôl adroddiad newydd gan y Senedd.
Er bod lleoliadau fel canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a thafarndai yn hanfodol ar gyfer llesiant ac er mwyn cael mynediad at wasanaethau, mae grwpiau ledled Cymru yn wynebu nifer o rwystrau, medd yr adroddiad.
Clywodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd fod grwpiau ledled Cymru’n cael trafferthion, gan gynnwys diffyg hawliau statudol, cael mynediad at gyllid, a chael cymorth cywir gan awdurdodau lleol.
Mae’r Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu comisiwn er mwyn dod o hyd i ateb i’r problemau.
‘Angen ei gwneud hi’n haws’
Dywed John Griffiths, cadeirydd y pwyllgor ac Aelod Llafur o’r Senedd, fod brwdfrydedd mawr dros redeg asedau lleol ledled Cymru, ond nad ydy rhedeg menter er budd y gymuned yn dasg hawdd.
“Fe wnaethon ni gwrdd â nifer o grwpiau cymunedol i glywed am eu profiadau uniongyrchol,” meddai cynrychiolydd y Blaid Lafur yn Nwyrain Casnewydd yn y Senedd.
“Helpodd eu tystiolaeth ni i ddeall manteision perchnogaeth gymunedol, ond hefyd rai o’r heriau a’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu.
“Bydd angen cymorth gwahanol ar bob grŵp, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau – ond ry’n ni am i bawb gael y cyfle i ddwyn prosiectau asedau cymunedol yn eu blaen oherwydd y dystiolaeth ddiamheuol y gall gwasanaethau neu asedau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned ddod â manteision sylweddol.
“Dyna pam mae angen i ni ei gwneud hi’n haws i grwpiau lleol gymryd rhan mewn rhedeg yr asedau sydd wrth galon eu cymunedau.
“Rydyn ni wedi gwneud cyfres o argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i gyflawni hynny.”
Ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chlywed tystiolaeth gan grwpiau perthnasol, mae’r adroddiad yn cynnwys 16 o argymhellion, gan gynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu comisiwn i barhau â’r gwaith.
Dylai’r comisiwn hwnnw archwilio newidiadau deddfwriaethol posib, gwell mynediad at gyllid neu fenthyciadau fforddiadwy i grwpiau cymunedol, a sicrhau cymorth i’r grwpiau hynny gystadlu yn erbyn buddsoddwyr preifat pan ddaw asedau ar gael.
‘Er budd y gymuned’
Roedd Cwmpas, sydd wedi ymchwilio i berchnogaeth gymunedol ar asedau a thir, ymhlith y rhai roddodd dystiolaeth.
“Mae manteision asedau cymunedol yn amrywio o wella cydlyniant cymunedol, i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant, i well iechyd a llesiant,” meddai Casey Edwards, Cynghorydd Tai a Arweinir gan y Gymuned Cwmpas.
“Mae gan fentrau cymunedol y gwerth cymdeithasol hwnnw wrth wraidd popeth a wnânt; dyw e ddim rhywbeth ychwanegol nac yn rhywbeth sy’n neis i’w gael; yn hytrach, maen nhw’n byw ac yn anadlu gwerth cymdeithasol.
“A’r rheswm pam y cafodd y mwyafrif o’r mentrau cymunedol hyn eu sefydlu yn y lle cyntaf oedd er budd y gymuned yn fwy eang.
“Dyna yw eu nod cyntaf – nid yw’n ymarfer sy’n gwneud elw.”
Dylid sefydlu’r comisiwn ar berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau o fewn deuddeg mis, meddai’r pwyllgor.