Yn ystod digwyddiad ym Mrwsel, mae ymgyrchwyr wedi beirniadu’r helynt ysbïo ddaeth yn adnabyddus fel Catalangate.

Mae Elisenda Paluzie, cyn-lywydd Assemblea Nacional Catalana, a David Fernández, cyn-aelod seneddol gyda phlaid CUP, wedi beirniadu’r weithred gan Sbaen o ddefnyddio meddalwedd ysbïo Pegasus yn erbyn y mudiad annibyniaeth.

Yn y digwyddiad, dywedodd Paluzie y bydden nhw’n defnyddio pob dull posib o fewn y system farnwrol i gymryd camau yn erbyn y rhai oedd yn gyfrifol.

Mae hefyd wedi beirniadu’r ffaith nad oedd un o bwyllgorau Senedd Ewrop, sy’n ymchwilio i’r digwyddiad, wedi ymweld â Sbaen ar gyfer yr ymchwiliad.

“Rhaid i ni frwydro yn erbyn popeth,” meddai, gan ychwanegu nad oes angen mynd i banig a gadael i’r helynt darfu ar y mudiad annibyniaeth.

“Rhaid i ni beidio â gadael i bethau ddigwydd.

“Mae’n bwysig i’r mudiad ein bod ni’n cyflwyno neges bositif o rymuso a dyfalbarhad o ran ein syniadau a’n gweithgareddau.”

Dywed Fernández fod y defnydd o feddalwedd ysbïo’n “ymosodiad ar fudiad gwleidyddol heddychlon”, gan rybuddio bod y mater yn mynd ymhellach o lawer na ffiniau Catalwnia a Sbaen a’i bod yn broblem “fyd-eang”.

Dywed fod yr helynt yn dangos yr angen i gynyddu seibrddiogelwch, ac nad yw helynt Pegasus yn ddigwyddiad unigol.

Mae yntau hefyd wedi beirniadu diffyg ymchwiliad gan Sbaen.

Cefndir

Citizen Lab, grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Toronto yng Nghanada, oedd wedi bathu’r enw Catalangate ar gyfer yr helynt.

Maen nhw’n adrodd am achosion o dorri hawliau dynol trwy dechnoleg.

Nhw oedd yn gyfrifol am ganfod achosion o ysbïo yn erbyn gwleidyddion ac ymgyrchwyr tros annibyniaeth a’u cysylltiadau agosaf.

Yn ôl y wasg yn Efrog Newydd, dyma’r achos mwyaf o’i fath sydd ar gofnod.

Cafodd ffonau eu taro gan feddalwedd ysbïo Pegasus a Candiru.

Mae Pegasus o Israel yn adnabyddus ar draws y byd fel meddalwedd sydd wedi’i ddefnyddio droeon i ymosod ar bobol, gan gynnwys y newyddiadurwr Jamal Khashoggi a gafodd ei lofruddio, ac aelodau o wrthblaid Rwanda.

Dydy Candiru ddim mor adnabyddus ond mae’n gallu bod yr un mor beryglus â Pegasus.

Digwyddodd y mwyafrif o’r ymosodiadau rhwng 2017 a 2020, yn y blynyddoedd ar ôl refferendwm aflwyddiannus Catalwnia i gael annibyniaeth, a gafodd ei ystyried yn un “anghyfansoddiadol” gan Sbaen.

Ond roedd un ymosodiad blaenorol yn 2015 hefyd yn erbyn Jordi Sánchez, cyn-lywydd yr ANC ac un gafodd ei garcharu am ei ran yn yr ymgyrch.

Roedd ymosodiadau hefyd yn erbyn yr holl arlywyddion yng Nghatalwnia cyn 2010 – Artur Mas (2010-2015), Quim Torra (2018-2020) a Pere Aragonès pan oedd yn ddirprwy arlywydd i Torra cyn dod i rym yn 2021.

Doedd Carles Puigdemont (2016-2017) ddim wedi dioddef ymosodiad uniongyrchol ond cafodd 11 o’i gysylltiadau eu targedu, gan gynnwys ei wraig a’i gyfreithiwr oedd wedi cael eu hacio.

Ymhlith y targedau eraill roedd Roger Torres, cyn-lefarydd y senedd a’r gweinidog busnes presennol, a Laura Borràs, llefarydd presennol y senedd.